Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod
yma COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen
Churchman yn gadeirydd i’r cyfarfod. |
|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Robin Williams (Cynrychiolydd
Cyngor Ynys Môn), H Eifion Jones (Aelod Bwrdd Pensiwn), Sioned
Parry (Aelod Bwrdd Pensiwn), Wendy Jones (Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol
Conwy), Karen Nelson (Grŵp
Llandrillo Menai), Rebecca (Menter Mon) Jo Cavill (Gyrfa Cymru), Geraint Owen (Cyngor Gwynedd), Alwen
Williams (Bwrdd Uchelgais Economaidd), Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Sue Hill (ABM
Catering), Dave O’Neill
(Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy), Nia Murray (Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri), Carys Edwards Ynys Mon), Amanda Davies (Byw’n Iach), Sion Wyn Hughes
(Cyngor Tref Caernarfon), Caren Byron (Gyrfa Cymru),
Rachel Lees (Cyngor Tref Conwy) a Rick Mills (Cyhoedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w nodi |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2021/22 PDF 3 MB I dderbyn
adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2021/22 COFNODION: Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn. Cyflwyniad Cyfarwyddwr y
Gronfa Adroddwyd bod gwerth y Gronfa Bensiwn wedi cynyddu o £2,528 miliwn i £2,776 miliwn a ystyriwyd yn gynnydd sylweddol o £248 miliwn yn ystod 2021/22. Ategwyd, er
cyfnod yr ansicrwydd a oedd yn y marchnadoedd byd-eang yn nechrau 2020, cafwyd
cyfnod hir o adferiad, ac er yn perfformio tu ôl i’r meincnod, cafwyd
perfformiad cryf o 10.0% gan y Gronfa, sydd bellach yn y chwartel uchaf o’r
cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol CPLlL (cyf ystadegau swyddogol PIRC am 2021/22). a) Gweinyddiaeth Pensiynau: Yn ystod 2021/22 adroddwyd bod
defnydd y system ‘Fy
Mhensiwn Ar-lein’ yn cynyddu yn
flynyddol, gyda dros 16,000 wedi cofrestru hyd yma
ac oddeutu 500 o aelodau yn defnyddio’r safle pob mis. Anogwyd cyflogwyr i hyrwyddo’r safle
yn y gweithle i sicrhau bod staff yn cymryd mantais
o’r gwasanaethau a gynigir. Nodwyd bod cwmni meddalwedd yn y broses o greu fersiwn newydd o’r system hunan wasanaeth a bod bwriad o lansio’r
system yn ystod Gwanwyn 2023 ynghyd ag ymgyrch i gynyddu
aelodaeth y Gronfa. Eglurwyd bod yr Uned Weinyddu hefyd yn y broses o uwch-lwytho slipiau pensiwn y pensiynwyr i’r safle fydd yn
galluogi’r pensiynwyr i weld eu slipiau
pensiwn pob mis Adroddwyd ar ddefnydd system i-Connect
sydd yn diweddaru data tâl a chyfraniadau ar y system yn fisol. Ategwyd bod i-Connect yn darparu buddion sylweddol i aelodau CPLlL drwy gyflwyno data clir, cywir ac amserol a bod 100%
o gofnodion aelodau yn cael eu diweddaru trwy’r system bellach. Diolchwyd i’r
holl gyflogwyr am ddefnyddio’r system. Tynnwyd sylw at Arolwg Boddhad Aelodau sydd yn cael ei
anfon at aelodau’r Gronfa ar ddiwedd pob proses, e.e. ymddeoliadau a thalu ad-daliadau, i’r aelodau
roi eu barn ar ansawdd y gwasanaeth a dderbyniwyd ac am y gwasanaeth a
ddarperir gan staff yr adran. Adroddwyd bod dros 96% o aelodau unai yn cytuno’n gryf neu’n cytuno bod
ansawdd y gwasanaeth o safon uchel, a bod 98.12% o’r defnyddwyr yn cytuno’n
gryf neu’n cytuno bod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gan y staff o safon
uchel. Er mwyn cyflawni’r sgoriau uchel hyn, nodwyd bod cydweithrediad y
cyflogwyr yn hanfodol, a diolchwyd i’r cyflogwyr am eu parodrwydd i ddarparu’r
wybodaeth yn brydlon. b) Perfformiad
Buddsoddi Bod Gwerth Marchnad y Gronfa yn £1.9 Biliwn yn
2020 (ar
ôl cwymp Covid Mawrth 2020). Erbyn diwedd Mawrth
2021, roedd Gwerth Marchnad y Gronfa yn
£2.5 Biliwn (gyda’r farchnad stoc wedi atgyfodi i’w lefel cyn Covid erbyn diwedd Mai 2021). £2.775 Biliwn ar 31 Mawrth 2022)
ond £2.628 Biliwn ar 30 Medi 2022 wedi 6 mis caled i’r farchnad stoc gyda’r dirwasgiad byd-eang Wrth amlygu perfformiad y Gronfa yn erbyn y meincnod, nodwyd er bod methiant i guro’r meincnod yn siom, roedd hyn o ganlyniad i gael portffolio byd-eang gyda dibyniaeth mewn marchnadoedd datblygol (oedd yn cynnwys Rwsia a China), ac hefyd o’r penderfyniad i fuddsoddi mewn prosiectau sydd yn parchu’r amgylchedd yn hytrach na dal stociau ynni ... view the full COFNODION text for item 5. |