Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
| Rhif | eitem | 
|---|---|
| 			
					 YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorwyr John Pughe Roberts (CG), John
Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG), Nicola Roberts (CSYM), Richard Owain
Jones (CSYM) a Kenneth P. Hughes (CSYM).  | 
		|
| 			
					 DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  | 
		|
| 			
					 MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  | 
		|
| 			
		
					
 Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25 Ionawr
2019 fel rhai cywir    Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2019 fel y rhai cywir.  | 
		|
| 			
		
					
 Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddogion
Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Dogfennau ychwanegol: 
 Cofnod: i)          Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Marchnad Lleol Cyflwyniad gan Rhodri Owen yn
egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 25 Ionawr 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor
gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’r Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r
Canllaw.  Materion a godwyd: •      Gofynnwyd am eglurder
pellach ar gyfer yr ymateb i sylw 7 o ran 
nad oes bwriad i gyfyngu ar bris tai marchnad leol.  •      Codwyd cwestiwn os oedd
modd i gystadleuaeth ar gyfer tai fforddiadwy olygu fod ei prisiau hwy yn
cynyddu. •      Nodwyd fod y system
gynllunio yn Lloegr wedi newid i alluogi mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid
defnydd adeiladau i ddefnydd preswyl yn y cefn gwlad. Holwyd os oedd hyn yn
debygol o ddigwydd yng Nghymru? Hefyd a oes modd pwyso am hyn trwy deddfwriaeth
o Caerdydd efo pwyslais ar bobl leol i gael blaenoriaeth am fath ddatblygiadau? •      Cwestiynwyd os oedd yna
broblem efo’r ardaloedd lleol ym Mholisi TAI 5 os diffinnir ardaloedd gwahanol
ar gyfer tai fforddiadwy o dan Polisïau TAI 4 a TAI 6. Ymateb: •      Esboniwyd nad yw tai
marchnad lleol yn cyd fynd â’r diffiniad cynllunio a roddir yn NCT 2 ar gyfer
tai fforddiadwy ac felly maint y tai a maint y farchnad fydd yn rheoli pris y
tai yma yn hytrach na mecanwaith cynllunio. Fe ellid cael esiampl ble mae dau
unigolyn lleol yn cystadlu am dŷ a all olygu fod ei werth yn cynyddu i fod
yn agos i werth tŷ marchnad agored. •      Oherwydd bod mecanwaith
penodol wedi ei osod ar gyfer unedau fforddiadwy ni all eu gwerth gynyddu
uwchben y lefel disgownt sydd yn berthnasol ar gyfer unedau penodol.  •      Mae’r broses yn wahanol
yng Nghymru a ni rhagwelir a hyn o bryd y buasai yna gefnogaeth yng Nghymru i
gael proses tebyg i Lloegr ar gyfer hyn oherwydd deallir bod y newid yn y
rheoliadau yn achosi anawsterau ac oherwydd nad oes dim rheolaeth dros
feddiannaeth y tai a fyddai’n cael eu creu, h.y. ni chyfyngir yr unedau i fod
yn dai i bobl leol ac ni ellir atal iddynt gael eu defnyddio fel tai haf/ ail
gartrefi. Mae Polisi yn y Cynllun eisoes yn galluogi adeiladau ar fferm gael caniatâd
cynllunio i’w trosi i fod yn dai fforddiadwy angen lleol (os ellir dangos nad
oes defnydd economaidd yn ymarferol). Mater i’r Cynghorau yw os ydynt eisio
pwyso ar Llywodraeth Cymru i gael deddfwriaeth newydd am y math yma o
ddatblygiadau. •      Mae ardaloedd Tai
marchnad Lleol wedi cael ei diffinio yn y Polisi a felly nid oes problem efo
creu ardal gwahanol ar gyfer diffinio’r ardal wledig gyfagos yn Mholisïau TAI 4
a TAI 6.     Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r
sylwadau a dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw
hwn. ii)         Canllaw Cynllunio Atodol: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau
Tai Newydd Cyflwyniad gan Linda Lee ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.  |