skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbynwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Gareth A Roberts (CG) a’r  Cyng. Robin Williams (YM)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID

 

Cyng. Anne Lloyd Jones - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn.

 

Cyng Richard Dew - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hyn.

 

Cyng. Owain Williams - Personol ac yn rhagfarnu - Y drafodaeth yn ymwneud a’r Canllaw Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid. Unigolyn hefo diddordeb personol yn y maes hwn.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 296 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  Medi 30 2019, yn rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 30 Medi 2019 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 pdf eicon PDF 207 KB

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Reolwr Cyllid, Cyngor Gwynedd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a chymeradwywyd y canlynol:-

 

  • Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2019/20
  • Ffurflen flynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2020.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans (Uwch Rheolwr Cyllid)  a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd.

 

Eglurwyd bod y Ffurflen Flynyddol Swyddogol ar gyfer 2019/2020 wedi'i chwblhau a'i hardystio'n briodol gan y Swyddog Ariannol Cyfrifol. Yn dilyn ardystiad roedd yn ofynnol i'r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd gymeradwyo a chyhoeddi'r Ffurflen Flynyddol erbyn 15 Mehefin 2020. Er iddo gael ei gyhoeddi ar gwefan Cyngor Gwynedd oherwydd argyfwng Covid-19, nid oedd yn bosibl i'r corff gymeradwyo'r ffurflen flynyddol cyn 15 Mehefin 2020.

Eglurwyd bod y cyfrifon a'r ffurflen wedi bod yn destun archwiliad gan Deloitte ac ni chododd unrhyw faterion fel rhan o'r Archwiliad.

Esboniwyd, oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r pandemig, y byddai'n angenrheidiol i'r Cadeirydd lofnodi'r Cyfrifon gan ddefnyddio llofnod electronig.

 

Materion a godwyd:

 

·                Cwestiynwyd beth oedd y Costau Staffio Eraill yn atodiad A.

 

Ymateb:

·         Eglurwyd mai costau yn ymwneud ac aelod o staff sydd bellach wedi gadael y gwasanaeth ydi’r costau staffio eraill ac mai costau ar gyfer 19/20 yn unig ydi'r rhain.

 

Penderfyniad 

 

Derbyniwyd a chymeradwywyd y ‘Cyfrif Incwm a Gwariant refeniw 2018/2019’ ynghyd a’r ‘Ffurflen Flynyddol’ ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020. Cytunwyd y Cadeirydd i lofnodi’r cyfrifon yn electroneg, gan gadarnhau ei bod wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y cyd.

 

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID pdf eicon PDF 146 KB

Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi

Cynllunio ar y Cyd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny.

 

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad byr gan Heledd Jones yn esbonio taith y CCA hyd yma. Esboniwyd y rhesymau dros y newidiadau i’r CCA a’r man ddiwygiadau a chynigir i’r CCA. Esboniwyd fod y newidiadau yn ymwneud a diffinio'r hyn a ystyrir gan ormodedd o lety gwyliau’r rhesymeg dros y newidiadau hynny.  Amlygwyd mai'r newidiadau sydd wedi ei dangos mewn ysgrifen fras ac wedi ei danlinellu yn rhan 4.6 a phara 6.2.1 fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Materion a godwyd:

 

·         Gofynnwyd a fydd unrhyw ddatblygiad newydd (lle yn briodol) yn cael ei chlymu i Rif y Daliad

·         Angen edrych ar geiriad para 4.6.2 yn y fersiwn Saesneg y gair ‘idle’ ddim yn addas yn y cyd-destun yma

·         Gofynnwyd am esboniad o beth mae ‘cyfiawnhad cadarn’ ym mharagraff 3.1.3 yn ei olygu 

·         Gofynnwyd am esboniad beth mae ‘adeiladau diogelwch’ yn ei olygu ym mharagraff 4.4.1

 

 

Ymateb:

·         Eglurwyd bod y CCA yn rhoi arweinid ar hyn yn para 4.6.6, mae unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei rheoli gan amod lle yn briodol.

·         Cytunwyd nag oedd y gair yma yn addas a chytunwyd y bydd yn cael ei newid ag i brawf ddarllen y diwygiadau cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus

·         Esboniwyd fod y paragraff yma ddim yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus

·         Esboniwyd fod yr eirfa yma yn dod o Bolisi Cynllunio Cymru.   

 

Penderfyniad

Cymeradwywyd y diwygiadau oedd yn cael ei gynnig i ran 4.6 a pharagraff 6.2.1 o’r Canllaw a phenderfynwyd cymeradwyo rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus sydd yn benodol berthnasol i’r rhannau hynny.

 

7.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL - NEWID DEFNYDD CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL, SAFLEOEDD CYFLOGAETH AC UNEDAU MANWERTHU pdf eicon PDF 144 KB

Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm) Gwasanaeth Polisi

Cynllunio ar y Cyd

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

 

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn rhoi cyd- destun y CCA a gosod allan y camau nesaf. Esboniwyd y broses o baratoi’r CCA, a bod diwygiadau  wedi ei wneud yn dilyn cyflwyno’r fersiwn drafft cychwynnol o’r Canllaw i’r Panel. Amlygwyd bod y newidiadau yma wedi ei wneud yn dilyn trafodaethau mewnol. Gosodwyd allan y diwygiadau fel isod.

·         Diwygio rhannau sydd yn cyfeirio at y polisïau perthnasol a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb rhwng y Canllaw a’r Polisïau;

·         Ychwanegu eglurder o ran colli defnydd cyfleuster cymunedol sydd ddim yn ddefnydd masnachol a’r wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno;

·         Ychwanegu eglurder o ran y wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno wrth ystyried addasrwydd ceisiadau ar gyfer defnyddiau ategol ar safleoedd cyflogaeth.

 

Materion a godwyd:

·         Holwyd pam fod para 4.5 (Canol Trefi) yn gofyn fod yr eiddo wedi bod ar y farchnad am bris gwerthu neu bris rhent rhesymol am gyfnod o chwe mis ond yn para 4.6 (mewn pentrefi) bod y gofyn yn deuddeg mis.

 

Ymateb:

·         Esboniwyd fod y gofyn yma yn deillio o’r polisïau yn y CDLl a bod o ddim yn bosib newid hynny trwy’r CCA.

 

Penderfyniad

Cymeradwywyd rhyddhau’r Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus.