skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20

Cofnod:

Penderfynwyd gohirio'r penderfyniad tan gyfarfod mis Medi.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Cyn mynd at i dderbyn yr ymddiheuriadau croesawyd Cyng. Julie Fallon i’w chyfarfod cyntaf a diolchwyd i’r Cyng. Garffild Lewis am ei gyfraniad dros y cyfnod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Ian Roberts, Arwyn Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Claire Homard (Cyngor Sir y Flint), Dafydd L Edwards (Awdurdod Lletyol - Cyngor Gwynedd), Sion Huws (Awdurdod Lletyol - Cyngor Gwynedd)

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 66 KB

(copi wedi ei atodi)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22 Mai 2019 fel rhai cywir.

 

Ychwanegwyd o ran eitem ‘Cyfrifon GwE’ - gan fod un o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol GwE yn gadael ei swydd ni fydd y swydd yn cael ei hail-lenwi fel y bydd modd cwrdd â’r toriadau sydd eu hangen am eleni. Ychwanegwyd y bydd adroddiad yn dod ger bron yn fuan i nodi hyn yn llawn.

 

6.

DATGANIAD O'R CYFRIFON 2018/19 pdf eicon PDF 93 KB

Dafydd L Edwards i gyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio, ond yn amodol ar archwiliad

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2018/19

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Adran 12 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn nodi  fod Cydbwyllgor o fwy nac un awdurdod yn gorff Llywodraeth Leol,  ac fod Adran 13 o’r ddeddf yn mynnu bod Cydbwyllgor  yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwilwyr annibynnol. Ychwanegwyd fod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn nodi ble mae’r trosiant yn fwy na £2.5miliwn rhaid paratoi datganiad o’r cyfrifon yn unol â chod CIPFA ar gyfer Cydbwyllgor. Pwysleisiwyd fod adroddiad “alldro” syml a chryno wedi ei gyflwyno ym mis Mai ac yn fwy defnyddiol i bwrpasau  mewnol, tra mae’r Datganiad o Gyfrifon  yn fwy addas ar gyfer pwrpasau llywodraethu. Ategwyd y bydd y datganiad yn destun archwiliad gan gwmni Deloitte ac amlinellwyd y bydd adroddiad ‘ISA 260’ yn cael ei gynhyrchu a’i  gyflwyno i’r Cydbwyllgor ar 11 Medi 2019.

 

Tynnwyd sylw at rhai agweddau o’r datganiad gan gynnwys y Gronfa Bensiwn.  Nodwyd bod y Fantolen yn cynnwys asesiad gan Actiwari y Gronfa, Hymans, o gyfran y Cydbwyllgor o ymrwymiad y Gronfa Bensiwn.  Nodwyd bod yr ymrwymiad wedi cynyddu yn 2018/19. 

 

Amlygwyd fod newid mawr o ran Dyledwyr Tymor Byr am eleni yn bennaf  o ganlyniad i arian nifer o grantiau wedi cyrraedd yn ystod,  yn hytrach nag ar ôl, diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Holwyd pam fod gwariant Eiddo wedi cynyddu cymaint eleni wrth gymharu gyda llynedd - nodwyd fod hyn gan fod GwE wedi symud i adeilad newydd ychydig drytach yn yr Wyddgrug, ond bod modd cynnal fwy o hyfforddiant yn yr adeilad newydd, sy’n galluogi GwE i ddenu incwm. Nodir bod y mater eisoes wedi’i  amlygu wrth sefydlu cyllideb 2019-20 yng nghydbwyllgor GwE mis Chwefror 2019.

¾    Holwyd pam bod y nifer o staff derbyniodd tal dros £60,000 wedi cynyddu wrth gymharu gyda llynedd – Nodwyd bod y trothwy £60,000 heb newid ers blynyddoedd er i gyflogau gynyddu gyda chwyddiant tal.

¾    Holwyd pam fod grantiau wedi lleihau wrth gymharu gyda llynedd - nodwyd bod grantiau un tro wedi’i dderbyn yn 2017/18 a bod toriad i’r Grant Gwella Addysg yn 2018/19.

¾    Trafodwyd grantiau gan fynegi fod nifer o grantiau bellach wedi eu gosod oddi fewn y Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol.

¾    Gofynnwyd o dan y pennawd ‘GGA - Ariannu Cyfatebol’ pam nad oedd Wrecsam yn cyfrannu o gwbl - nodwyd bod hyn yn fater technegol gan mai asesiad cynghorau unigol oedd pa elfen o’u harian cyfatebol y diffinnir fel datganoledig neu heb ei ddatganoli. Nodwyd nid yw’r elfen ddatganoledig yn ymddangos yng nghyfrifon GwE a bod cyfraniad gros arian cyfatebol yn cymharol gyson wrth ystyried yr elfen ddatganoledig a’r elfen heb ei ddatganoli.  Cynigwyd i gyflwyno papur fyddai’n amlygu’r mater i’r cydbwyllgor nesaf os oedd dymuniad, gwrthodwyd y cynnig.

7.

DATGANIAD LLYWODRAETHU 2018-19 pdf eicon PDF 66 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno Datganiad Llywodraethu blynyddol GwE

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y datganiad hwn yn cael ei gyflwyno yn flynyddol, Nodwyd fod GwE yn gyfrifol am gynnal adolygiad effeithlonrwydd o’i fframwaith Llywodraethu gan gynnwys y system rheolaeth fewnol. Gofynnwyd pwy sydd yn dal GwE yn atebol ac o ran polisïau a phenderfyniadau'r Cydbwyllgor. Manylwyd ar y drefn o lywodraethu gan nodi cyfarfodydd craffu gydag Awdurdodau Lleol, ymweliadau gan Estyn ynghyd â chyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru. Pwysleisiodd Rheolwr Cyfarwyddwr GwE fod yr atebolrwydd allanol yn drwm.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Holwyd faint yw gwerth yr adolygiadau i GwE a beth yw cost eu cynnal. Gofynnwyd a oes trefn well y gallai GwE ei ddefnyddio fel eu bod yn osgoi'r gost.

-       Mynegwyd fod GwE yn gorff eithaf ifanc ac yn drefn partneriaeth, felly mae rheoleiddio aml i sicrhau  fod y gwaith partneriaeth yn gweithio.

-       Nodwyd fod adroddiadau allanol yn bwysig a bod cylch awdurdodau lleol a rhanbarthol yn dynn

8.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 77 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y gofrestr risg ddiweddaraf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd y gofrestr risg gan nodi fod y ddogfen yn un byw sydd yn cael ei ddiweddaru yn gyson. Mynegwyd fod addasiadau wedi ei gwneud ac awgrymwyd tynnu rhai risgiau allan o’r gofrestr. Ychwanegwyd bod y gofrestr yn cael ei hadolygu yn chwarterol gan y Cydbwyllgor.

 

9.

YMGYSYLLTU A CHYMHEIRIAID pdf eicon PDF 70 KB

Alwyn Jones i gyflwyno papur ar ddatblygu model Ymgysylltu â Chymheiriaid yng Ngogledd Cymru i'r Cyd-bwyllgor i’w gymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo datblygu model Ymgysylltu â chymheiriaid yng ngogledd Cymru, fel yr amlinellir yn Atodiad 1.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod disgwyliad i ysgolion fod yn hunan-wella ac yn cyd-weithio gydag ysgolion eraill er mwyn codi safonau a lleihau’r bwch cyrhaeddiad. Mynegwyd y bydd categoreiddio ysgolion yn parhau am flwyddyn arall.

 

Nodwyd fod yr adroddiad yn ceisio nodi patrwm posib ar gyfer datblygu model ymgysylltu â chymheiriaid. Ychwanegwyd fod y dull gweithredu rhanbarthol eisoes wedi mabwysiadu model gweithio mewn clwstwr. Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal droeon yn y Cydbwyllgor am ba mor gymhleth fydd yw’r holl newidiadau mewn ysgolion. Er hyn mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen.

 

Mynegwyd fod y model yn blaenoriaethu ysgolion ac wedi ei greu ar y cyd gydag ysgolion. Nodwyd fod yr egwyddorion wedi eu creu gyda Phenaethiaid a bod bron i 300 o benaethiaid wedi dangos diddordeb i gynorthwyo gyda’r gwaith.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod creu’r model yma yn angenrheidiol. Drwy roi arian i glystyrau bydd yn rhoi’r cyfle iddynt benderfynu ar sut i benderfynu ar eu blaenoriaethau.

¾     Nodwyd fod 2020/21 yn flwyddyn ble na fydd arolygiadau Estyn yn cael eu cynnal. Bydd fframwaith arolygu newydd yn ystod 2021 a fydd wedi ei seilio ar gymheiriaid a chydweithio.

 

10.

G6 - DIWEDDARIAD

Cyflwyniad gan Llyr G Jones