Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rebeca Jones 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Cyng.
Berwyn Parry Jones, Cyng. Gareth A Roberts, Cyng. Robin Williams, Cyng. John
Pughe Roberts a’r Cyng. Richard Owain Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Mynegwyd cydymdeimlad y Pwyllgor tuag at gyn Cynghorydd Cyngor Sir
Ynys Môn, Gareth Winston Roberts. Nodwyd y byddai yno air o gydymdeimlad yn cael ei anfon
ato ar ran y Pwyllgor |
|
Fe fydd y Cadeirydd yn cynnig fod
y cofnodion o’r pwyllgor gynhaliwyd ar yr 22 Hydref,
2021 fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd
ar 22 Hydref 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD – YMATEB I’R CYFNOD YMGYNGHORI CYHOEDDUS PDF 42 KB I drafod sylwadau derbyniwyd ynghyd a ymateb swyddogion y Gwasanaeth i’r ymgynghoriad cyhoeddus ynghyd a Adroddiad Adolygu wedi ei ddiweddaru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: i) Derbyn y newidiadau arfaethedig i’r Adroddiad Adolygu sydd wedi ei gynnig yn Atodiad 2. ii) Cymeradwyo yr Adroddiad Adolygu fel yr adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Cofnod: Rhoddwyd
cyflwyniad gan Rebeca Jones yn amlinellu'r cyfnod ymgynghori cyhoeddus sydd
wedi mynd rhagddi yn gysylltiedig â’r Adroddiad Adolygu ac ymateb y swyddogion
i’r sylwadau a dderbyniwyd. Amlygwyd fod posib archwilio’r holl sylwadau a’r ymatebion iddynt yn
atodiad 1 o’r papurau. Nodwyd fod yr Adroddiad Adolygu wedi bod yn destun cyfnod ymgynghori
cyhoeddus a derbyniwyd 329 o
sylwadau gan 48 unigolyn. Nodwyd fod nifer o’r sylwadau a dderbyniwyd yn amherthnasol i’r
Adroddiad Adolygu, ond fod yna faterion sydd angen bod yn ystyriol ohonynt wrth
baratoi’r Cynllun Diwygiedig wedi cael ei amlygu. Yn dilyn derbyn ac ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd nodwyd yr
angen i gynnal diwygiadau perthnasol i’r Cynllun. Tynnwyd sylw'r Panel at yr angen i gynnal y
diwygiadau canlynol i’r Adroddiad Adolygu: - •
Cynnwys
cyfeiriad yn rhan 2 o’r ddogfen i: a. Canllawiau Ddeddf Teithio Llesol (Gorffennaf 2021) (cyhoeddiad
Llywodraeth Cymru) b. Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr
2020-2025 (cyhoeddiad Llywodraeth Cymru) c. Datganiad Ardal Forol (cyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru) ch. Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru •
Cynnwys
testun sydd yn rhoi diweddariad ynghylch a’r oedi yn cyhoeddi Nodyn Cyngor
Technegol 15 diwygiedig yn Rhan 2 •
Cynnwys
cyfeiriad tuag at waith ymchwil yn gysylltiedig â ail gartrefi sydd wedi ei
gynnal a'r peilot a fwriedir ar gyfer ardal Dwyfor. •
Man
newidiadau i’r testun er mwyn cywirdeb. Amlinellwyd yr holl newidiadau sydd wedi ei
wneud i’r Adroddiad Adolygu yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus fel nodwyd yn Atodiad 1. Cadarnhawyd fod yr Adroddiad Adolygu yn dod
i gasgliad ynglŷn â’r angen i gynnal Adolygiad Llawn o’r Cynllun a bod y
sylwadau a dderbyniwyd yn cytuno efo hyn. Ymhellach fe amlygwyd yr amserlen a’r
drefn adrodd yn gysylltiedig â derbyn cymeradwyaeth o’r Adroddiad Adolygu. Amlinellwyd
y broses o adrodd ar yr Adroddiad Adolygu i gyfarfodydd o Gyngor Llawn Cyngor
Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd ac yna ei gyhoeddi a’i gyflwyno i’r Llywodraeth. Materion a Godwyd ·
Nodwyd fod
angen bod yn barod am y drafodaeth ynglŷn â’r Adroddiad Adolygu yn y
Cyngor Llawn ac ymateb Swyddogion i’r sylwadau sydd wedi ei derbyn yn ystod y
cyfnod ymgynghori cyhoeddus. ·
Holwyd
ynglŷn â Chynllun Peilot Dwyfor a phryd fydd yna fwy o fanylion yn cael ei
gyhoeddi. Mae’r mater ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn fater
eithriadol o bwysig i Wynedd a Môn. Mae’n ymddangos fod yna dipyn o drafod o
amgylch y pwnc ond ddim yn cael ei weithredu arno. ·
Mynegwyd
pryder ynglŷn â’r bygythiad o ffermydd lleol yn cael ei brynu gan gwmnïau
mawr er mwyn plannu coed mewn ymgais i
wrthbwyso eu hoel troed carbon. Er cydnabyddir fod newid hinsawdd yn fygythiad
aruthrol mae ceisio gwyrdroi cyfraniad allyriadau carbon cwmnïau mawr drwy
brynu ffermydd bychan yn fygythiad i gymunedau gwledig Cymreig. Ymateb ·
Nodi’r sylw · Nodwyd mai cynllun y Llywodraeth yw’r Cynllun Peilot a bod unrhyw fanylion ynglŷn beth a sut fwriedir ei weithredu yn brin. Fodd bynnag, nodwyd fod y Llywodraeth wedi datgan eu bwriad i gynorthwyo hefo chael tai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |