skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Apologies: Councillors Menna Baines, Aled Evans, Keith Jones, Craig ab Iago (Cabinet Member - Housing, Leisure and Culture) and Ioan Thomas (Cabinet Member - Economy).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

6.

MONITRO PERFFORMIAD

I wahodd aelodau i fynegi diddordeb mewn mynychu cyfarfodydd monitro perfformiad.

Cofnod:

Gwahoddwyd aelodau i fynegi diddordeb mewn mynychu cyfarfodydd monitro perfformiad am y flwyddyn 2017/18.  Eglurwyd bod 4 maes gwaith penodol i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, bod angen dau aelod ar bob grðp ac y disgwylid i’r cynrychiolwyr fynychu cyfres o chwe cyfarfod dros gyfnod o ddwy flynedd.

 

Rhoddodd y canlynol eu henwau ymlaen ar gyfer y gwahanol grwpiau a nodwyd y byddai’r Cadeirydd yn dewis yr enwebiadau terfynol.

 

·         Grðp Cymunedau Iach (Y Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Judith Humphreys)

·         Grðp Datblygu Economi Gwynedd (Y Cynghorwyr Elwyn Jones, H.G.Wyn Jones a Paul Rowlinson)

·         Grðp Cefnogi Cymunedau Cryf (Y Cynghorydd Elwyn Jones)

·         Cyfarfod Herio Perfformiad Addysg (Y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Selwyn Griffiths (ond yn methu bod yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y grðp ar 11 Gorffennaf), Cai Larsen, Dewi Owen, Jason Parry, Paul Rowlinson a Gareth Williams)