skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Natalie Lloyd Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Cemlyn Williams (Cyngor Gwynedd) ac Annwen Morgan (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 322 KB

(Ynghlwm).

Cofnod:

Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd yn gofnod priodol o’r cyfarfod ar yr 11eg o Dachwedd, 2020.

 

Cyfeiriwyd at Eitem 4 o fewn y cofnodion.  Nodwyd bod hyn wedi ei drafod yn y Bwrdd Rheoli.  Bydd diweddaraiad o ran materion polisi cenedlaethol yn cael eu cyflwyno i’r Cydbwyllgor fel bo’r angen. 

 

 

5.

CYLLIDEB GwE 2020-21 - ADOLYGU CHWARTER 3 pdf eicon PDF 465 KB

Arwyn Thomas a Dafydd Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cyd-Bwyllgor am yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21.

.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad Adolygiad 3ydd Chwarter o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2020/21.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Cyllid, Cyngor Gwynedd yr Awdurdod Lletyol gan nodi fod yr adolygiad chwarter 3 yn amcangyfrif gorwariant net o £40,000.

 

Ni aethpwyd drwy’r gyllideb yn fanwl, fodd bynnag amlinellwyd rhesymau dros y tanwariant sef arbedion costau teithio yn ystod COVID-19 ac aelod o staff ar secondiad. Disgwyliwyd y byddai teithio yn ail gychwyn wrth i ymweliadau addysgol ailgychwyn.

 

Nodwyd y gall fod her ariannol yn 2021/22 oherwydd ansicrwydd ynglŷn â grantiau penodol.  Felly, awgrymwyd a derbyniwyd y dylid neilltuo’r gronfa tanwariant am y tro, cyn ystyried heriau ariannol posib 2021/22.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor, am yr adroddiad gynhwysfawr.

 

 

6.

CYLLIDEB GwE 2021-2022 pdf eicon PDF 371 KB

Dafydd Edwards i gyflwyno’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2021/22 i’r Cyd-bwyllgor..

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2021/22 fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1.

 

b)    Gofyn i’r Rheolwr Gyfarwyddwr, mewn ymgynghoriad gyda’r Bwrdd Rheoli, i gyflwyno papur yn yr hydref yn adolygu model gwaith GwE.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cyfraniad yr Awdurdodau Lleol yn wraidd i’r gyllideb sylfaenol. Diolchwyd i gyfrifwyr GwE, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Rheolwr Busnes GwE am eu gwaith.

 

Rhoddwyd trosolwg o gynnwys yr adroddiad gan mai unwaith y flwyddyn yn unig y trafodir hyn. Nodwyd fod effaith chwyddiant wedi’i amcangyfrif a’i gynnwys yn y gyllideb sylfaenol, a bod cyfraniadau ariannol yr Awdurdodau wedi’i addasu yn y modd arferol fel y gwelwyd yn atodiad 2.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

-     Gofynnwyd a oes cynlluniau i adolygu model gwaith GwE, er enghraifft, ynghylch dyfodol y swyddfeydd a ffordd newydd o weithio.

-     Ategwyd hyn gan nodi bod mudiadau eraill eisoes wedi datgan na fyddant hwy’n dychwelyd i deithio ar gyfer bob cyfarfod pan ellid gwneud yn rhithiol - rhagwelid y byddai’n arbed arian i GwE yn ogystal.

-     Cafwyd ymateb gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE yn derbyn bod lle i adolygu’r model gwaith, fodd bynnag, ochr yn ochr â hyn, mae angen ystyried lles staff a’r elfen gymdeithasol a phroffesiynol.

-     Ategwyd bod swyddfeydd GwE yn yr Wyddgrug ac ym Mae Colwyn yn denu incwm drwy logi ar gyfer defnydd hyfforddiant. Ychwanegwyd y byddai’n rhaid dadansoddi’r defnydd.

-     Yn dilyn hyn cytunwyd bod angen adolygiad ar fodel gwaith GwE a bydd adroddiad i ddilyn yn yr Hydref.

 

7.

ADOLYGIAD THEMATIG ESTYN pdf eicon PDF 316 KB

Arwyn Thomas i gyflwyo’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor..

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cydbwyllgor yn nodi a derbyn cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a nodwyd mai er gwybodaeth yw’r eitem yma. Diolchwyd i’r ysgolion am eu cydweithrediad ac ategwyd fod perthynas gadarn rhwng yr ysgolion a GwE.

 

Ychwanegodd Pennaeth Addysg (Cyngor Gwynedd) bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod bod cydweithio effeithiol ar waith yn y Gogledd.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

-     Diolchwyd i Estyn am y darn yma o waith sy’n cysylltu gwaith yr ysgolion, yr  Awdurdodau Lleol a GwE.

-     Gofynnwyd a fydd ysgolion yn cael seibiant oddi wrth arolygon wrth iddynt ail agor yn raddol ac ymsefydlu’r disgyblion.

-     Ategwyd mai blaenoriaeth yr ysgolion fydd lles y plant a materion yn cwmpasu hyn.

 

8.

RHAGLEN WAITH GwE - TYMOR YR HYDREF 2020 DIWEDDARIAD & BLAENORIAETHAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 347 KB

Alwyn Jones i gyflwyno’r adroddiad i aelodau’r Cyd-bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad, rhaglen waith GwE a'r blaenoriaethau drafft ar gyfer 2021-22, a adolygir yn gyson i ymateb i sefyllfa Covid-19 a chanllawiau a rheoliadau'r llywodraeth.   

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ac atgoffwyd y Cydbwyllgor bod  rhaglen waith y gwasanaeth wedi cael ei hail-gyfeirio yn ystod y cyfnod diwethaf.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith a’r cydweithrediad da sydd wedi bod rhwng GwE a’r Awdurdodau Lleol er mwyn cyfarch anghenion cyfnewidiol yr ysgolion. Ategwyd bod rôl yr ymgynghorwyr wedi ei groesawu gan staff ysgolion.

 

Tynnwyd sylw a rhoddwyd amlinelliad o flaenoriaethau drafft GwE ar gyfer 2021-22.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:-

 

-     Nodwyd bod angen sicrhau nad yw athrawon yn dychwelyd mis Medi i unrhyw gwynion apêl graddau arholiad - angen sicrhau bod proses apelio cadarn yn ei le.

-     Gofynnwyd lle mae’r atebolrwydd ynghylch dulliau dysgu o bell - nodwyd bod darpariaeth o ysgol i ysgol yn amrywio gyda rhai yn cynnig gwersi byw ac eraill ddim.

-     Ategwyd hyn gan nodi efallai bod angen datganiad rhanbarthol gan GwE sy’n cynghori ar y disgwyliadau ynghylch dysgu o bell.

-     Nodwyd bod rhieni/gofalwyr wedi derbyn holiadur i fynegi eu disgwyliadau. Cynigwyd bod yr aelodau yn cynnal y sgyrsiau yma gyda’u swyddogion addysg.

 

9.

CEFNOGI YSGOLION pdf eicon PDF 358 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor.

Penderfyniad:

Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad am brif ffocws gwaith GwE dros y ddau dymor nesaf.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad ac amlinellwyd prif ffocws gwaith GwE dros y ddau dymor nesaf. Nodwyd mai’r ffocws fydd cefnogi staff ysgol ac arweinwyr er mwyn adnabod y llwyddiannau a’r hyn sydd wedi gweithio'n dda iddynt dros y cyfnod diwethaf, yn ogystal ag beth sydd yn parhau i fod angen sylw.

 

Atgoffwyd y Cydbwyllgor bod Estyn yn bwriadu ailgychwyn gyda’u gwaith y tymor hwn ac felly bydd yr Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant yn cefnogi’r ysgolionfel eu bod mewn sefyllfa gadarn.

 

Ymhelaethwyd (Elfyn Jones) ar y camau nesaf sef ffocws ar gefnogi darpariaethau o fewn yr ysgolion, cefnogi dysgu cyfunol, ac ar gefnogi ysgolion i fesur effaith eu gweithredoedd ar y cynnydd mewn dysgu.

 

Ategwyd y byddai’r camau nesaf yn sicrhau bod bob ysgol mewn sefyllfa hyderus i adrodd ar eu safonau a chynnydd y disgyblion.

 

Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth:-

 

-     Diolchwyd am y gwaith a nodwyd balchder o glywed y paratoadau sydd ar y gweill.

-     Cwestiynwyd y ffordd orau o sicrhau bod y cyllid ychwanegol yn mynd i gael defnydd effeithlon.

-     Gofynnwyd beth yw cynlluniau ar gyfer asesu anghenion plant, yn arbennig y plant fydd angen cefnogaeth ychwanegol oherwydd dirywiad iechyd meddwl.

-     Ategwyd bod y camau nesaf yn dir hollol newydd i staff ysgolion gan nad ydynt erioed wedi ymdopi â realiti cyfnod ôl-pandemig.

 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd y canlynol:-

 

-     Sicrhawyd y byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio er lles tymor hir plant.

-     Bydd pwyslais ar anghenion cyfan y dysgwyr - emosiynol, cymdeithasol a chorfforol.

 

 

 

10.

Y DAITH DDIWYGIO A DYSGU PROFESIYNOL pdf eicon PDF 256 KB

Arwyn Thomas i gyflwyno’r adroddiad i’r Cyd-bwyllgor.

Penderfyniad:

Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd trosolwg gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE ar y sefyllfa bresennol ynghylch y Daith Ddiwygio gan ategu bod ysgolion mewn sefyllfaoedd wahanol yn nhermau parodrwydd a chapasiti.

 

Ategwyd er bod gweithdrefnau wedi arafu dros y cyfnod diwethaf, mae’r gwaith dal i barhau ar gyfer cefnogi Cwricwlwm i Gymru.

 

Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor, am yr adroddiad gynhwysfawr.

 

11.

DYSGU O BELL AC YMGYSYLLTIAD RHIENI/GOFALWYR pdf eicon PDF 252 KB

Arwyn Thomas i rannu gwybodaeth gyda’r Cyd-bwyllgor am y strategaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion mewn perthynas â dysgu o bell.  .

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Cydbwyllgor yn derbyn a chymeradwyo’r adroddiad.

b)    Cefnogi’r strategaeth a’r gefnogaeth sydd mewn lle i ysgolion mewn perthynas ag ymgysylltiad rhieni/gofalwyr a dysgu o bell yng Ngogledd Cymru

 

Cofnod:

 

 

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn cynnwys dwy ddogfen sydd â’r bwriad o gefnogi ysgolion a rhieni/gofalwyr a chynorthwyo ysgolion ymhellach i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau ynghylch dysgu o bell.  Ategwyd bod bwriad i ddatblygu strategaeth ranbarthol. ar gyfer gwella ymgysylltiad rhieni/gofalwyr fel y gallent gefnogi dysgu eu plant yn effeithiol yn ystod cyfnod COVID a thu hwnt. 

 

Amlygwyd pwysigrwydd yr ymgysylltiad rhwng ysgolion a rhieni/gofalwyr dros y cyfnod dysgu o bell fel un o prif flaenoriaethau y cyfnod nesaf.

 

Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor, am yr adroddiad gynhwysfawr.

 

12.

RHAGLENNI DYSGU CARLAM AR GYFER Y GYMRAEG pdf eicon PDF 362 KB

Alwyn Jones i geisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i ddatblygu rhaglenni Dysgu Carlam ar gyfer y rhai sy’n derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg (Iaith Gyntaf). 

Penderfyniad:

Cydbwyllgor yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a’r cynlluniau i ddatblygu rhaglenni dysgu carlam i blant a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg iaith gyntaf.

 

Cofnod:

TRAFODAETH:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE gan nodi bod yr eitemau blaenorol wedi cyffwrdd â’r cynnwys. Rhoddwyd amlinelliad o’r cynnwys wrth nodi pwrpas yr adroddiad sef datblygu ymhellach rhaglenni dysgu carlam ar gyfer y Gymraeg iaith gyntaf.

 

Amlygwyd o fewn adroddiad thematig Estyn bod pryder ynghylch disgyblion yn colli’r Gymraeg a ddysgwyd yn yr ysgol, yn arbennig rhai sydd o aelwydydd di-gymraeg.

 

Diolchwyd y Cadeirydd, ar ran y Cydbwyllgor, am yr adroddiad gynhwysfawr.

 

13.

CALENDR CYFARFODYDD 2021/2022 pdf eicon PDF 320 KB

Arwyn Thomas i wneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar raglen cyfarfodydd am y flwyddyn i ddod.

Penderfyniad:

Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r calendr cyfarfodydd fel nodir yn atodiad 1.

 

Cofnod:

Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo’r calendr cyfarfodydd fel nodir yn atodiad 1.