skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Richard Owain Jones (IACC), Cynghorydd Bryan Owen (IACC) a’r Cynghorydd John Pughe Roberts (GC)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 114 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019 fel rhai cywir.

 

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I’W MABWYSIADU: YMRWYMIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bob Thomas (Arweinydd Tîm), Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad byr gan Bob Thomas er mwyn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn.

           

Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd fod yna gyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Chwefror ac Ebrill 2019.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 11 sylw unigol (rhain i’w gweld yn Atodiad 1 o’r adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion ar gyfer y CCA gan y Pwyllgor.

 

Penderfyniad

 

Derbyniodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yr argymhelliad, sef:-

 

i)    Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Ymrwymiadau Cynllunio;

ii)  Bod hawl yn cael ei roi i’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd ymgymryd â newidiadau gweinyddol terfynol i’r Canllaw i sicrhau fod holl faterion croesgyfeirio oddi fewn iddo yn gywir.

 

6.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I’W MABWYSIADU: AIL-ADEILADU TAI A THROSI ADEILADAU YNG NGHEFN GWLAD pdf eicon PDF 85 KB

Cyflwyno adroddiad gan Heledd Jones (Arweinydd Tîm), Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad byr gan Heledd Jones er mwyn amlygu’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y CCA drafft hwn.

 

Yng nghyswllt y CCA dan sylw nodwyd fod yna gyfnod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Chwefror ac Ebrill 2019.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, dderbyniwyd 9 sylw unigol (rhain i’w gweld yn Atodiad 1 o’r adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Materion a godwyd:

·         Dim ond yn galluogi trosi adeiladau yn y cefn gwlad i unedau gwyliau yn unig ond yn Lloegr ceir hawl i newid defnydd i ddefnydd preswyl. A oes trafodaethau wedi bod efo Llywodraeth Cymru ar hynny mater yma?

·         Unedau amaethyddol mawr yn gallu cael tŷ ychwanegol fodd bynnag  unedau llai ddim yn gallu cael caniatâd (diffyg cyfiawnhad/angen ar gyfer tŷ menter gwledig). Mae natur gwaith ardaloedd gwledig wedi newid ac angen sicrhau fod swyddi newydd yn rhoi cyfleoedd i bobl allu byw yn ei chymunedau.

·         A fuasai gormodedd o unedau gwyliau mewn ardal yn golygu nad oes angen profi defnydd hyfyw addas ar gyfer defnydd economaidd ohonynt?

·         Beth sydd i atal rhywun i baratoi cynllun busnes sydd yn datgan bod menter yn hyfyw?

·         A oes yna ardaloedd penodol ble na ellid cael mwy o dai gwyliau oherwydd gorddarpariaeth?

 

Ymateb:

·         Eglurwyd bod modd cael tŷ fforddiadwy angen lleol drwy drosi adeilad mewn ardal a ddiffinnir fel cefn gwlad os cyflwynir tystiolaeth nad yw defnydd cyflogaeth o’r adeilad yn hyfyw yn unol a’r meini prawf a osodir allan ym Mholisi TAI 7.

·         Os nad yw unedau amaethyddol llai yn profi’r angen am dŷ ychwanegol (tŷ menter gwledig) yna mae yna gyfleon yn parhau i fodoli ar gyfer tŷ fforddiadwy angen lleol. 

·         Un math o ddefnydd cyflogaeth yw defnydd gwyliau buasai’n rhaid profi nad yw mathau eraill o ddefnydd cyflogaeth yn hyfyw.

·         Mae’r CCA yn cynnig arweiniad o ran y math o wybodaeth a ddisgwylir ei gyflwyno o ran defnyddiad economaidd hyfyw ar gyfer yr uned a fwriedir ei drosi. Bydd unrhyw wybodaeth a dderbynnir ar ffurf Cynllun Busnes yn cael ei wirio fel rhan o’r broses o asesu’r cais cynllunio ac yn ôl yr angen fe fyddai posib derbyn mewnbwn/arweiniad gan adran Datblygu Economaidd y Cynghorau.

·         Mae geiriad y Polisi perthnasol (Polisi TWR 2)  yn cyfeirio at sicrhau na fyddai unrhyw gais yn arwain at ‘gormodedd’ o lety gwyliau. Ymhelaethir ar y diffiniad o ‘ormodedd’ yn yr eglurhad i’r Polisi gan nodi’r angen i gyflwyno Cynllun Busnes er mwyn asesu’r farchnad ar ddarpariaeth gyffelyb sydd yn yr ardal. Fel rhan o asesu’r ddarpariaeth mae hefyd yn bosib i’r uned asesu gwybodaeth treth cyngor. Mae yna CCA ar-wahân ar gyfer Llety Gwyliau yn y broses o gael ei fabwysiadu.     

           

 

Penderfyniad

 

Derbyniodd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yr argymhelliad, sef:-

 

i)    Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllawiau Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Ail-adeiladu Tai a Throsi Adeiladau yng Nghefn Gwlad;

ii)  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.