Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Sioned Williams  01286 679729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cyng. Huw Hilditch-Roberts (Cyngor Sir Ddinbych), Rosalind Williams (Yr Eglwys yng Nghymru), Janoathan Morgan 9Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Arwyn Williams (Cyngor Sir Ynys Mon), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Garem Jackson (Cyngor Gwynedd), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Mon), Rhys Howards Hughes (Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o  fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

I gadarnhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 23 Mai 2018 (copi’n amgaeedig).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 23 Mai 2018, fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD LLYWODRAETHU 2017-18 pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethau drwy gyd-bwyllgorau ffurfiol. Nodwyd fod gofyn i’r Cydbwyllgor i dderbyn a chymeradwyo’r Datganiad. Mynegwyd fod Datganiad Llywodraethu seiliedig ar yr un gyhoeddwyd y llynedd a na doedd llawer o newid.  Edrychwyd yn benodol ar Egwyddorion, gan nod i y prif egwyddorion a oedd yn cynnwyd bod yn agored, sgiliau a chreadigedd a perthnasau effeithiol.

 

Manylwyd ar pryd y bu i’r Cyd-Bwyllgor gyfarfod, ac yn ogystal y Grŵp Defnyddwyr, sydd yn gyfle i ysgolion roi adborth. Nodwyd fod adroddiad wedi ei greu yn dilyn ymweliad Estyn a GwE yn nodi’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn dilyn arolygiad yn ystod 2016. Ychwanegwyd fod yr adroddiad wedi bod o flaen y cyd-bwyllgor yng Nghyfarfod Tachwedd 2017. Esboniwyd nad oes llawer o newid wedi ei wneud i’r Datganiad a gymeradwywyd y llynedd ond y bydd angen ei fabwysiadu.

 

6.

AROLYGIAETH DYSGU: ADOLYGIAD ANNIBYNNOL O ESTYN - YR ATHRO GRAHAM DONALDSON

 

 

Cyflwyniad gan Alwyn Jones.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi bod yn ystod y cyfarfod blaenorol am atebolrwydd ac ychwanegwyd fod yr adroddiad hwn yn ffitio i mewn i’r fframwaith atebolrwydd. Ychwanegwyd wrth edrych ar yr adroddiad ei fod yn codi pryderon. Mynegwyd fod yr arolygu presennol yn gallu amharu ar y consortiwm newydd.

 

Nodwyd y camau sydd wedi ei nodi yn yr adroddiad gan nodi fod y cam gyntaf yn ailgyfeirio Estyn i gefnogi ysgolion a nad fydd arolygu yn cael ei gynnal yn ystod 2019/20. Esboniwyd y bydd ysgolion y categori statudol yn parhau i gael ail ymweliad. Bydd trefn hunan arfarnu newydd yn cael ei newid a bydd fframwaith yn cael ei greu er mwyn cynorthwyo ysgolion. Mynegwyd y bydd y fframwaith yn cael ei beilota yn ystod mis Medi. Nodwyd yr ail gam fydd dechrau arolygu eto o 2020 ymlaen. Ymhelaethwyd y bydd yn edrych yn fanylach ar hunan arfarnu a byddant yn nodi sut y bydd plant yn cael safonau a blociau ansawdd dysgu. Esboniwyd mai y trydydd cam fydd yr arolygiadau a fydd yn hunan arfarnu. Bydd dyletswydd i hunan arfarnu yn gyhoeddus a byddant yn cael ei herio gan gyfoedion. Holwyd os ysgolion ar gategori isel beth fydd yn digwydd i’r rhain.

 

Nodwyd fod angen eglurdeb o beth fydd rhan 2 a beth fydd rôl y consortia. Mynegwyd o ran edrych ar yr ail gam fod y consortia am fod yn cefnogi a hwyluso newid, yn ychwanegol ar y rôl o gweithio a  clystyrau. Ond mynegwyd nad yw’r rôl i’w weld yn glir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod angen eglurdeb o rolau pawb – fel bod mwy o ddealltwriaeth o atebolrwydd.

-        Ychwanegwyd mai’r prif bwrpas yw i dynnu’r ofn o arolygiadau.

-        Holwyd beth yw capasiti Estyn er mwyn symud o’r drefn bresennol i’r drefn newydd. Ychwanegwyd ei bod yn dda cael model newydd ond yn bell o’i gyflawni.

-        Mynegwyd fod angen newid yn ymddygiad Estyn, gan fod Estyn yn rhan o’r broblem ac yn rhan o’r datrysiad.

-        Holwyd beth yw’r amserlen – nodwyd fod disgwyl i newidiadau ddechau digwydd yn ystod 2019/20.

-        Ychwanegwyd y bydd angen cynllun cyfathrebu clir unwaith  y bydd eglurhad clir a pellach am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

7.

CYNNIG PROFFESIOYNOL GwE

Cyflwyniad gan Euros Davies.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai hwn yw yr ail gynnig ers mis Tachwedd, ychwanegwyd fod y fersiwn hwn yn beth oedd GwE eisiau i gynnig. Ychwanegwyd fod yr cynnig bellach yn gynnwys 54 o fodelau rhesymeg. Esboniwyd mae cynlluniau yw’r modelau rhesymeg ac eu bod yn canolbwyntio yn benodol ar effaith.

 

Dangoswyd enghraifft o’r Model Rhesymeg gan nodi eu bod yn cynnwys tybiaethau. Ychwanegwyd nad oed un model perffaith ond ei fod yn agored i newid. Nodwyd fod blaenoriaethau GwE a blaenoriaethau cenedlaethol wedi ei hymgorffori yn y Modelau Rhesymeg. Anfonwyd y Cynnig Proffesiynol i’r ysgolion yn ystod mis Mehefin, gan fod sylwadau wedi ei derbyn yn dilyn eu hanfon llynedd yn nodi fod Mis Tachwedd yn rhy hwyl yn y flwyddyn.

 

Mynegwyd fod yr hyfforddiant bellach ar gael, a bydd modd i’r ysgolion bwcio ar y we i fod yn rhan o’r hyfforddiant. Hyd yma, nodwyd fod yr adborth gan ysgolion wedi bod yn dda ac ei fod wedi ei ryddhau mewn amser i fwydo i mewn i’r CDY.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Holwyd os yw hi yn anodd i athrawon fynychu’r hyfforddiant o ganlyniad i gyllidebau prin i ryddhau staff. Nodwyd ei bod yn gallu bod yn anodd i athrawon ond gobeithi’r  pan fydd ysgolion mewn clystyrau y bydd un athro o’r glwstwr yn mynd ac adrodd yn ôl i ysgolion y clwstwr.

-        Trafodwyd toriadau gan nodi fod angen codi gwestiynau gyda WLGA yn nodi gyda cyllidebau yn cael eu torri sut mae modd i ysgolion wneud datblygiadau a trawsffurfio y ffordd maent yn gweithio. Ychwanegwyd fod y toriadau yn grantiau a o ganlyniad mae’r toriadau cenedlaethol yma yn osgoi democratiaeth leol.

-        Ychwanegwyd ei bod yn broblem ymarferol i adael athrawon o’r ysgolion er mwyn gwneud hyfforddiant proffesiynol. Ond diolchwyd i Euros Davies am ei waith.

-        Nodwyd fod dashfwrdd newydd ar y wefan a bydd modd i’r Llywodraethwyr ei ddefnyddio i fynd drwy’r CDY, ac y bydd modd cofnodi datblygiad proffesiynol ar wefan a bydd rhain yn cynnwys hyfforddiant tu allan i GwE yn ogystal.

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad.

8.

YSGOLION FEL SEFYDLIAD SYDD YN DYSGU

Cyflwyniad gan Euros Davies.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan nodi fod cyhoeddiad wedi bod yn nodi beth sydd yn gwneud ysgol yn Sefydliad Sydd yn Dysgu. Ychwanegwyd beth sydd wedi ei amlygu yw fod angen datblygu a bod yn arloesol yn hytrach na’r tuedd i ymateb i broblemau. Mynegwyd fod Llywodraeth Cymru wedi nodi gweledigaeth ar gyfer amlygu Ysgolion fel Sefydliad sy’n Dysgu (YSD).

Dangoswyd templed o’r weledigaeth ar gyfer YSD. Mynegwyd fod sawl lle wedi cychwyn yn barod. Holwyd beth fydd yn digwydd yn lleol – nodwyd y bydd ysgolion yn cael dewis yn ystod yr haf. Ychwanegwyd y bydd angen ciplun o ysgolion a byddant hyn yn cael ei wneud drwy adolygiad a fydd yn gweld os yw’r dealltwriaeth o’r weledigaeth i’w gweld ar draws staff yr ysgolion.

Nodwyd mai y camau nesaf fydd i’r ysgolion arwyddo CL4 GwE er mwyn datblygu agweddau penodol. Nodwyd y bydd grŵp o ysgolion yn creu animeiddiad o beth yw YSD gan nodi fod disgwyliad i bob ysgol fod yn YSD o Hydref 2019. Ychwanegwyd y bydd GwE yn parhau i weithio gyda ysgolion penodol a bydd modd iddynt rannu eu gwybodaeth o fewn eu hadrdal. Bydd yr arolwg yn cael ei anfon allan i ysgolion cyn Tachwedd 2018.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd beth mae GwE yn ei wneud gyda Prifysgolion er mwyn sicrhau fod athrawon y dyfodol a’r sgiliau sydd ei angen ar gyfer YSD. Nodwyd fod partneriaeth dynna a Prifysgolion Bangor a Gaer sydd yn gweithio i ddatblygu athrawon yn dyfodol gan ychwanegu pan y byddant yn graddio a mynd i mewn i ysgolion hyn fydd agenda yr athrawon yma.

-        Nodwyd fod yr adroddiad er gwybodaeth i gadw pawb ar y cyd-bwyllgor yn gyfredol.

PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad

 

9.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan nodi fod y ddogfen fyw sydd yn addasu yn aml. Nodwyd fod 11 o’r risgiau wedi eu diweddaru, ac ychwanegwyd fod risg 2, 5 a 14 yn rhai newydd yn dilyn cyfuno amrywiol risgiau eraill.

Ychwanegwyd fod risg ychwanegol sef cael gwybodaeth yn amserol gan y Llywodraeth, a defnyddiwyd Cod Ysgolion sydd fod wedi ei gyhoeddi ers Mai fel enghraifft.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Codwyd cyn lleied oedd newidiadau yn y gofrestr risg yn dilyn y camau lliniaru a nodwyd y bydd angen edrych ar y camau.

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo’r adroddiad.

 

10.

DATGANIAD O'R CYFRIFON 2017/18 - ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cyfrifon Mawrth yw y rhain ac mai datganiadau wedi ei ardystio yw’r atodiadau. Nodwyd y bydd y datganiadau yn dod yn ôl ym mis Medi yn dilyn archwiliad pellach. Esboniwyd y ddogfen gan pwysleisio rhai ffigyrau.

 

Nodwyd mai’r prif broblem yw cael arian yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. O ganlyniad i hyn, mynegwyd ei bod yn anodd cynllunio i’r dyfodol a penderfynu sut i wario’r arian. Ychwanegwyd nad yw’n edrych fel y bydd hyn yn newid yn fuan a nodi nad yw’r sefyllfa yma unigryw i addysg yn unig. Nodwyd yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni y bydd modd defnyddio y gyllideb mewn ffordd wahanol, ond bydd angen mwy o sefydlogrwydd.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn y cofrestr risg.