Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor, Cyngor Mon, Llangefni LL77 7TW. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bob Thomas / Heledd Jones 01286 685000 / 679883 E-bost: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG), Bryan
Owen (CSYM) a Richard Dew (CSYM). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22 Mawrth
2019 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd
ar 22 Mawrth 2019 fel y rhai cywir. Eglurodd Bob Thomas efallai na fydd
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar y 23ain Mai 2019 yn debygol o gael ei
gynnal, ac efallai bydd eitemau’r cyfarfod hwn yn cael eu trosglwyddo i’r
Pwyllgor Cynllunio ar y Cyd olynol ar 14eg Mehefin 2019. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL I'W MABWYSIADU: TAI FFORDDIADWY PDF 79 KB Cyflwyno adroddiad gan Arweinydd Tîm, Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwyniad gan Bob
Thomas yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo
gael ei gyflwyno
i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar
y 22 Mawrth 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’r Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw. Materion a godwyd: ·
Codwyd cwestiwn gan y Cyng. Owain Williams ynglŷn â pherthnasedd yr Asesiad Cynaliadwyedd a’r Asesiad Rheoliadau
Cynefinoedd ac ail gyflwyno
eryr i’r ardal. ·
Cytunodd Cyng. Kenneth Hughes
fod ystyr y term “lleol” yn y Canllaw
yn addas a byddai’n hwyluso pobl lleol i
gael tai fforddiadwy. Ymateb: ·
Esboniwyd mai barn sgrinio am Arfarniad Cynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o’r Canllaw oedd
yr asesiadau â ymgymerwyd yn unol
â’r Rheoliadau perthnasol ac nad
oedd y sylw’n berthnasol i’r CCA. Fodd bynnag cytunwyd
fod y neges yn un pwysig
a byddai’n fater i’w godi gyda’r
adrannau perthnasol o fewn y Cynghorau unigol yn hytrach
nac yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r sylwadau
a dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw hwn. I gloi’r cyfarfod fe
wnaeth y Prif Swyddog Cynllunio nodi fod Rebeca Jones wedi ei hapwyntio
fel rheolwr newydd yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd ac fe
fydd yn cychwyn
yn y swydd diwedd mis Mai 2019. |