skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Sioned Williams  01286 672729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Meirion Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Rita Price (Esgobaeth Wrecsam), Mair Herbert (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr), Ian Robert (Cyngor Bwrdeistrefol Wrecsam), Steve Vincent (Llywodraeth Cymru), Gareth Williams (Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol), a Alwyn Jones (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE).  

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o  fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyired.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 306 KB

(copi’n atodedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

 

5.

CYFLWYNIAD G6

Cyflwyniad ar lafar

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Cydbwyllgor o’r system G6, sef system sydd yn galluogi ysgolion i gynnal deialog gyda’i Ymgynghorydd Cefnogi Gwelliant am eu cynnydd drwy fewnbynnu gwybodaeth i mewn i ddangosfwrdd rhanbarthol. Bydd mynediad hefyd ar gael i awdurdodau lleol. Bwriad y system G6 yw trawsnewid y berthynas rhwng GwE ac ysgolion ac i annog cyd-weithio rhwng ysgolion. Nodwyd bod y sustem eisoes wedi ei dreialu mewn ysgolion yn Sir Ddinbych ac mae’r ymateb iddo wedi bod yn gadarnhaol iawn.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas â:

 

§  Posibilrwydd i osod lefel mynediad gwahanol i’r sustem ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr.

§  Mesur dilysrwydd dyfarniad ysgolion wrth iddynt fewnbynnu gwybodaeth.

§  Her o ddelio gydag ysgolion sydd mewn categori coch/melyngoch ond ddim eisiau cael eu cyhoeddi.

§  Pwyslais bod y sustem yn arf i wella perfformiad nid arf i arfarnu ysgolion.

§  Oes gan y 3 consortiwm arall sustem debyg/oes modd ehangu’r sustem i fod yn genedlaethol?

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 - CHWARTER 3 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad monitro perfformiad chwarter 3 ar gyfer Cynllun Busnes Lefel 1. Amlygwyd bod angen edrych ar effaith y gweithredu a bod angen sicrhau bod pawb yn glir o beth yw’r rhesymeg tu ôl i’r blaenoriaethau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas â:

 

§  Cwestiynwyd os yw’n ddilys nodi’r elfen arweinyddiaeth yn ‘wyrdd’ - mae’r gwaith gweithredu yn ‘wyrdd’ ond nid yw’r deilliannau.

§  Angen trefnu cyfarfod cyn i aelodau’r Cabinet gyfarfod gyda’r WLGA ym mis Mawrth.

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

7.

ADRODDIAD MONITRO Y GYLLIDEB 2017-18 - CHWARTER 3 pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn Adolygiad Chwarter 3.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD CYLLLIDEB SYLFAENOL 2018/19 pdf eicon PDF 381 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol, a nodwyd bod angen i’r cydbwyllgor mabwysiadu’r gyllideb am y flwyddyn sydd i ddod.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau’r cydbwyllgor mewn perthynas á:

 

§  Pwysigrwydd rheoli’r risg.

§  Awgrym i flaenoriaethu unrhyw adnodd cyllidol sydd dros ben i ysgolion sydd yn y categori ‘coch’.

§  Pwysigrwydd sicrhau gwerth am arian wrth roi rhagor o arian i ysgolion yn y categori ‘coch’ - nid yw darparu mwy o arian yn golygu bod yr ysgol am wella.

PENDERFYNWYD: Mabwysiadau’r gyllideb.

 

 

9.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG 2017/18 - 2020/21 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn y ffigyrau ac nid oes angen llawer o newid i’r cynllun gweithredu.

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r cynllun.

 

 

10.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwyr Busnes GwE y gofrestr risg. Nodwyd bod angen i’r cydbwyllgor adolygu cynnwys y gofrestr a’i dderbyn.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn y cofrestr risg.

 

11.

ADRODDIAD Y BWRDD YMGYNGHOROL pdf eicon PDF 325 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Bwrdd Ymgynghorol yn nodi’r trafodaethau a fu yn eu cyfarfod diwethaf. Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Llongyfarchwyd Aled Evans am ei benodiad mewn rôl arweiniol gyda Llywodraeth Cymru a nodwyd bod Carl Hughes wedi ei benodi fel aelod newydd o’r Bwrdd Ymgynghorol.

 

PENDERFYNWYD: Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

12.

DYDDIADAU CYFARFODYDD pdf eicon PDF 301 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd cais am ddyddiadau i gyfarfod Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn y cais.