Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGOR 1, SWYDDFEYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN, LLANGEFNI
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2017/18 Cofnod: Cafodd Cyng.
Richard Dew ei ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y
cyfnod 2017 - 2018. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2017/18 Cofnod: Cafodd Cyng. Dafydd Meurig ei ethol fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am y cyfnod 2017 - 2018 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes, John Pughe Roberts (CG), Robin Williams a Nicola Roberts (GSYM)
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.
|
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
24.6.16 fel rhai cywir . Cofnod: Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor 26 Mehefin 2016 fel y rhai cywir ac fe wnaeth
y Cadeirydd eu harwyddo. |
|
I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr
Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Ffion Madog Evans a oedd yn ymateb i ofyniad statudol o dan
Adran 12 o Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 i adrodd yn benodol am
gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd. Eglurwyd fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol
ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar
wahân. Cyflwynwyd copi o’r
ffurflenni yn Atodiad A & B. Bydd yr Archwilydd Penodedig, sef Deloitte, (archwilwyr allanol a benodwyd gan Gyngor
Gwynedd) yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd
i’r Pwyllgor nad oes angen ail-gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2017 (cyn iddo gael ei ardystio gan yr
Archwiliwr) oni bai bydd angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir
gan yr Archwilydd Penodedig. Materion a godwyd:
i.
Beth oedd cyfanswm y gost o baratoi’r Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd – nid oedd y manylion penodol gan y swyddogion. Er
hynny, cyfeiriwyd at adroddiadau a gyflwynwyd yn flaenorol a oedd yn cyfeirio
at y costau. Nodwyd bod cyfanswm y gost heb gynnwys costau staff oddeutu
£1,000,000 a rannwyd rhwng y ddau Gyngor.
ii.
Cyfeiriwyd at y ffaith bod llai o arian wedi ei
wario ar elfennau fel yr Archwiliad Cyhoeddus ac argraffu. Nodwyd mai’r rheswm
am hynny oedd nad ydi’r broses wedi dod i ben yn llwyr eto. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglyn ag cyllid ar gyfer cwblhau’r broses
yn ystod 2017 – 2018, derbyniwyd cadarnhad bod costau cwblhau’r broses wedi
cael ei gynnwys ym mhroffil gwariant 2017 – 2018.
iii.
Holwyd beth oedd cynnwys y ffigwr gwariant
‘Costau Staffio Eraill’? Esboniwyd fod y
gwariant yma yn costau diswyddiad. Fe gafodd y dogfennau
perthnasol eu harwyddo gan y Cadeirydd ar ran Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y
Cyd. |
|
CYLCH GORCHWYL PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD I ystyried adroddiad y Rheolwr
Cynllunio (Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd - Gwynedd a Môn) Cofnod: Cyflwynwyd darnau allan o’r Gytundeb sy’n bodoli rhwng y ddwy Sir ynglŷn
â’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Nodwyd bod llawer o’r tasgau wedi cael
eu cwblhau oherwydd bod y broses paratoi’r Cynllun bron a dod i ben. Er hynny,
bydd gan y Pwyllgor swyddogaeth yn gysylltiedig â phenderfynu ar gynnwys
Canllawiau Cynllunio Atodol a’r gwaith i fonitro gweithrediad polisïau os
penderfynir i fabwysiadu y Cynllun. ‘Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddyddiadau a oedd yng nghalendr
pwyllgorau’r Cynghorau. Tynnwyd sylw’r Aelodau at gyfarfod ychwanegol sy’n cael
ei drefnu ar 14 Gorffennaf 2017. |