Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Berwyn Parry Jones a’r Cynghorydd Richard Owain
Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 4ydd o Fedi 2020 fel rhai
cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion
y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2020 fel rhai cywir. |
|
I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr
adroddiad Cofnod: Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn gosod allan
taith y CCA hyd yma. Nodwyd fod
y cyfod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng
Hydref a Thachwedd 2020. Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, derbyniwyd 10 sylw unigol (rhain
i’w gweld yn atodiad 1 o’r adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn
o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori rhai o’r
newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Materion a godwyd: ·
Yn dilyn Covid a Brexit, siopau yn cau,
ddim rhai newydd yn agor nodir ei fod yn bwysig bod yn hyblyg efo busnesau bach
at y dyfodol. Posibilrwydd o broblemau mawr yn dilyn Brexit ·
Hapus
efo’r CCCA ond nodi fod llawer o siopau yn cau, felly mi fydd angen meddwl am
hyn at y dyfodol. Ymateb: ·
Nodwyd
y sylwadau. Penderfyniad Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol
a mabwysiadu’r Canllaw Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth
ac Unedau Manwerthu |