skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rebeca Jones  01286 679890

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Berwyn Parry Jones a’r Cynghorydd Richard Owain Jones

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.  

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 694 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 4ydd o Fedi 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2020 fel rhai cywir.

 

5.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL (CCA) I’W MABWYSIADU: NEWID DEFNYDD CYFLEUSTERAU A GWASANAETHAU CYMUNEDOL,SAFLEOEDD CYFLOGAETH AC UNEDAU MANWERTHU pdf eicon PDF 651 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

Cofnod:

Cafwyd cyflwyniad gan Heledd Jones yn gosod allan taith y CCA hyd yma. Nodwyd fod y cyfod ymgynghori cyhoeddus wedi cymryd lle rhwng Hydref a Thachwedd 2020.

 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, derbyniwyd 10 sylw unigol (rhain i’w gweld yn atodiad 1 o’r adroddiad). Nodwyd fod yna gopi cyflawn o’r Canllaw wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, sydd wedi ymgorffori rhai o’r newidiadau a awgrymwyd yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Materion a godwyd:

·         Yn dilyn Covid a Brexit, siopau yn cau, ddim rhai newydd yn agor nodir ei fod yn bwysig bod yn hyblyg efo busnesau bach at y dyfodol. Posibilrwydd o broblemau mawr yn dilyn Brexit

 

·         Hapus efo’r CCCA ond nodi fod llawer o siopau yn cau, felly mi fydd angen meddwl am hyn at y dyfodol.

 

Ymateb:

·         Nodwyd y sylwadau.

 

Penderfyniad

 

Cymeradwyo’r ymateb arfaethedig i’r sylwadau am y Canllaw Cynllunio Atodol a mabwysiadu’r Canllaw Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu