Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 15 GORFFENNAF, 2020 pdf eicon PDF 235 KB

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd yn gofnod priodol o’r cyfarfod ar 15 Gorffennaf, 2020.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 310 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Bod y Cyd-bwyllgor yn derbyn, nodi a chymeradwyo’r wybodaeth sy’n yr atodiadau i’r adroddiad, sef –

 

·         Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru;

·         Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (yn dilyn archwiliad), gyda’r addasiadau hwyr a nodwyd yn y cyfarfod ar gais yr archwilwyr allanol, yn dilyn rhyddhau’r Datganiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor.

 

(b) Bod Cadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE), yn arwyddo’n electronig y Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru) wedi i’r Cyd-bwyllgor ystyried y wybodaeth yn yr atodiadau.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)     Derbyn, nodi a chymeradwyo’r wybodaeth sy’n yr atodiadau i’r adroddiad, sef –

 

·         Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru;

·         Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (yn dilyn archwiliad), gyda’r addasiadau hwyr a nodwyd yn y cyfarfod ar gais yr archwilwyr allanol, yn dilyn rhyddhau’r Datganiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor.

 

(b)     Awdurdodi Cadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE), i arwyddo’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru) wedi i’r Cyd-bwyllgor ystyried y wybodaeth yn yr atodiadau.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Pennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yn egluro y bu y Datganiad o Gyfrifon GwE am 2019/20 a gyflwynwyd i gyfarfod 15 Gorffennaf, 2020 o’r Cyd-bwyllgor yn destun archwiliad gan Deloitte, archwilwyr allanol a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.  Nododd ymhellach fod angen i’r cyfarfod hwn o’r Cyd-bwyllgor ystyried y wybodaeth yn adroddiad ‘ISA260’ Archwilydd Cyffredinol Cymru, oedd yn manylu ar brif ddarganfyddiadau Deloitte, ynghyd â’r fersiwn derfynol (yn dilyn archwiliad) o’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2019/20. 

 

Wedi i’r Cyd-bwyllgor ystyried yr uchod, roedd gofyn i Gadeirydd y cyfarfod, ynghyd â Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE), arwyddo’n electronig y Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru).

 

Nodwyd ymhellach, yn dilyn cyhoeddi rhaglen y Cyd-bwyllgor, y bu i’r archwilwyr allanol roi gwybod bod angen i gyfrifon GwE, fel cyflogwr yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd, adlewyrchu’r ansicrwydd prisio cyffredinol yn gysylltiedig â buddsoddiadau mewn cronfeydd eiddo ym mhortffolio asedau’r Gronfa Bensiwn ar 31 Mawrth 2020, fel a ganlyn:-

 

ADRODDIAD NARATIF (paragraff 3) [tud 2]

“Mae y cyfrifon wedi eu paratoi ar sail busnes gweithredol.”

 

NODYN 1 – POLISÏAU CYFRIFO [tud 12]

1.1 Egwyddorion Cyffredinol

 

“Mae y cyfrifon wedi eu paratoi ar sail busnes gweithredol.”

 

NODYN 5 - TYBIAETHAU WEDI EU GWNEUD AM Y DYFODOL A FFYNONELLAU ERAILL O AMCANGYFRIF ANSICR [tud 18]

 

Mae’r pandemig Coronafirws (COVID-19) wedi effeithio marchnadoedd ariannol ac eiddo yn fyd-eang. Yn sgil yr anweddolrwydd yng nghyflwr y farchnad, mae adroddiadau prisio diwedd flwyddyn a ddarperir i Gronfa Bensiwn Gwynedd yn cynnwys datganiad bod ansicrwydd prisio yn gysylltiedig â chronfeydd eiddo DU a reolir ar ran y Gronfa. Cyfanswm gwerth cronfeydd eiddo DU ar 31 Mawrth 2020 yw £191m ac mae £1.7m i'w briodoli i GwE. O ganlyniad, gall prisiadau’r gronfa eiddo ar 31 Mawrth 2020 fod yn destun lefel uwch o ansicrwydd.”

 

Gwahoddwyd Ian Howse o gwmni Deloitte UK i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwiliwr Cyffredinol Cymru.  Nododd:-

 

·         Y bwriedid cyhoeddi barn ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i arwyddo.

·         Nad oedd yna risgiau sylweddol i’w hamlygu.

·         Bod y sefyllfa COVID wedi cael effaith ar yr amserlen y gwaith eleni.

·         Ni chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau, oedd dal heb eu cywiro, yn y cyfrifon.

·         Nad oedd angen cywiro unrhyw ddatganiadau o ganlyniad i’r gwaith archwilio.  Roedd y newidiadau i’r cyfrifon o ganlyniad i’r gwaith archwilio yn ymwneud â mân faterion datgelu yn unig.

·         Nad oedd yna unrhyw faterion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB - MONITRO CHWARTER 1 pdf eicon PDF 458 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21, gan hefyd egluro’r rhesymau y tu ôl i’r prif amrywiadau a ragwelid.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid, er bod COVID wedi cael ardrawiad ar GwE, na fu hynny cynddrwg â’r effaith ar rai gwasanaethau eraill, megis hamdden.  Diolchodd i’r Cyfrifydd Grŵp, yr Uwch Gyfrifydd a’r tîm am baratoi’r gyllideb.

 

Gan gyfeirio at y golled incwm, nododd y Cadeirydd fod rhai cynghorau wedi derbyn cymorth gan y Llywodraeth, a holodd a oedd y consortia wedi’u diystyru.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod modd i GwE hawlio, ond nad oedd hynny wedi digwydd oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru am ddigolledu awdurdodau

7.

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL - COSTAU TEITHIO GWE pdf eicon PDF 546 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Bod y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau ei fod yn sicr bod GwE yn:-

 

·         Dilyn y newid polisi gan Gyngor Gwynedd ers mis Gorffennaf 2018;

·         Cefnogi’r gofyn i reolwyr GwE adolygu hawliadau treuliau teithio.

 

(b) Gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr GwE, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, adolygu’r trefniadau llywodraethu ac adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)     Bod y Cyd-bwyllgor yn cadarnhau ei fod yn sicr bod GwE yn:-

 

·         Dilyn y newid polisi gan Gyngor Gwynedd ers mis Gorffennaf 2018;

·         Cefnogi’r gofyn i reolwyr GwE adolygu hawliadau treuliau teithio.

 

(b)     Gofyn i Reolwr Gyfarwyddwr GwE, mewn ymgynghoriad â Swyddog Monitro a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd, adolygu’r trefniadau llywodraethu ac adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn rhoi sicrwydd i’r Cyd-bwyllgor fod GwE wedi cydymffurfio gyda pholisi Cyngor Gwynedd ar gyfer ad-dalu treuliau teithio, lle bydd swyddogion yn hawlio ad-daliad dim ond am nifer y milltiroedd busnes a deithir yn ychwanegol at nifer y milltiroedd a deithir rhwng y cartref a’r gwaith / y gwaith a’r cartref.  Eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod GwE wedi gweithredu ar ôl ymgynghori ag Adran Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd a dod i gytundeb llawn â’r adran honno.  Ymhellach, roedd yr adroddiad yn darparu sicrwydd bod GwE wedi mynd i’r afael â’r cam lliniaru a ddeilliodd o’r Adroddiad Archwilio Mewnol, sefAtgoffa rheolwyr i adolygu hawliadau treuliau teithio’.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

·         Cyfeiriwyd at drafodaeth gyhoeddus yng nghyfarfod Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Cyngor Gwynedd ar 30 Gorffennaf, 2020, am delerau gwaith a hawliadau treuliau teithio GwE, a gofynnwyd i Reolwr Gyfarwyddwr GwE roi sicrwydd i’r aelodau os bu canfyddiad camarweiniol yn deillio o hynny.  Mewn ymateb, eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod staff GwE yn dilyn yr un drefn â Chyngor Gwynedd, ac yn cyd-fynd â’r hyn a gytunwyd gydag Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd.

·         Nododd aelod, yn dilyn y drafodaeth yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, iddo ddarllen yn y wasg am faterion nad oedd yn ymwybodol ohonynt, a mynegodd ei siomedigaeth â’r awdurdod lletyol am beidio dod â’r materion hyn gerbron y Cyd-bwyllgor cyn i’r wasg gael gafael ar y stori.  Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ei fod yn cydnabod bod yna wersi i’w dysgu, a chadarnhaodd y byddai swyddogion GwE a’r awdurdod lletyol yn edrych ar y gwersi hynny, yn trafod sut i gyfathrebu i’r dyfodol, ac yn adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth oedd canfyddiad yr awdurdod lletyol o’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cyllid fod gwersi wedi’u dysgu gan bawb  Tra nad oedd rhybudd wedi’i roi i’r Cyd-bwyllgor, nodwyd fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i reolaeth GwE ers mis Mawrth 2020, ac nid oedd wedi disgwyl i fanylion y mater godi yn y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.  Yn amlwg, byddai wedi bod yn llywodraethu gwell petai’r Cyd-bwyllgor wedi derbyn yr wybodaeth, ond y peth cyntaf a wnaeth ar ôl deall bod y mater yn mynd gerbron y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd trefnu’r eitem gerbron y cyfarfod hwn.

·         Nodwyd yr ymgynghorwyd â Bwrdd Rheoli GwE ar y mater a’u bod yn fodlon â’r trefniadau arfaethedig ar y pryd, ac wedi’u sicrhau bod GwE yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ASESIADAU RISG: SWYDDFEYDD, YMWELD AG YSGOLION A STAFF pdf eicon PDF 320 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Cymeradwyo cynnwys yr Asesiadau Risg.

(b) Rhoi awdurdod i Fwrdd Rheoli GwE gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Asesiadau Risg i ymateb i sefyllfa Cofid-19, gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Coronafirws, canllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys rheoli dychwelyd i’r swyddfeydd, ysgolion a hyfforddiant wyneb yn wyneb, mewn ffordd ddiogel.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)     Cymeradwyo cynnwys yr Asesiadau Risg.

(b)     Rhoi awdurdod i Fwrdd Rheoli GwE gymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Asesiadau Risg i ymateb i sefyllfa Cofid-19, gan gydymffurfio â’r Rheoliadau Coronafirws, canllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys rheoli dychwelyd i’r swyddfeydd, ysgolion a hyfforddiant wyneb yn wyneb, mewn ffordd ddiogel

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn cyflwyno Asesiadau Risg GwE i'r Cyd-bwyllgor (COVID-19 - Diogelu Cymru yn y Gwaith).

 

Eglurwyd bod gan GwE ddyletswydd gyfreithiol i reoli’r risgiau yn y gweithle, gan gynnwys y risgiau o COVID-19, yn unol â Rheoliadau Coronafirws Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau oedd â’r hawl i weithredu, neu leoliadau oedd â’r hawl i agor wneud hynny’n ddiogel, yn ogystal â gofynion cyfreithiol eraill ar gyflogwyr (megis deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch). 

 

Gan fod yr asesiadau risg yn ddogfennau byw oedd yn cael eu hadolygu yn rheolaidd, gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor awdurdodi Bwrdd Rheoli GwE i gymeradwyo unrhyw newidiadau, er mwyn sicrhau bod y mesurau yn dal yn effeithiol ac yn ymateb i sefyllfa COVID-19.  Nodwyd hefyd y byddai’r Bwrdd yn darparu gwybodaeth ac yn adrodd yn ôl i’r Cyd-bwyllgor ar y prif newidiadau pan fyddai’n amserol i wneud hynny.

 

Diolchodd y Cadeirydd am drylwyredd yr asesiadau risg.  Nododd y byddai’r aelodau etholedig yn dymuno derbyn diweddariad ar y sefyllfa pan fyddai’n addas i wneud hynny.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai hynny yn digwydd drwy swyddogion statudol yr Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau llinellau cyfathrebu clir.  Nodwyd bod y Bwrdd Rheoli eisoes wedi cychwyn trafod sut orau i adrodd yn ôl i’r aelodaeth ehangach.

 

Yn yr un modd, pan fyddai’n amserol i ail-gychwyn ymweliadau ag ysgolion, gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor awdurdodi Bwrdd Rheoli GwE i gymeradwyo hynny.  Nodwyd bod y sefyllfaoedd yn yr ysgolion yn ddyrys wrth geisio rheoli’r argyfwng, ac ar hyn o bryd, dylid parhau gyda thrafodaethau o bell.  Cytunwyd i gael trafodaeth agored pan fydd hi’n amserol.

 

9.

CANLYNIADAU 2020 - ADOLYGIAD ANNIBYNNOL Y GWEINIDOG ADDYSG pdf eicon PDF 300 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

(a) Nodi cynnwys y papur a sicrhau mewnbwn i’r adolygiad annibynnol.

(b) Bod y Cadeirydd yn anfon llythyr ar fyrder at Cymwysterau Cymru, CBAC, y Gweinidog Addysg a Phrif Weinidog Cymru yn amlygu pryderon y Cyd-bwyllgor ynglŷn â thymor arholiadau 2021, ac yn datgan y dylid gwneud penderfyniad nawr i ddefnyddio graddau asesu canolfannau ar gyfer tymor 2021, yn hytrach nag oedi ymhellach.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

(a)     Nodi cynnwys y papur a sicrhau mewnbwn i’r adolygiad annibynnol.

(b)     Bod y Cadeirydd yn anfon llythyr ar fyrder at Gymwysterau Cymru, CBAC, y Gweinidog Addysg a Phrif Weinidog Cymru yn amlygu pryderon y Cyd-bwyllgor ynglŷn â thymor arholiadau 2021, ac yn datgan y dylid gwneud penderfyniad nawr i ddefnyddio graddau asesu canolfannau ar gyfer tymor 2021, yn hytrach nag oedi ymhellach.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn codi ymwybyddiaeth y Cyd-bwyllgor o’r Adolygiad Annibynnol o ddyfarnu Cymwysterau yng Nghymru yn 2020,

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE fod y pryder ynglŷn â thymor arholiadau 2021 wedi’i gyfleu i Gymwysterau Cymru yn ôl ym mis Ebrill.  Er bod yr Adolygiad o ddyfarnu cymwysterau 2020 yn digwydd, byddai’r gwersi fyddai’n deillio o hynny erbyn Rhagfyr yn rhy hwyr i’w rhoi mewn lle ar gyfer tymor arholiadau 2021.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd:-

 

·         Na welid sut y gellid arddel system sy’n mynd i ddibynnu ar arholiadau yn 2021 pan fo materion ar ddechrau’r flwyddyn ysgol yn peri pryder o ran sicrhau cyfle cyfartal i’r holl ddisgyblion.

·         Bod angen gweithredu ar unwaith er mwyn lleihau’r ardrawiad ar y disgyblion hynny sy’n colli cyfnodau o’u haddysg drwy orfod aros gartref yn hunan-ynysu wrth aros am brawf COVID.

·         Bod GwE a’r 6 awdurdod wedi rhyddhau cyfres o ddatganiadau i’r wasg dros yr haf.

·         Bod pobl ifanc wedi colli’r cyfle i fynd i’r Brifysgol eleni oherwydd y sefyllfa, ac ni ddylent golli eu cyfleoedd bywyd oherwydd y pandemig.

·         Byddai’r flwyddyn nesaf yn fwy heriol hyd yn oed, gan y byddai’r bobl ifanc ddylai sefyll arholiadau yn haf 2021 wedi dioddef dwy flynedd o ddryswch i’w haddysg.

·         Dylai’r bobl ifanc fod yn ganolog i’r holl drafodaeth, ac ni ddylent gael eu cosbi am y sefyllfa.

·         Ei bod yn ymddangos mai amddiffyn y brand oedd yn bwysig.

·         Er y feirniadaeth ynglŷn ag athrawon yn codi graddau eleni, roedd angen dull teg o asesu, a nawr oedd yr amser i weithredu rhag wynebu’r un sefyllfa o ddryswch ac anrhefn flwyddyn nesaf.

·         Y dylai GwE a’r 6 awdurdod ymateb yn gryf i hyn.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE:-

 

·         Nad oedd yna unrhyw eglurder hyd yma ynglŷn â’r hyn fyddai’n digwydd yn 2021. 

·         Bod Cymwysterau Cymru yn dueddol o ddilyn yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr.

·         Bod yr ysgolion yn cynllunio yn y tywyllwch ac angen gwybod ar unwaith beth fydd yn digwydd flwyddyn nesaf, fel y gallent baratoi ar gyfer hynny.

·         Mai’r unig ateb oedd defnyddio graddau asesu canolfannau eto’r flwyddyn nesaf, a nododd ei barodrwydd i lunio llythyr ar y llinellau yma.

 

Awgrymwyd hefyd y gallai’r Aelodau Cabinet Addysg godi’r mater yn eu cyfarfodydd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chytunodd Aelod Cabinet Addysg Gwynedd, fel aelod o Fwrdd CBAC, i gyfleu teimladau cryf y Cyd-bwyllgor yno.

 

Gofynnwyd i’r Rheolwr Gyfarwyddwr lunio a rhannu llythyr drafft gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor.

 

 

10.

RHAGLEN WAITH GWE A BLAENORIAETHAU'R GWASANAETH pdf eicon PDF 278 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad, rhaglen waith GwE a’r blaenoriaethau drafft a fydd yn cael eu hadolygu’n barhaus i ymateb i sefyllfa Covid-19 a chanllawiau a rheoliadau’r llywodraeth.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad, rhaglen waith GwE a’r blaenoriaethau drafft a fydd yn cael eu hadolygu’n barhaus i ymateb i sefyllfa Covid-19 a chanllawiau a rheoliadau’r llywodraeth.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE, wedi ei ddiweddaru i aelodau’r Cyd-Bwyllgor, am raglen waith GwE yn ystod Tymor yr Haf 2020 ac yn amlinellu’r blaenoriaethau wrth symud ymlaen.

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr, gan fod y sefyllfa mor wahanol eleni, yr awgrymid cynnal gweithdy gydag aelodau’r Cyd-bwyllgor i drafod y camau nesaf o ran y blaenoriaethau tymor byr a gofynion Llywodraeth Cymru yn y cyd-destun hwn.  Ychwanegodd mai un elfen i’w hadeiladau i mewn i’r blaenoriaethau oedd sut i gefnogi lles penaethiaid ysgolion, a phenaethiaid addysg, yn y cyfnod hwn o ddryswch ac ansicrwydd.

 

 

11.

DYSGU PROFFESIYNOL - CYNNIG GWE I YSGOLION TYMOR YR HAF 2020 pdf eicon PDF 304 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r Cynnig Dysgu Proffesiynol GwE mewn ymateb i Covid-19.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r Cynnig Dysgu Proffesiynol GwE mewn ymateb i Covid-19.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE yn cynnig gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor am y Cynnig Dysgu Proffesiynol GwE i ysgolion yn ystod pandemig Covid-19.

 

Diolchwyd i’r staff am y gwaith ardderchog a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn yn cynorthwyo’r penaethiaid a’r staff dysgu.

 

12.

RHAGLEN DYSGU CARLAM pdf eicon PDF 610 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad a chefnogi’r dull a’r model rhanbarthol mewn perthynas â’r Rhaglen Dysgu Carlam ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad a chefnogi’r dull a’r model rhanbarthol mewn perthynas â’r Rhaglen Dysgu Carlam ar gyfer Gogledd Cymru.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn rhannu gwybodaeth bellach ag aelodau’r Cyd-bwyllgor am y Rhaglen Dysgu Carlam ar gyfer Gogledd Cymru, gan amlinellu ymhellach yr Adnoddau Cyflymu Dysgu a ddatblygwyd yn y rhanbarth, sy’n cynnwys cyfres o dystiolaeth o Addysgu Gwybodus a Deunyddiau Dysgu.

 

Nodwyd bod y Bwrdd Rheoli wedi derbyn cyflwyniad ar hyn ac yn cymeradwyo’r adnodd gwerthfawr hwn.

 

Holwyd sut roedd yr effaith ar y dysgwyr yn cael ei fonitro.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, o’r holl grantiau, y byddai hwn yn cael ei graffu o bersbectif gwleidyddol.  Roedd yn rhaid gweithio’n agos gyda’r ysgolion, ac roedd hyn yn golygu ail-ymgysylltu gyda’r dysgwyr yn barhaus.  Nodwyd bod GwE yn gweithio’n agos gydag arbenigwyr yn y maes.  Pwysleisiwyd, fodd bynnag, nad oedd angen rhoi pwysau ychwanegol ar y plant.

 

Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth ar draws y sir, a holwyd a oedd yn ofynnol i’r ysgolion ddarparu cynllun yn egluro sut y byddent yn defnyddio’r arian.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod GwE yn cadw taenlen yn nodi’r holl grantiau a’r cynlluniau ar gyfer pob ysgol, a nododd y byddai’n hapus i rannu hynny drwy’r Bwrdd Ansawdd Sirol, neu drwy’r gweithdy fydd yn cael ei drefnu i drafod y blaenoriaethau.

 

13.

ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN pdf eicon PDF 261 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Trafodaeth

 

Cyflwynwydadroddiad Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor am Adolygiad Thematig arfaethedig Estyn, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd.

 

Cwestiynwyd amseriad yr adolygiad, gan y byddai’n rhoi pwysau ychwanegol a diangen ar y penaethiaid a’r ysgolion, sydd eisoes dan eu sang.

 

Nodwyd y cynhelid cyfarfod gydag Estyn yn fuan a gallai’r Aelodau godi’r mater hwn yno.