Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Richard Owain
Jones (IACC), Cynghorydd Bryan Owen (IACC) a’r Cynghorydd John Pughe Roberts (GC) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd
fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17
Gorffennaf 2019 fel rhai cywir. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I’W MABWYSIADU: YMRWYMIADAU CYNLLUNIO PDF 83 KB Cyflwyno adroddiad
gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm), Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cafwyd cyflwyniad byr gan Bob
Thomas er mwyn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn. Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd fod yna gyfnod
ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Chwefror ac Ebrill 2019. Yn ystod y cyfnod ymgynghori
cyhoeddus, dderbyniwyd 11 sylw unigol (rhain i’w gweld yn Atodiad 1 o’r
adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad
2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad
cyhoeddus. Ni chodwyd
unrhyw faterion ar gyfer y CCA gan y Pwyllgor. Penderfyniad Derbyniodd y
Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yr argymhelliad, sef:- i) Cymeradwyo’r ymateb
arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r
Canllaw Ymrwymiadau Cynllunio; ii) Bod hawl yn
cael ei roi i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ymgymryd â newidiadau gweinyddol
terfynol i’r Canllaw i sicrhau fod holl faterion croesgyfeirio oddi fewn iddo
yn gywir. |
|
Cyflwyno adroddiad
gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm), Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cafwyd
cyflwyniad byr gan Heledd Jones er mwyn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn. Yng nghyswllt y CCA dan sylw
nodwyd fod yna gyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Chwefror ac
Ebrill 2019. Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 9 sylw unigol (rhain
i’w gweld yn Atodiad 1 o’r adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw
wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn
dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Materion a godwyd: ·
Dim ond
yn galluogi trosi adeiladau yn y cefn gwlad i unedau gwyliau yn unig ond yn
Lloegr ceir hawl i newid defnydd i ddefnydd preswyl. A oes trafodaethau wedi
bod efo Llywodraeth Cymru ar hynny mater yma? ·
Unedau amaethyddol
mawr yn gallu cael tŷ ychwanegol fodd bynnag unedau llai ddim yn gallu cael caniatâd
(diffyg cyfiawnhad/angen ar gyfer tŷ menter gwledig). Mae natur gwaith ardaloedd
gwledig wedi newid ac angen sicrhau fod swyddi newydd yn rhoi cyfleoedd i bobl
allu byw yn ei chymunedau. ·
A fuasai
gormodedd o unedau gwyliau mewn ardal yn golygu nad oes angen profi defnydd
hyfyw addas ar gyfer defnydd economaidd ohonynt? ·
Beth sydd
i atal rhywun i baratoi cynllun busnes sydd yn datgan bod menter yn hyfyw? ·
A oes yna ardaloedd
penodol ble na ellid cael mwy o dai gwyliau oherwydd gorddarpariaeth? Ymateb: ·
Eglurwyd bod modd cael
tŷ fforddiadwy angen lleol drwy drosi adeilad mewn ardal a ddiffinnir fel
cefn gwlad os cyflwynir tystiolaeth nad yw defnydd cyflogaeth o’r adeilad yn
hyfyw yn unol a’r meini prawf a osodir allan ym Mholisi TAI 7. ·
Os nad yw
unedau amaethyddol llai yn profi’r angen am dŷ ychwanegol (tŷ menter
gwledig) yna mae yna gyfleon yn parhau i fodoli ar gyfer tŷ fforddiadwy
angen lleol. ·
Un math o
ddefnydd cyflogaeth yw defnydd gwyliau buasai’n rhaid profi nad yw mathau
eraill o ddefnydd cyflogaeth yn hyfyw. ·
Mae’r CCA
yn cynnig arweiniad o ran y math o wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno o ran
defnyddiad economaidd hyfyw ar gyfer yr uned a fwriedir ei drosi. Bydd unrhyw
wybodaeth a dderbynnir ar ffurf Cynllun Busnes yn cael ei wirio fel rhan o’r
broses o asesu’r cais cynllunio ac yn ôl yr angen fe fyddai posib derbyn
mewnbwn/arweiniad gan adran Datblygu Economaidd y Cynghorau. ·
Mae geiriad y Polisi
perthnasol (Polisi TWR 2) yn cyfeirio at
sicrhau na fyddai unrhyw gais yn arwain at ‘gormodedd’ o lety gwyliau.
Ymhelaethir ar y diffiniad o ‘ormodedd’ yn yr eglurhad i’r Polisi gan nodi’r
angen i gyflwyno Cynllun Busnes er mwyn asesu’r farchnad ar ddarpariaeth
gyffelyb sydd yn yr ardal. Fel rhan o asesu’r ddarpariaeth mae hefyd yn bosib
i’r uned asesu gwybodaeth treth cyngor. Mae yna CCA ar-wahân ar gyfer Llety
Gwyliau yn y broses o gael ei fabwysiadu.
Penderfyniad Derbyniodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yr
argymhelliad, sef:- i) Cymeradwyo’r
ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r
Canllaw Ail-adeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad; |