Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 128 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB GWE 2023/2024 - ADOLYGIAD 3YDD CHWARTER PDF 149 KB I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar yr
adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad
ar adolygiad o gyllideb GwE hyd at ddiwedd Rhagfyr 2023. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL GWE 2023/2024 - MONITRO CHWARTER 3 PDF 160 KB Cyflwyno adroddiad monitro chwarter 3 - Cynllun Busnes Rhanbarthol
2023-2024 GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.
|
|
DYFODOL GWELLA YSGOLION YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 221 KB I ganiatáu i aelodau'r Cyd-bwyllgor wneud penderfyniadau
gwybodus am ddyfodol gwella ysgolion yng Ngogledd Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried goblygiadau risg ar
gyfer 2024-25 a thu hwnt. ·
Bod y Bwrdd Rheoli yn cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod
mis Mai o’r Cyd-bwyllgor ar y ffordd ymlaen fydd yn ymdrin ag amserlen a
materion llywodraethu yn ogystal â goblygiadau cyllidebol. ·
I aelodau pleidleisio’r Cyd-bwyllgor gytuno i gyflwyno
rhestr o gwestiynau i’w cyflwyno i’r Gweinidog Addysg yn y cyfarfod sydd wedi
ei drefnu ar gyfer mis Ebrill. |
|
CYLLIDEB GWE 2024/2025 (CYLLIDEB SYLFAENOL) PDF 251 KB I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2024/25 fel ei cyflwynir yn Atodiad 1. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar
gyfer y flwyddyn gyllidol 2024/25 fel y’i chyflwynir yn Atodiad 1 o’r adroddiad
sef £8,460,971. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2024-25 PDF 154 KB I wneud cais i’r Cyd-bwyllgor gytuno ar galendr cyfarfodydd
am y flwyddyn i ddod. Penderfyniad: Cymeradwyo calendr
cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor am y flwyddyn 2024-25 |