Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Evans ac Elfed P.Roberts a Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Cai
Larsen fuddiant yn eitem 5 ar y rhaglen – Datblygu Fframwaith Adfywio ar gyfer Gwynedd,
oherwydd ei fod yn Gadeirydd Bwrdd Cwmni Dre, sef cwmni hyd braich a sefydlwyd
gan Gyngor Tref Caernarfon, ac sydd wedi delio gyda rhai o swyddogion Cyngor
Gwynedd yng nghyd-destun y Fframwaith Adfywio.
Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir. |
|
DATBLYGU FFRAMWAITH ADFYWIO AR GYFER GWYNEDD Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod, gyda chais am weld y cynlluniau gweithredu yn nes ymlaen yn y
flwyddyn. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu cyfeiriad y Fframwaith arfaethedig,
a’r camau sydd wedi’u gwneud yn ystod Cyfnod 1 (Gosod y Sylfeini). Rhannwyd cyflwyniad ar sgrin hefyd i
amlinellu prif agweddau’r adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Diolchwyd
i’r Gwasanaeth am eu holl waith, a nodwyd y cafwyd cychwyn cadarn a chalonogol
iawn i’r broses. ·
Cefnogwyd
cyfeiriad y gwaith a nodwyd bod y Gwasanaeth wedi adnabod nad yw pob ardal yr
un fath, a bod angen cynlluniau gwahanol sydd wedi’u teilwrio i anghenion
gwahanol yr ardaloedd hynny, a’u bod hefyd yn gweld y Cyngor yn bartner gyda’r
cymunedau lleol. ·
Croesawyd
y ffaith bod y Gwasanaeth yn gweld y broses fel un â pharhad iddi, yn hytrach
nag un digwyddiad. ·
Nodwyd
bod y datganiadau ardal yn glir, yn gryno ac yn addysgiadol, ac er yr amheuid
dilysrwydd rhai ffigurau, roeddent yn fan cychwyn deialog pellach. ·
Bod
rhaid sicrhau deialog gyson ac effeithiol rhwng y Cyngor a chymunedau a mentrau
cydweithredol gyda’r nod o adfywio’r bröydd. ·
Bod
peth pryder bod hwn eto’n un o’r adroddiadau hynny sydd ar y gweill am gyfnod,
ac yn hel llwch wedyn. ·
Y
croesaid y ffaith bod yna 48 o randdeiliaid yn Llŷn, ond awgrymwyd y
dylai’r Badau Achub gael eu cynnwys hefyd, gan eu bod yn weithgar iawn a
chanddynt gyfraniad a llais ynglŷn ag adfywio bro. ·
Nad
oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at ysgolion cynradd / uwchradd, a gwrando ar
lais yr ifanc. ·
Nad
oedd cyfeiriad at gyflogwyr mawr yn ardal Porthmadog / Penrhyndeudraeth, megis
Portmeirion a Rheilffordd Ffestiniog, na chyfeiriad chwaith at Safle
Treftadaeth y Byd Llechi Cymru, fydd hefyd yn gweithio i adfywio ein
hardaloedd. ·
Bod
y cynghorau cymuned a thref yn allweddol i’r drafodaeth, a bod angen i’r Cyngor
hwn gydweithio â hwy a pheidio meddwl ei fod yn uwch na hwy, a’u bod hefyd yn
medru codi arian i wario yn eu cymunedau eu hunain. ·
Bod
y defnydd o’r matrics RACI i’w groesawu, gan ei fod yn fodd o hwyluso
ymgynghoriad lle mae yna lawer o randdeiliaid, drwy adnabod y rhanddeiliaid
allweddol ar gyfer pobl agwedd. ·
Mai
un o fanteision y Fframwaith oedd bod modd i’r cymunedau gyfeirio at y
dystiolaeth i’w cynorthwyo i ddenu nawdd a grant. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Fel
rhan o’r trefniadau ar gyfer y gwaith ymgysylltu, byddai fersiynau papur o’r
holl ddeunydd ar gael mewn gwahanol swyddfeydd.
Roedd y gwasanaeth yn awyddus hefyd i weld cyswllt gyda’r llyfrgelloedd
o ran darpariaeth a chefnogi petai aelodau o’r cyhoedd yn awyddus i gyfrannu at
y gwaith, ond yn ansicr o’r trefniadau ar y platfform digidol. Byddai angen casglu data hefyd o ran manylion
yr unigolion a’r grwpiau sy’n cyflwyno sylwadau er mwyn gwneud asesiad effaith
cydraddoldeb ar y gwaith. · Y cytunid bod yr amserlen eithaf heriol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
AFLONYDDU MEWN YSGOLION Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a chroesawu’r gwaith, gyda chais am
ddiweddariad fel mae amser yn mynd heibio. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod. |
|
AFLONYDDU AR BENAETHIAID YSGOLION, ATHRAWON A STAFF YSGOLION TRWY GYFRYNGAU CYMDEITHASOL Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Cemlyn Williams Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn ymateb i gais gan aelodau’r pwyllgor am gyflwyniad ar aflonyddu ar athrawon
a staff ysgolion trwy gyfryngau cymdeithasol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd wedi’i
wneud a’i gyflawni gan yr Adran Addysg er mwyn bod o gymorth i ysgolion ddelio
â sefyllfaoedd ble mae hynny’n digwydd. Nododd y Pennaeth Addysg, ers paratoi’r
adroddiad, bod y Grŵp Strategol Penaethiaid Uwchradd wedi trafod y
sefyllfa ymhellach yn eu cyfarfod ar 2 Chwefror, a’i bod yn amlwg bod y sylw a
roddwyd i’r mater wedi gweithio, gan fod y sefyllfa wedi tawelu a neb wedi
adrodd achos o aflonyddu ers i’r llythyr i rieni / gofalwyr gael ei anfon. Byddai’r Adran yn parhau i fonitro a chefnogi
petai achos yn dod i’w sylw. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Diolchwyd
i’r Pennaeth Addysg am y llythyr i’r rhieni / gofalwyr, a nodwyd ei fod yn fyr,
yn hollol glir ac yn creu naws briodol.
Croesawyd y cyfeiriad at ‘rai’ disgyblion a ‘rhai’ achosion, a’r anogaeth
gref i rieni wirio ffonau symudol eu plant. ·
Nodwyd
ei bod yn bechod bod adroddiad o’r fath yn gorfod cael ei baratoi o gwbl, ac
awgrymwyd bod y defnydd o ffonau symudol yn gwaethygu problem sy’n bodoli’n
barod. ·
Mynegwyd
pryder y gallai ysgolion golli staff o ganlyniad i ddigwyddiadau fel hyn, ac er
bod yna reolau mewn ysgolion o ran defnyddio ffonau, ayb, roedd yna garfan
fechan sy’n gwrando ar ddim, a’u rhieni ddim yn poeni am hynny chwaith. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Bod
gan yr Adran bolisïau o ran y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, a bod yr
ysgolion yn debygol o edrych ar hynny eto yn sgil y digwyddiadau hyn. Nodwyd bod disgyblion yn ddibynnol iawn ar
ffonau symudol y dyddiau hyn, ac yn hytrach na’u gwahardd, anogid defnydd
priodol, aeddfed a chyfrifol ohonynt. Ni
ddymunid cosbi pawb oherwydd ymddygiad lleiafrif bychan iawn, ond cadarnhawyd
bod yr ysgolion yn atal unrhyw ddefnydd amhriodol o’r ffonau. ·
Ei
bod yn gynamserol ar hyn o bryd i wneud sylw ynglŷn ag adroddiad diweddar
yn y wasg ynglŷn ag achos o aflonyddu yn un o ysgolion y sir, ac y byddai
yna ddiweddariad maes o law yn sgil edrych ar y sefyllfa yn gyffredinol ac
adolygu’r trefniadau. |
|
AFLONYDDU'N RHYWIOL MEWN YSGOLION Aelod Cabinet – Y
Cynghorydd Cemlyn Williams Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg, ar gais y pwyllgor, yn sgil cyhoeddi adroddiad gan Estyn ym mis Rhagfyr
2021, “Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein
hathrawon”, oedd yn ymateb i wybodaeth a ddaeth i’r amlwg yn 2021 pan
welwyd gwybodaeth am aflonyddu rhywiol ar ddisgyblion ar y wefan “Everybody’s Invited.” Roedd y Pennaeth Addysg wedi gobeithio rhannu
cyflwyniad ar sgrin hefyd i amlinellu prif agweddau adroddiad Estyn, ond
oherwydd problemau technegol, bu’n rhaid cyflwyno’r wybodaeth ar lafar yn unig,
a chytunwyd i anfon y sleidiau at yr aelodau yn dilyn y cyfarfod. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd
bod adroddiad Estyn yn nodi bod staff ysgolion yn gweithio’n galed i ymateb i’r
materion hyn, ond dywed staff hefyd eu bod angen llawer mwy o adnoddau,
hyfforddiant, cymorth ac amser. ·
Pwysleisiwyd
ei bod yn hollbwysig bod y mater hwn yn flaenoriaeth i ysgolion ar draws
Gwynedd, a gan y Llywodraeth hefyd, a bod rhaid i addysgu am hyn fod yn rhan
o’r cwricwlwm hefyd. ·
Croesawyd
y ffaith bod addysg rhyw ac addysg perthynas yn rhywbeth sy’n cael sylw
bellach, a phwysleisiwyd ei bod yn bwysig bod cefnogaeth ar gael i’r staff ar
sut i ddelio â materion o’r fath. ·
Nodwyd
bod angen bod yn greadigol o ran sut orau i ddarparu’r adnoddau, o ystyried bod
amser staff ac athrawon yn brin. Roedd
modd gwneud hyfforddiant ar lein, ac efallai y dylid cael pencampwr ar draws
ysgolion sy’n datblygu rhywfaint o arbenigedd, ac yn gallu cynghori yn ôl yr
angen. ·
Awgrymwyd
bod disgwyliad i athro / ysgol fod yn bopeth i bawb bellach, yn hytrach nag yn
darparu addysg yn unig. ·
Nodwyd
ei bod yn glir o’r adroddiad bod yr Adran yn cydnabod maint a difrifoldeb y
broblem ac yn bwriadu gweithredu. ·
Gan
fod y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yn raddol, gan ddechrau o Flwyddyn 7
i fyny, bod rhaid gweithredu ar unwaith drwy’r ysgol gyfan, yn hytrach na
disgwyl i newidiadau’r cwricwlwm ddwyn ffrwyth. ·
Gofynnwyd
i’r Aelod Cabinet drosglwyddo neges i athrawon a holl staff yr ysgolion yn mynegi
gwerthfawrogiad y pwyllgor hwn o’u gwaith arwrol yn sgil, nid yn unig y pandemig, ond hefyd y golled adnoddau dros y degawd
diwethaf. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Bod
yr ehangu ar y gwaith lles sy’n digwydd ar hyn o bryd yr union beth sydd angen
digwydd er mwyn hyrwyddo perthnasedd iach, a bod y Cynllun Ysgolion Iach yn
gynllun ardderchog i fod yn gwneud hynny. ·
Bod
proffil arolygiadau ysgolion yn dangos bod ‘lles’ wedi bod yn dda neu’n
rhagorol yn mhob arolwg ar draws y sector ysgolion. Gan hynny, credid bod ein proffil yng
Ngwynedd o ran rhoi bri a’r pwyslais priodol ar les, gan gynnwys y maes yma, yn
briodol. · Y byddai angen adnoddau ar gyfer rhyddhau staff i gyflawni’r hyfforddiant. Roedd hyn oll ar waith ac yn cael ei gymryd o ddifri’ gan staff yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6b |
|
HYGYRCHEDD YSGOLION Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Cemlyn Williams Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn nodi’r sefyllfa bresennol o ran hygyrchedd ysgolion, gan amlinellu sut y bu
cyrraedd at y sefyllfa hon, gan edrych hefyd ar y ffordd ymlaen. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Awgrymwyd
y byddai rhieni’n dewis anfon eu plentyn anabl i’r ysgol gymunedol leol, yn
hytrach nag i’r ysgol ddynodedig, os o gwbl yn bosib’, ac felly croesawyd y
cynnydd oedd wedi digwydd yn y maes ers 2017. ·
Nodwyd
bod yr adroddiad yn cyfeirio at rampiau a lifftiau, ond bod anabledd yn faes
amrywiol iawn, a holwyd beth oedd darpariaeth y Cyngor o ran anableddau neu
gyflyrau gwahanol megis awtistiaeth, anabledd dysgu, nam synhwyrol ayb. ·
Croesawyd
y defnydd o liwiau cyferbyniol ar y grisiau yn Ysgol Botwnnog. ·
Nodwyd
y dymunid cael sicrwydd, cyn anfon plentyn i ysgol ddynodedig, bod pob carreg
yn cael ei throi i weld a yw’n fforddiadwy i ganiatáu i’r plentyn gael yr
addysg ar ei stepen drws ei hun. ·
Bod
yr addasiadau hygyrchedd yn cael dylanwad positif ar yr ysgol gyfan, ac nid yn
unig ar y plant hynny sydd ag anghenion dysgu neu anabledd. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Mai’r
maen tramgwydd mewn llawer o ysgolion oedd y gwaith ffisegol drud, a bod rhai
pethau fwy o fewn cyrraedd yr addasiadau rhesymol y byddai disgwyl i ysgolion
eu gwneud. ·
Bod
yna addasiadau heblaw’r rhai ffisegol a nodwyd yn yr
adroddiad sy’n rhan o’r strategaeth hygyrchedd, e.e. y cydweithio rhwng rhieni
a disgyblion ac ysgolion o ran gwneud addasiadau i’r cwricwlwm / amserlen, a
newid defnydd ystafelloedd fel bod cwricwlwm mor llawn â phosib’ ar gael i bob
disgybl. ·
O
ran penderfynu ar y math o addasiadau ffisegol sydd eu hangen, y gofynnid i’r
swyddogion Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a CH) edrych ar
sefyllfa ac anghenion disgyblion unigol, a chyflwyno argymhellion ar sail
hynny. ·
Nad
oedd gan yr Adran yr hawl i gyfeirio unrhyw blentyn i ysgol ddynodedig, ac
roedd yn ddewis agored i rieni i ba ysgol y dymunent yrru eu plant. Roedd y mwyafrif llethol yn dewis gyrru eu
plant i’w hysgol leol, a gellid edrych ar ddarparu mwy o wybodaeth i rieni o
ran beth yw’r cyfleusterau sydd ar gael mewn gwahanol ysgolion. ·
Bod
rhieni’n rhan o’r sgwrs ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud addasiadau mewn
ysgol gyffredin. Roedd y Tîm ADY a CH yn
ymwneud â disgyblion cyn oedran ysgol, ac yn gwybod am ddisgyblion sydd am
symud i mewn, ac roedd sgyrsiau’n digwydd rhwng rhieni a’r gwasanaethau
canolog. Gan hynny, roedd dewis rhydd i
rieni, ond gorau oll bod y dewis hwnnw’n seiliedig ar wybodaeth ynglŷn â
beth yw natur yr ysgol(ion) y mae ganddynt ddiddordeb
mewn anfon eu plant iddynt. · Ei bod yn hawdd anghofio effaith bositif y newidiadau ar yr ysgol gyfan, a’i bod yn bwysig bod plant, waeth beth yw eu hanghenion, yn gallu dod i’r ysgol heb deimlo’n wahanol i’w ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 Cyflwyno rhaglen
waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021-22. Cofnod: Eglurodd y Cadeirydd nad oedd yna newidiadau i’r
rhaglen waith ar hyn o bryd, ac felly nad oedd angen trafodaeth, na phleidlais
ar y mater. |