Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Anest Gray
Frazer (Eglwys yng Nghymru), Dilwyn Elis Hughes (UCAC) a Dylan Huw Jones
(NASUWT). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2020 fel rhai cywir
(ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Hydref, 2020 fel rhai cywir. |
|
TWF ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y pwyllgor craffu o’r
farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r
trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb
Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor /
Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais yn nodi y paratowyd pecyn o’r dogfennau oedd eu
hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Nodwyd y bwriedid cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar 24 Tachwedd, 2020,
ac yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno
i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, 2020, yn argymell bod y Cyngor:- ·
Yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
fel y ddogfen sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. ·
Yn cymeradwyo ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu
2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r trefniadau ar gyfer Craffu “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3”
ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig
Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. ·
Awdurdodi'r Corff Atebol, Cyngor Gwynedd, i
lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid. ·
Argymell cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i
gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian
negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebol
sydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym
mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad). ·
Bod yr Arweinydd, mewn ymgynghoriad â'r Prif
Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod
dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel
sydd angen i gwblhau'r cytundeb. Cyn argymell i’r Cyngor wneud y penderfyniadau hyn,
roedd yn ofynnol i’r pwyllgor craffu ystyried os oedd y Cynllun Busnes, Cytundeb
Llywodraethu 2, y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel
sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd. Croesawodd y Cadeirydd yr Arweinydd, yn
rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, y Cyfarwyddwr
Portffolio a’r swyddogion eraill i’r cyfarfod, gan bwysleisio bod yr adroddiad
yn benllanw gwaith nifer o flynyddoedd o ddatblygu’r cynllun. Yna gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais i
osod y cyd-destun a rhoi diweddariad bras o’r sefyllfa. Gofynnwyd iddo hefyd wneud sylw ynglŷn â
Wylfa B a Brexit yn ystod ei gyflwyniad. Yn ystod ei gyflwyniad, nododd Cadeirydd y
Bwrdd Uchelgais:- ·
Y
daeth y gwaith i benllanw gyda chwblhau’r holl waith manwl a dyrys o roi’r pecyn
at ei gilydd, yn y ffurf oedd yn ofynnol ar gyfer ei gyflwyno i’r ddwy
Lywodraeth, a’i gyflwyno a’i fabwysiadu gan y Bwrdd ar 23 Hydref, 2020. ·
Bod
hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol gan y Swyddfa Portffolio, a sefydlwyd
ddechrau’r flwyddyn dan arweiniad y Cyfarwyddwr Portffolio, ac oedd yn cynnwys
tîm o swyddogion hynod o alluog a brwdfrydig, oedd yn gosod sylfaen gadarn iawn
i faterion datblygu’r economi yn y Gogledd. ·
Bod
y tîm yn cydweithio’n agos gyda thîm swyddogion datblygu’r economi Llywodraeth
Cymru, a chredid bod eraill yn edrych arnom yn y Gogledd fel esiampl o ymarfer
da. · Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, y bu’r Pennaeth Cyllid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |