Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BY

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer  2016 - 2017

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Williams (Cyngor Sir Ddinbych) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2016/17.

 

 

2.

ETHOL IS GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer  2016 - 2017

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Michael Williams (Cyngor Sir Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2016/17.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Kenneth P.Hughes a Wyn Ellis Jones; Rosalind Williams (Esgobaeth Llanelwy), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwr),  Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd), R.Ellis Owen (Cyngor Bwrdeistref Conwy), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Iwan Evans (Awdurdod Lletyol), Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) a Huw Foster Evans (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 254 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2016 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD AR ANSAWDD Y GWASANAETHAU GWELLA YSGOLION A DDARPERIR GAN GONSORTIWM GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 267 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adroddiad ar ansawdd y gwasanaethau gwella ysgolion a ddarperir gan Gonsortiwm Gogledd Cymru.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at gasgliadau ac argymhellion arolwg Estyn a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin.  Nododd fod angen mynd i’r afael â dau faes yn benodol, sef:-

 

1)      Y gwaith sy’n mynd rhagddo i hyrwyddo safonau uwch o fewn ysgolion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4.

2)      materion yn ymwneud â gwerth am arian a phrosesau busnes ac o gwmpas y cwestiwn o effeithiolrwydd cyflenwi’r rhaglen a chysondeb ar draws y rhanbarth.

 

Manylodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ar yr argymhellion yn unigol ynghyd â’r gwaith o ddrafftio cynllun gweithredu cychwynnol mewn ymateb i’r argymhellion hynny.

 

Nododd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol ymhellach eu bod yn croesawu’r elfennau positif yn yr adroddiad ac yn derbyn yr atebolrwydd sydd ar y gwasanaeth. 

 

Nododd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn hyderu y byddai’r camau gweithredu yn sicrhau bod y llinellau atebolrwydd yn hollol glir.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol i’r Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli am ei gefnogaeth yn ystod cyfnod yr arolwg.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd:-

 

·         Bod y feirniadaeth ynglŷn â mesur gwerth am arian yn thema cyffredin yn adroddiadau arolwg Estyn / SAC ar bob un o’r 4 consortiwm Cymreig, ac yn agwedd bydd y rhanbarthau yn cydweithio arno i’w gyflawni i’r dyfodol.

·         Bod y camau a amlinellir ym mharagraffau 3.8 a 3.9 o’r adroddiad yn gadael GwE allan o’r darlun ac yn ymdrin ag awdurdodau lleol yn uniongyrchol.  Atebodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli ei fod yn croesawu’r eglurder o 2017 ymlaen, ond yn y pen draw, yr awdurdod lleol sydd â’r cyfrifoldeb statudol yn y meysydd hyn.

·         Y byddai wedi bod yn fuddiol i’r aelodau gael gweld drafft o’r cynllun gweithredu cyn y cyfarfod hwn.  Atebodd y Cyfarwyddwyr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) ei fod yn derbyn y sylw, ond y gallai sicrhau’r aelod fod y gwaith yn mynd rhagddo ac ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) y byddai’r drafft yn debygol o fod ar gael cyn cyfarfod Medi o’r Cyd-bwyllgor.

·         Er bod GwE yn gwbl atebol am wella perfformiad ar draws y Gogledd, nid yw’n gyfrifol am y rhwydweithiau rhanbarthol (sy’n gyfrifol am weithredu elfennau penodol o’r Model Cenedlaethol) a phwysleisiwyd bod  angen edrych ar hynny yn ofalus gyda golwg ar atebolrwydd a gwerth am arian.  Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Arweiniol / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli at y gwahanol strwythurau gan nodi y bwriedid cynnal gweithdai ar ansawdd a’r gwaith o graffu’r rhaglenni gwaith. 

 

Trafodwyd cyllido yn y tymor canolig.  Nododd Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd mai’r penderfyniad am 2016/17 oedd i ariannu GwE ar yr un toriad â grant y 6 awdurdod, ond erbyn 2017/18 a thu hwnt bod ansicrwydd bellach ar draws holl adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Ychwanegodd y byddai’n gweithio gyda Rheolwr Busnes a Chyllid GwE  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Y RHWYDWAITH CYLLID AC ADNODDAU pdf eicon PDF 363 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn diweddaru aelodau’r Cyd Bwyllgor ar weithgareddau’r Rhwydwaith Cyllid ac Adnoddau. 

 

Nodwyd y byddai dros £27 miliwn (85%) o gyfanswm gwariant gros y Grant Gwella Addysg ar gyfer 2016/17 yn cael ei ddatganoli i ysgolion a phwysleisiwyd pwysigrwydd parhau i wneud hynny i’r dyfodol.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod yr arian yn cael ei gyfeirio’n effeithiol er mwyn cael effaith bositif.

 

Diolchodd Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd ar ran y swyddogion cyllid sy’n gweithio gyda Phennaeth Addysg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

9.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH, 2016 pdf eicon PDF 59 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yn cyflwyno:-

 

·         Adroddiad “alldro” Incwm a Gwariant Refeniw 2015/16; a

·         Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’u hardystio, ond yn amodol ar archwiliad.

 

Cyfeiriodd at incwm £14,155,701 a gwariant £13,950,651 yn y ddau bapur.

 

Nodwyd bod angen cywiro’r dyddiad ar waelod tudalen 33 o’r rhaglen gyflawn, o dan Dystysgrif y Swyddog Cyllidol Cyfrifol, i ddarllen ‘31 Mawrth, 2016’.

 

Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y lleihad £1.4m mewn ymrwymiadau pensiwn yn symudiad ‘ar bapur’ yn hytrach nag adnodd y gellir ei ddefnyddio.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr atodiadau i’r adroddiad a chadarnhau’r driniaeth o’r tanwariant, sef –

 

·         Adroddiad “alldro’” Incwm a Gwariant Refeniw 2015/16 – Atodiad A

·         Datganiad o’r Cyfrifon 2015/16 ar ei ffurf statudol (yn amodol ar archwiliad) – Atodiad B.

 

10.

DATGANIAD LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 234 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn gwahodd y Cyd Bwyllgor i dderbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

          Ardystiodd y Cadeirydd ac un o’r dirprwyon ar ran Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, y Datganiad Llywodraethu ar ddiwedd y cyfarfod.

 

11.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 399 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cyd Bwyllgor.

 

Gwahoddwyd aelodau’r Cyd Bwyllgor i adolygu cynnwys y gofrestr gan benderfynu a oes unrhyw risgiau yr hoffent eu dwyn i sylw eu Cabinet ayyb.

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau dealltwriaeth o’r materion a nodwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Gofrestr Risg.

 

12.

CALENDR CYFARFODYDD 2016/17 pdf eicon PDF 301 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Busnes a Chyllid yn gofyn i’r Cyd Bwyllgor gytuno ar y rhaglen o gyfarfodydd am y flwyddyn i ddod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen isod o gyfarfodydd am y flwyddyn i ddod:-

 

CYFARFOD

DYDDIAD

AMSER

LLEOLIAD

Cyd-bwyllgor GwE

22/09/2016

9.00am

Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Bae Colwyn

Cyd-bwyllgor GwE

25/11/2016

9.00am

Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Bae Colwyn

Cyd-bwyllgor GwE

08/03/2017

9.00am

Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Bae Colwyn