Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN

Cyswllt: Nia Haf Davies  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr John Pughe Roberts (CG), John Brynmor Hughes (CG), Gareth Roberts (CG), Nicola Roberts (CSYM), Richard Owain Jones (CSYM) a Kenneth P. Hughes (CSYM).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 148 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 25 Ionawr 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2019 fel y rhai cywir.

5.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOLI I'W MABWYSIADU: TAI MARCHNAD LLEOL A LLECYNNAU AGORED MEWN DATBLYGIADAU TAI NEWYDD pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad gan Uwch Swyddogion Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

i)          Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Marchnad Lleol

 

Cyflwyniad gan Rhodri Owen yn egluro’r newidiadau i’r canllaw ers iddo gael ei gyflwyno i’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ar y 25 Ionawr 2019 ac yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â’r Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw.

 

Materion a godwyd:

 

      Gofynnwyd am eglurder pellach ar gyfer yr ymateb i sylw 7 o ran  nad oes bwriad i gyfyngu ar bris tai marchnad leol.

      Codwyd cwestiwn os oedd modd i gystadleuaeth ar gyfer tai fforddiadwy olygu fod ei prisiau hwy yn cynyddu.

      Nodwyd fod y system gynllunio yn Lloegr wedi newid i alluogi mwy o hyblygrwydd ar gyfer newid defnydd adeiladau i ddefnydd preswyl yn y cefn gwlad. Holwyd os oedd hyn yn debygol o ddigwydd yng Nghymru? Hefyd a oes modd pwyso am hyn trwy deddfwriaeth o Caerdydd efo pwyslais ar bobl leol i gael blaenoriaeth am fath ddatblygiadau?

      Cwestiynwyd os oedd yna broblem efo’r ardaloedd lleol ym Mholisi TAI 5 os diffinnir ardaloedd gwahanol ar gyfer tai fforddiadwy o dan Polisïau TAI 4 a TAI 6.

 

 

Ymateb:

 

      Esboniwyd nad yw tai marchnad lleol yn cyd fynd â’r diffiniad cynllunio a roddir yn NCT 2 ar gyfer tai fforddiadwy ac felly maint y tai a maint y farchnad fydd yn rheoli pris y tai yma yn hytrach na mecanwaith cynllunio. Fe ellid cael esiampl ble mae dau unigolyn lleol yn cystadlu am dŷ a all olygu fod ei werth yn cynyddu i fod yn agos i werth tŷ marchnad agored.

      Oherwydd bod mecanwaith penodol wedi ei osod ar gyfer unedau fforddiadwy ni all eu gwerth gynyddu uwchben y lefel disgownt sydd yn berthnasol ar gyfer unedau penodol.

      Mae’r broses yn wahanol yng Nghymru a ni rhagwelir a hyn o bryd y buasai yna gefnogaeth yng Nghymru i gael proses tebyg i Lloegr ar gyfer hyn oherwydd deallir bod y newid yn y rheoliadau yn achosi anawsterau ac oherwydd nad oes dim rheolaeth dros feddiannaeth y tai a fyddai’n cael eu creu, h.y. ni chyfyngir yr unedau i fod yn dai i bobl leol ac ni ellir atal iddynt gael eu defnyddio fel tai haf/ ail gartrefi. Mae Polisi yn y Cynllun eisoes yn galluogi adeiladau ar fferm gael caniatâd cynllunio i’w trosi i fod yn dai fforddiadwy angen lleol (os ellir dangos nad oes defnydd economaidd yn ymarferol). Mater i’r Cynghorau yw os ydynt eisio pwyso ar Llywodraeth Cymru i gael deddfwriaeth newydd am y math yma o ddatblygiadau.

      Mae ardaloedd Tai marchnad Lleol wedi cael ei diffinio yn y Polisi a felly nid oes problem efo creu ardal gwahanol ar gyfer diffinio’r ardal wledig gyfagos yn Mholisïau TAI 4 a TAI 6.   

 

Penderfyniad – Derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo’r ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw hwn.

 

ii)         Canllaw Cynllunio Atodol: Llecynnau Agored mewn Datblygiadau Tai Newydd

 

Cyflwyniad gan Linda Lee  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.