skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGOR 1, SWYDDFEYDD CYNGOR SIR YNYS MÔN, LLANGEFNI

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng  John Pughe Roberts (CG), Cyng  Bryan Owen (CSYM), Cyng  Nicola Roberts (CSYM), Cyng  Robin Williams (CSYM) a’r Cyng Catrin Wager (CG)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 278 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd, a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017, fel rhai cywir,

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2017 fel y rhai cywir.

5.

SWYDDOGAETHAU'R PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio

Cofnod:

           

            Cafwyd cyflwyniad gan Nia Haf Davies yn rhoi gwybodaeth am swyddogaethau’r Pwyllgor ac ystyriaethau perthnasol eraill er mwyn i’r Pwyllgor nodi cynnwys yr adroddiad. Cadarnhawyd fod y cytundeb newydd yn debyg iawn i'r cytundeb blaenorol yn 2011, a oedd yn cynnwys cyfrifoldeb i fonitro ac adolygu'r Cynllun. Yn ogystal fe nodwyd swyddogaethau newydd i’r Pwyllgor sef yn benodol:

·         Cyflwyno'r adroddiad adolygu a'r cytundeb cyflawni diwygiedig ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd i'r ddau Gyngor gytuno arnynt.

·         Bod yn gyfrifol am ddiwygio'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a chyflwyno'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd diwygiedig i'r ddau Gyngor i'w mabwysiadu.

·         Derbyn a chynghori ar restr ffi ardoll ddrafft ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus ac ar argymhellion yr Arolygwr cyn iddi gael ei chyflwyno i'r Cabinet / Pwyllgor Gwaith am benderfyniad.   

Yr unig newid yn nhermau aelodaeth ydi tynnu'r hawl i benodi Aelodau fel aelodau wrth gefn. Mae hyn yn gyson â'r newidiadau deddfwriaethol diweddar a gyflwynwyd yng nghyswllt aelodaeth Pwyllgorau Cynllunio, ble mae aelodau wrth gefn bellach wedi'u gwahardd drwy statud.

Pwyntiau a godwyd:

·         Roedd un o Aelodau’r Pwyllgor yn cwestiynu’r angen i gadw’r Uned Polisi Cynllunio ar y cyd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

·         Angen rhoi ystyriaeth i effeithiau Brexit e.e. Porthladd Caergybi ar gysylltiad efo Iwerddon.

·         Pwysig cael yr Uned i adolygu newidiadau e.e. unrhyw oedi ym mhrosiect Wylfa Newydd.

Ymatebion

·         Rhaid monitro'r Cynllun yn flynyddol ac mae’n statudol edrych ar y cyd-destun, newid mewn polisi cenedlaethol, cyflogwr mawr yn gadael ayb. Hyn i gyd yn dylanwadu ar sut mae’r Cynllun yn ymateb i newid mewn amgylchiadau.

Penderfyniad:

Nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

6.

AIL SEFYDLU PANEL CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Nia Haf Davies oedd yn esbonio mae prif bwrpas y Panel ydi ystyried a rhoi barn ar wybodaeth sy’n angenrheidiol i lywio datblygiad dogfennau polisi cynllunio allweddol sydd wedi cael eu hadnabod yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Roedd Cylch Gorchwyl Y Panel wedi ei gynnwys efo Atodiad 1 i’r adroddiad. Nodwyd ei fod yn debyg iawn i’r Cylch Gorchwyl blaenorol ond ei fod yn adlewyrchu’r gwaith sydd ei angen am y cyfnod nesaf yma sef rhoi cyngor yn ystod camau allweddol yn y broses o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol, yr Adroddiad monitro blynyddol, diwygiad o’r Cynllun neu’r ffi ardoll seilwaith cymunedol.  

Penderfyniad:

Cafwyd cynigydd ac eilydd i’r argymhelliad bod y pwyllgor yn ail-sefydlu’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd a’i fod yn gweithredu yn unol â’i gylch gorchwyl. Gwnaeth y Pwyllgor dderbyn yr argymhelliad.