Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyn ymddiheuriadau gan Cyng.
Robin Williams (CSYM), Cyng. Richard Owain Jones (CSYM), Cyng. Nicola Roberts
(CSYM), Cyng. Bryan Owen (CSYM), Cyng. John Griffith (CSYM), Cyng. John Pughe
Roberts (CG), Cyng. John Brynmor Hughes (CG) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
26.10.18 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar
26 Hydref 2018 fel y rhai cywir. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd Nia Haf Davies yr adroddiad a’r atodiadau, a oedd yn
cynnwys fersiwn drafft ymgynghorol diwygiedig o’r Canllaw Cynllunio Atodol
(drafft ymgynghorol) ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig’. Nododd bod
penderfyniad y Pwyllgor hwn ym mis Ebrill wedi arwain at benodi partneriaeth i
ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o’r Canllaw drafft ymgynghorol. Tynnodd sylw
at gymwysterau a phrofiad y ddau gwmni, gan nodi bod Owain Wyn (Burum) yn bresennol
i sȏn am y gwaith (Atodiad 1) ac i ateb
cwestiynau. Tynnodd Nia sylw at y math o newidiadau a fyddai eu hangen er mwyn
gallu gweithredu ar argymhellion Burum a Chwmni Iaith. Dywedodd bod yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r Gwasanaethau Cynllunio yn gwbl gefnogol i
argymhellion y cwmnïau a’r newidiadau. Wrth fynd trwy Atodiad 3, tynnodd sylw at
y prif newidiadau a oedd yn gwella llif y ddogfen a rhoi mwy o eglurder am
ddisgwyliadau yn gysylltiedig â’r broses o roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg o’r
cam sgrinio i’r cam gwneud penderfyniad. Tynnodd Owain Wyn sylw’r Pwyllgor at y canlynol: i. Eu bod wedi addasu profion a fyddai arolygwyr cynllunio’n
defnyddio i asesu cadernid cynllun datblygu; ii. Eu bod wedi
adnabod gwelliannau a fyddai’n golygu bod yr asesiadau ieithyddol yn fwy tebyg i ffurfiau eraill o asesiadau (amgylcheddol a busnes) a
oedd yn edrych ar risg (nid perygl), tebygolrwydd y risg, a pha mor ddifrifol ydi’r
risg; iii. Mai asesiadau
ieithyddol a oedd eu hangen ar gyfer Datganiad ac adroddiad Asesiad Effaith; iv. Bod yr angen i
ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno cais cynllunio ar gyfer
datblygiadau ‘mawr’ yn gam pwysig oherwydd mae’n golygu byddai’n rhoi cyfle clir i ymgeiswyr ar gyfer y math hwn o ddatblygiad i ymgysylltu
gyda chymunedau ac eraill cyn cyflwyno cais cynllunio ynglŷn â natur y datblygiad
a’i effaith ar gymunedau, gan gynnwys yr iaith Gymraeg; v. Bod y matrics
effaith yn ddull gweladwy o ddod i gasgliad am effaith y datblygiad; vi. Bydd mwy o
asesiadau yn fodd o ddatblygu sail dystiolaeth a dealltwriaeth am y maes. Atgoffwyd y Pwyllgor bod craffu’r Canllaw yn digwydd yn gynharach
yng Ngwynedd nag yn Ynys Môn. Tynnodd sylw at adroddiad Cadeirydd y Gweithgor
Ymchwiliad Craffu Cymunedau (Atodiad 2 a 2a), a oedd yn cyfeirio at adborth a
gafwyd yn ystod cyfnod ymgysylltu anffurfiol yn 2016 ynglŷn â chynnwys
Canllawiau am ddatblygu a’r iaith Gymraeg sy’n bodoli yn y 2 Sir ar hyn o bryd.
Nododd bod y Gweithgor wedi gofyn am ymateb cryno i’r materion a godwyd bryd
hynny. Cyfeiriodd at yr ymateb drafft yng ngholofn C a cholofn Ch fel man
cychwyn, a bod cyfle i’r Pwyllgor holi neu wneud sylwadau am yr ymateb cyn iddo
gael ei gyfeirio at y Gweithgor. Cyfeiriwyd at yr argymhellion ac wrth wneud hynny cyfeiriodd at
Atodiad 4, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y drefn ymgynghori gyhoeddus, yn
ogystal â’r amserlen arfaethedig ar gyfer camau nesaf y broses. Materion a godwyd: i. Derbyniwyd sylw am y term ‘Cynnal a Chreu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: TAI FFORDDIADWY – DRAFFT YMGYNGHOROL PDF 599 KB Cyflwyno adroddiad
gan Arweinydd Tim Polisi Cynllunio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwyniad gan Bob Thomas yn amlygu rôl y Canllawiau Cynllunio
Atodol ac yn esbonio’r camau sydd wedi cael eu gymryd hyd yma fel rhan o’r
gwaith o baratoi'r Canllaw dan sylw. Nodwyd fod y Canllaw ar ei ffurf drafft
eisoes wedi bod o flaen y Panel yn ystod mis Gorffennaf eleni. Amlygwyd y
newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i’r Canllaw yn sgil y mewnbwn a dderbyniwyd
yn ystod cyfarfod y Panel ac yn sgil trafodaethau mewnol sydd wedi digwydd ers
hynny. Materion a godwyd: ·
Beth yn union ydi’r
diffiniad o dŷ fforddiadwy Ymateb: ·
Diffiniad o ran beth a
ystyrir i fod yn dŷ fforddiadwy wedi ei gynnwys mewn Arweiniad Polisi
Cynllunio Cenedlaethol. Ystyriaethau gwahanol ar gyfer gwahanol ardaloedd. Fforddiadwyedd yn cael ei ystyried fel 3.5 gwaith incwm yr
uned breswyl. O ran yr angen ystyried pa unigolion sydd wedi cael ei restru a’u
hasesu ar gofrestr Tai Teg. Penderfyniad Penderfynwyd rhyddhau’r
Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy am gyfnod ymgynghori cyhoeddus. |