skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod yma

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Robin Williams (Cyngor Ynys Môn), Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) a Huw Trainor (Heddlu Gogledd Cymru)

 

 

 

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2019/20 pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn adroddiad blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20

 

Cofnod:

a)                             Nodyn gan y Cadeirydd – y Cynghorydd Peredur Jenkins

 

Croesawyd pawb i gyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn.

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd John Pughe Roberts am ei wasanaeth ffyddlon yn cadeirio’r Pwyllgor Pensiynau am y 2 flynedd diwethaf.  Nodwyd y byddai’r cyn-gadeirydd yn edrych yn ôl ar gyfnod datblygol a llewyrchus i’r Gronfa, pryd roedd yn chwarae rhan ddylanwadol ar ran Gwynedd fel aelod o Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

b)            Nodyn gan Gadeirydd y Bwrdd Pensiwn (2019/20)  - Mr Osian Richards

 

Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ynghyd a phrif swyddogaethau’r Bwrdd fel corff sydd yn monitro ac adolygu penderfyniadau’r Pwyllgor Pensiynau a gwaith yr Uned Weinyddu. Mynegodd bod perthynas dda rhwng y Bwrdd a bod y Bwrdd wedi cynorthwyo a chyfrannu at lwyddiant y Gronfa.

 

c)         Cyflwyniad y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am  2019/20

 

Mynegodd bod 2019/20 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn gyda’r Gronfa wedi llwyddo i gyflawni dychweliadau cadarnhaol, ond bod effaith covid-19 i’w weld ar werth y Gronfa ar ddiwedd Mawrth 2020. Adroddwyd mai gwerth y Gronfa 31/03/2020 oedd £1,938.3 miliwn   o gymharu â gwerth 31/03/2019 o £2,081.3 miliwn. Er hynny, braf oedd adrodd bod y  gwerthoedd, ers diwedd y flwyddyn ariannol,  wedi bownsio nôl, gyda gwerthoedd ecwiti byd eang yn parhau i gynyddu. Adroddwyd bod gwerth y Gronfa ar 30/06/20 yn £2,162.1 miliwn ac erbyn 30/09/20 yn £2,217.7 miliwn.

 

Cyhoeddodd cwmni Pfizer frechlyn a oedd yn 90% effeithiol ar y 9fed o Dachwedd  ac mewn ymateb gwelwyd y marchnadoedd gynnydd o tua 7%. Amlygwyd mai dyma’r wythnos gryfaf ers Ebrill 2020, ond gyda chwymp cymharol ar y Dydd Gwener canlynol wrth i fuddsoddwyr ystyried y byddai’n cymryd peth amser i’r brechlyn cael ei ddosbarthu ac i’r economi adfer yn llwyr. Ategwyd bod y Gronfa o ran perfformiad yn gwneud yn dda iawn a hynny oherwydd penderfyniadau doeth y Pwyllgor a’r Rheolwyr Buddsoddi sydd yn gweithio ar ein rhan.

 

Yng nghyd-destun Partneriaeth Pensiwn Gwynedd adroddwyd bod y cydweithio yn mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2017 gyda swyddogion yn cwrdd yn aml. Ers y cyfnod clo, adroddwyd bod holl ddigwyddiadau’r bartneriaeth wedi bod yn rhithiol ond y gwaith wedi parhau gyda chronfeydd newydd wedi ei lansio, a nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle. Atgoffwyd yr aelodau o’r holl Reolwyr sydd yn cefnogi’r Gronfa ynghyd a’r buddion sydd wedi eu hennill o fod wedi ymuno, sydd yn cynnwys ehangu ein cyfleodd buddsoddi drwy ehangu’r nifer o reolwyr buddsoddi sydd yn ein portffolio, a lleihad mewn ffioedd. Adroddwyd, yn ystod Gorffennaf a Hydref 2020 crëwyd pum cronfa Incwm Sefydlog gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi mewn dau ohonynt: Cronfa Multi Asset Credit (trosglwyddwyd £166 miliwn yng Ngorffennaf 2020) a’r Gronfa Absolute Return Bond (trosglwyddwyd £291 miliwn yn Hydref 2020). Cadarnhawyd mai'r trosglwyddiad nesaf a fydd yn digwydd bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.