Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGOR 1, SWYDDFEYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN, LLANGEFNI
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Cyng John Pughe Roberts (CG), Cyng Bryan Owen (CSYM),
Cyng
Nicola Roberts (CSYM), Cyng Robin Williams
(CSYM) a’r Cyng Catrin
Wager (CG) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd, a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir, Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017 fel y rhai cywir. |
|
SWYDDOGAETHAU'R PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD PDF 232 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio Cofnod: Cafwyd
cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn rhoi gwybodaeth am swyddogaethau’r Pwyllgor ac
ystyriaethau perthnasol eraill er mwyn i’r Pwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad.
Cadarnhawyd fod y cytundeb newydd yn debyg iawn i'r
cytundeb blaenorol yn 2011, a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb i fonitro ac
adolygu'r Cynllun. Yn ogystal fe nodwyd swyddogaethau newydd i’r Pwyllgor sef
yn benodol: ·
Cyflwyno'r adroddiad adolygu a'r cytundeb cyflawni diwygiedig ar gyfer y
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i'r ddau Gyngor gytuno arnynt. ·
Bod yn gyfrifol am ddiwygio'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a
chyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd diwygiedig i'r ddau Gyngor i'w
mabwysiadu. ·
Derbyn a chynghori ar restr ffi ardoll ddrafft ar gyfer ymchwiliad
cyhoeddus ac ar argymhellion yr Arolygwr cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet
/ Pwyllgor Gwaith am benderfyniad. Yr unig newid yn nhermau aelodaeth ydi tynnu'r hawl i
benodi Aelodau fel aelodau wrth gefn. Mae hyn yn gyson â'r newidiadau
deddfwriaethol diweddar a gyflwynwyd yng nghyswllt aelodaeth Pwyllgorau
Cynllunio, ble mae aelodau wrth gefn bellach wedi'u gwahardd drwy statud. Pwyntiau a godwyd: ·
Roedd un o Aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu’r angen i gadw’r Uned Polisi
Cynllunio ar y cyd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. ·
Angen rhoi ystyriaeth i effeithiau Brexit e.e.
Porthladd Caergybi ar gysylltiad efo Iwerddon. ·
Pwysig cael yr Uned i adolygu newidiadau e.e. unrhyw oedi ym mhrosiect
Wylfa Newydd. Ymatebion ·
Rhaid monitro'r Cynllun yn flynyddol ac mae’n statudol edrych ar y
cyd-destun, newid mewn polisi cenedlaethol, cyflogwr mawr yn gadael ayb. Hyn i
gyd yn dylanwadu ar sut mae’r Cynllun yn ymateb i newid mewn amgylchiadau. Penderfyniad: Nodwyd cynnwys yr
adroddiad. |
|
AIL SEFYDLU PANEL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD PDF 222 KB Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi
Cynllunio Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cafwyd cyflwyniad
gan Nia Haf Davies oedd yn esbonio mae prif bwrpas y Panel ydi ystyried a rhoi barn ar
wybodaeth sy’n angenrheidiol i lywio datblygiad dogfennau polisi cynllunio
allweddol sydd wedi cael eu hadnabod yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd. Roedd Cylch Gorchwyl Y Panel wedi ei gynnwys efo Atodiad
1 i’r adroddiad. Nodwyd ei fod yn debyg iawn i’r Cylch Gorchwyl blaenorol ond
ei fod yn adlewyrchu’r gwaith sydd ei angen am y cyfnod nesaf yma sef rhoi
cyngor yn ystod camau allweddol yn y broses o baratoi Canllawiau Cynllunio
Atodol, yr Adroddiad monitro blynyddol, diwygiad o’r Cynllun neu’r ffi ardoll
seilwaith cymunedol. Penderfyniad: Cafwyd cynigydd ac eilydd i’r argymhelliad bod y pwyllgor
yn ail-sefydlu’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd a’i fod yn gweithredu yn
unol â’i gylch gorchwyl. Gwnaeth y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad. |