Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbynwyd ymddiheuriadau gan y
Cyng. Gareth A Roberts (CG) a’r Cyng. Robin Williams
(YM) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID Cyng. Anne Lloyd Jones - Personol
ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud
a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn
hefo diddordeb personol yn y maes
hwn. Cyng Richard Dew - Personol
ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol
Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes
hyn. Cyng. Owain Williams - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r
Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid.
Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig bod cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Medi 30 2019, yn rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar
30 Medi 2019 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 PDF 207 KB Cyflwyno
adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
a chymeradwywyd y canlynol:-
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid) a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan
Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am
gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd. Eglurwyd
bod y Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2019/2020 wedi'i chwblhau a'i
hardystio'n briodol gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol. Yn dilyn ardystiad roedd
yn ofynnol i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gymeradwyo a chyhoeddi'r
Ffurflen Flynyddol erbyn 15 Mehefin 2020. Er iddo gael ei gyhoeddi ar gwefan
Cyngor Gwynedd oherwydd argyfwng Covid-19, nid oedd yn bosibl i'r corff
gymeradwyo'r ffurflen flynyddol cyn 15 Mehefin 2020. Eglurwyd
bod y cyfrifon a'r ffurflen wedi bod yn destun archwiliad gan Deloitte ac ni chododd unrhyw faterion fel rhan o'r
Archwiliad. Esboniwyd,
oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r pandemig, y
byddai'n angenrheidiol i'r Cadeirydd lofnodi'r Cyfrifon gan ddefnyddio llofnod
electronig. Materion a godwyd: ·
Cwestiynwyd beth oedd y Costau Staffio Eraill
yn atodiad A. Ymateb: ·
Eglurwyd
mai costau yn ymwneud ac aelod
o staff sydd bellach wedi gadael y gwasanaeth
ydi’r costau staffio eraill ac mai costau ar
gyfer 19/20 yn unig ydi'r rhain. Penderfyniad Derbyniwyd a chymeradwywyd y
‘Cyfrif Incwm a Gwariant refeniw 2018/2019’ ynghyd a’r ‘Ffurflen Flynyddol’ ar
gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020. Cytunwyd y Cadeirydd i
lofnodi’r cyfrifon yn electroneg, gan gadarnhau ei bod wedi cael ei gymeradwyo
gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 146 KB Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
y diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a
phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod
ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny. Cofnod: Cafwyd cyflwyniad byr gan Heledd Jones yn esbonio taith
y CCA hyd yma. Esboniwyd y rhesymau dros y newidiadau i’r CCA a’r man ddiwygiadau a chynigir i’r CCA. Esboniwyd fod y newidiadau yn ymwneud a diffinio'r
hyn a ystyrir
gan ormodedd o lety gwyliau’r rhesymeg dros y newidiadau hynny. Amlygwyd mai'r newidiadau sydd wedi ei
dangos mewn ysgrifen fras ac wedi ei danlinellu
yn rhan 4.6 a phara 6.2.1 fydd yn destun ymgynghoriad
cyhoeddus. Materion a godwyd: ·
Gofynnwyd
a fydd unrhyw ddatblygiad newydd (lle yn briodol)
yn cael ei
chlymu i Rif y Daliad ·
Angen edrych ar geiriad para 4.6.2 yn y fersiwn Saesneg
y gair ‘idle’ ddim yn addas yn
y cyd-destun yma ·
Gofynnwyd
am esboniad o beth mae ‘cyfiawnhad cadarn’ ym mharagraff 3.1.3 yn ei olygu ·
Gofynnwyd
am esboniad beth mae ‘adeiladau diogelwch’ yn ei olygu ym mharagraff 4.4.1 Ymateb: ·
Eglurwyd bod y CCA yn rhoi arweinid
ar hyn yn
para 4.6.6, mae unrhyw ddatblygiad newydd yn cael
ei rheoli gan amod lle
yn briodol. ·
Cytunwyd nag oedd y gair yma
yn addas a chytunwyd y bydd yn cael ei
newid ag i brawf ddarllen y diwygiadau cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ·
Esboniwyd fod y
paragraff yma ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus ·
Esboniwyd fod yr eirfa
yma yn dod o Bolisi Cynllunio Cymru. Penderfyniad Cymeradwywyd y
diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a
phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod
ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny. |
|
Cyflwyno
adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y
Cyd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd
rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus. Cofnod: Cafwyd cyflwyniad gan
Heledd Jones yn rhoi cyd- destun y CCA a gosod allan y camau nesaf. Esboniwyd y
broses o baratoi’r CCA, a bod diwygiadau
wedi ei wneud yn dilyn cyflwyno’r fersiwn drafft cychwynnol o’r Canllaw i’r
Panel. Amlygwyd bod y newidiadau yma wedi ei wneud yn dilyn trafodaethau
mewnol. Gosodwyd allan y diwygiadau fel isod. ·
Diwygio rhannau sydd yn
cyfeirio at y polisïau perthnasol a gynhwysir o fewn y CDLl
ar y Cyd er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb rhwng y Canllaw a’r Polisïau; ·
Ychwanegu eglurder o ran
colli defnydd cyfleuster cymunedol sydd ddim yn ddefnydd masnachol a’r
wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno; ·
Ychwanegu eglurder o ran y
wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno wrth ystyried addasrwydd ceisiadau ar gyfer
defnyddiau ategol ar safleoedd cyflogaeth. Materion a godwyd: ·
Holwyd
pam fod para 4.5 (Canol Trefi) yn gofyn
fod yr eiddo
wedi bod ar y farchnad am bris gwerthu neu bris rhent rhesymol am gyfnod o chwe mis ond
yn para 4.6 (mewn pentrefi) bod y gofyn yn deuddeg mis. Ymateb: ·
Esboniwyd
fod y gofyn yma yn deillio
o’r polisïau yn y CDLl a bod o ddim yn bosib
newid hynny trwy’r CCA. Penderfyniad – Cymeradwywyd
rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori
cyhoeddus. |