Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679 890  E-bost: niahafdavies@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

Dywedodd y swyddogion canlynol na fyddent yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth am safleoedd o fewn yr aneddleoedd a restrir:

 

Nia Haf Davies: Bethesda

Chwilog

Llanfairpwll

Dolydd

Dinas (Llanwnda)

 

Heledd Ff. Jones: Benllech

Llangaffo

Llangefni

Llangristiolus

 

Bob Thomas: Porthaethwy

Llanddanielfab

Llanrug

Llandwrog

 

Polisi Strategol Telathrebu (PS3)

Jim Woodcock: Waun, Penisarwaun

 

Nododd Cyng. Lewis Davies ei fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn aelod o Gymdeithas Hanes Uwch Gwyrfai, ond y byddai’n cymryd rhan y drafodaeth yn rhinwedd ei swydd fel aelod o’r Pwyllgor.

 

Rhoddwyd cyngor cyffredinol i’r Pwyllgor nad oedd angen gadael y Siambr os ydynt yn perthyn i fudiadau sydd wedi cyflwyno sylwadau ond byddai angen i Aelodau sydd wedi cyflwyno sylwadau am y Cynllun benderfynu o ran datgan buddiant yn unol a’r Cod Ymddygiad.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chyflwynwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 212 KB

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2015 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd Cofnodion Pwyllgor 26 Mehefin 2015 fel y rhai cywir a chawsant eu harwyddo gan y Cadeirydd.

5.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD GWYNEDD A MON pdf eicon PDF 195 KB

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr (Polisi) yn egluro’r broses a’r cynnydd ar y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd:-

 

 Esboniwyd fod yr amserlen ddiwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Panel a’i hysbysebu drwy Newyddlen - Rhifyn 5. Hyd yn hyn mae cam 9) o’r amserlen bron wedi ei gyrraedd.

 Rhoddwyd eglurhad o’r broses a manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Adnau yn ogystal â disgrifiad o’r math o sylwadau a dderbyniwyd.

 Cafwyd eglurhad ynglŷn â Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol a’r canllawiau perthnasol. Tynnwyd sylw’r Pwyllgor i’r gofynion wrth ystyried y sylwadau, gan gynnwys y math o newidiadau, sef ‘Mân Newid’ ac ‘Newid â Ffocws’ a fyddai’n bosib eu cynnwys os oedd angen gwneud newidiadau.

 Cyfeiriwyd at adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Aelodau ym mis Mehefin 2015 gan Mr Iwan Evans, (Ymgynghorydd Cynllunio) (Atodiad D) er mwyn eu cynorthwyo i ddeall pa fath o newidiadau fuasai yn briodol.

 Eglurwyd mai pwrpas yr Archwiliad fyddai sicrhau fod y Cynllun yn ‘gadarn’ – ac wrth weithio drwy’r broses Archwiliad Cyhoeddus fe fyddai’r Arolygydd yn edrych ar y Profion Cadernid a gafodd eu cynnwys yn Atodiad CH.

 Cafwyd crynodeb o’r prif faterion a godwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd, ynghyd â throsolwg o ymatebion:-

 

Ø Graddfa twf tai gan gynnwys ei berthynas a’r iaith Gymraeg

Ø Strategaeth i sicrhau twf tai a’r berthynas gyda’r iaith Gymraeg

Ø Strategaeth ofodol, gan gynnwys statws aneddleoedd

Ø Tai fforddiadwy

Ø Tai marchnad leol

Ø Anghenion llety sipsiwn a theithwyr

Ø Economi a chyflogaeth gan gynnwys darpariaeth tir

Ø Ynni adnewyddadwy gan gynnwys tyrbinau gwynt

Ø Gwarchod amgylchedd naturiol

Ø Dyraniadau safleoedd penodol

 Eglurwyd bod Atodiad A i’r adroddiad yn rhoi crynodeb o bob un sylw unigol ac ymateb i’r sylwadau unigol.

 Tynnwyd sylw at y papurau ychwanegol a gafodd eu cylchredeg ar 26 Ionawr 2016 ac i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar 29 Ionawr 2016 a oedd (i) yn cyfeirio at ddiwygiadau angenrheidiol i Atodiad B a (ii) yn cofnodi sylwadau na chafodd eu cynnwys yn Atodiad A.

 Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn y broses ymgynghori yn ofalus, gan gynnwys trafodaethau ac adborth y Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gweler bod yr adroddiad yn dod i gasgliad na chyflwynwyd rhesymau na thystiolaeth rymus a chadarn i gynnig newidiadau sylfaenol i’r Cynllun Adnau.

 Ystyrir y byddai rhannau o’r Cynllun Adnau yn elwa o fân newidiadau a newidiadau â ffocws, ac ‘roedd y rheini i’w gweld yn Atodiad B a C i’r adroddiad.

 Dywedwyd nad oes rhaid i’r Cynghorau ymgynghori am Newidiadau â Ffocws cafwyd argymhelliad i wneud hynny gan fyddai hynny yn arddangos ymarfer gorau, gan roi cyfle i gael barn y cyhoedd ar y newidiadau ar gyfer yr Archwiliad Cyhoeddus.

 Esboniwyd nad oedd y Newidiadau â Ffocws yn cael effaith andwyol ar yr asesiadau statudol, sef Arfarniad o Gynaliadwyedd (yn cynnwys Asesiad Amgylcheddol Strategol) Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

 Cyn symud i ystyried sylwadau unigol cafwyd trosolwg o’r broses Archwiliad Cyhoeddus: Pan fydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DYDDIAD A LLEOLIAD Y CYFARFOD NESAF

11 Mawrth 2016, manylion i’w cadarnhau