Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: · Cyng. Anne Lloyd Jones - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn . · Cyng Richard Dew - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 29 Ionawr 2021 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2021 fel rhai cywir. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I'W MABWYSIADU: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 276 KB I ystyried a chymeradwyo’r ymatebion arfaethedig i sylwadau am y
Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a llety i dwristiaid a mabwysiadu’r
Canllaw. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a
mabwysiadu’r Canllaw. Cofnod: Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones oedd yn gosod allan y camau hyd yma yn ymwneud a datblygu’r CCA, yn cynnwys yr ymgynghoriadau blaenorol. Nodwyd fod y Gwasanaeth wedi derbyn 15 sylw dilys mewn perthynas â’r CCA. Esboniwyd mai dim ond rhannau penodol o’r CCA oedd yn destun ymgynghoriad yn ystod y cyfnod yma a derbyniwyd 8 sylw na ystyriwyd yn ddilys gan eu bod yn ymwneud a rhannau o’r CCA oedd ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus. Esboniwyd y sylwadau oedd wedi ei dderbyn ag ymateb y Gwasanaeth i’r sylwadau yn cynnwys, ble yn briodol newidiadau oedd y Gwasanaeth yn cynnig ei wneud i’r CCA mewn ymateb i rai o’r sylwadau. Materion a Godwyd Dim materion yn codi Penderfyniad Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid |