Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cyng. Rhys Tudur gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026 / 2027. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bu i’r Cyng. Geraint Wyn Parry gael ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy'n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid Ilofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o'r pwyllgor a gynhaliwyd ar 19/01/26 a 12/02/26 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
POLISI CANU’R GLOCH AELODAU I ystyried polisi a gweithdrefn canu’r gloch i aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: • Bod y Pwyllgor yn datgan cefnogaeth i’r polisi gan ofyn i’r Swyddog Monitro wneud newidiadau yn unol â’i ymateb i sylwadau’r aelodau. |
|
|
POLISI CLUDIANT ADDYSG I gyflwyno drafft o Bolisi Cludiant Addysg yn dilyn cynnal
cyfnod ymgynghori ar gynigion i ddiwygio cynnwys y polisi presennol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. 2. Gofyn i’r Cabinet roi sylw penodol i’r
Cynllun Seddi Gweigion wrth ddod i benderfyniad. 3. Argymell i’r Aelod Cabinet Addysg:- • Dylid ystyried addasu’r Polisi
Cludiant Addysg Drafft i ddynodi plwyfi yn hytrach na phellter o ran cludiant i
ysgolion ffydd. • Edrych ar leihau’r nifer o ffurflenni sydd angen i rieni disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu llenwi. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. 2. Gofyn i’r Pennaeth Addysg rannu data
cymharol cenedlaethol o ran dadgofrestru gydag aelodau’r Pwyllgor ynghyd ag
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Ieuenctid. 3. Bod angen edrych ar gynnwys gwybodaeth
a data o ran cyrhaeddiad disgyblion yn yr adroddiad perfformiad i’r dyfodol. 4. Bod y Pwyllgor yn craffu’r sefyllfa o ran dadgofrestru ac Addysg Ddewisol Gartref fel rhan o’i raglen waith pan yn amserol. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau. 2. Gofyn i’r Adran Economi a Chymuned rannu data niferoedd sy’n defnyddio safleoedd Arosfan a gwybodaeth materion gorfodaeth gydag aelodau’r Pwyllgor. |
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GWASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL Er mwyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar faterion perfformiad o fewn yr Adran. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Derbyn yr adroddiadau gan nodi’r sylwadau. |