skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Williams  01286 672729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwr Keith Jones, Dilwyn Ellis Hughes (UCAC), David Healy (Undebau Athrawon), Karen Vaughan Jones (Cynrychiolaeth Rhieni - Llywodraethwr Ardal Dwyfor).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 166 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017, fel rhai cywir

 

(Copi’n amgaedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd y cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2017, fel rhai cywir.

 

5.

DARPARU CYFLEUSTERAU HAMDDEN - SEFYDLU CWMNI WEDI EI REOLI GAN Y CYNGOR pdf eicon PDF 494 KB

I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai, Hamdden a Diwylliant.

 

Mae’r atodiadau ar wahan ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig.

 

Mae’r eitemau yn eithredig o dan Paragraffau 14 ac 16 o Atodiad 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (gwybodaeth yn ymwuneud a materion ariannol, busnes  a chyfreithiol).

 

Mae’r adroddiad blaen yn agored ond mae’r atodiadau yn cynnwys gwybodaeth masnachol a chyfreithiol sensitif. Hynny oherwydd y byddai rhyddhau yr atodiadau yn llawn yn caniatáu i gyflenwyr annibynnol o’r Cyngor ddod i gasgliadau ynglŷn â pherfformiad ariannol ynghyd â ffioedd rheoli y gwahanol fodelau darparu. Yn sgil hynny, gall rhyddhau danseilio unrhyw drefniadau caffael i’r dyfodol fyddai’n gadael y Cyngor yn agored i risg ariannol o safbwynt rheoliadau caffael .Mae hefyd yn cynnwys cyngor cyfreithiol fyddai yn ddarostyngedig i fraint cyfreithiol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Uwch Reolwr Cefnogaeth Gorfforaethol yn amlinellu’r sail dros argymell sefydlu Cwmni sydd wedi ei reoli gan y Cyngor i ddarparu cyfleusterau hamdden o fewn y sir. Ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

 

§ Cholli rheolaeth ddemocrataidd drwy’r sefydlu’r cwmni newydd.

§ Gwersi a ddysgwyd o gynghorau eraill sydd wedi mabwysiadu model tebyg.

§ Pwysigrwydd ystyried y risg o wrthdaro gan y bydd y cyfarwyddwr yn ymatebol i ddeddf y Cwmni ac i Gyngor Gwynedd.

§ Pryder ynglŷn â statws y Gymraeg mewn canolfannau hamdden a phwysigrwydd rôl y Cyngor i ddiogelu’r iaith rhag dirywiad pellach.

§ Bwriad y Cwmni i gefnogi canolfannau sydd yn fethiant ariannol.

§ Trefniant rheoli adeiladau. 

§ Arbedion staff.

§ Hawl y Cyngor i benodi aelodau i Fwrdd Rheoli’r Cwmni.

§ Sicrhau bod y Cwmni ddim yn mynd lawr yr un trywydd a CCG, lle nad oedd yr iaith Gymraeg yn hanfodol i swydd y cyfarwyddwr.

§ Pwysigrwydd penodi arweinydd ddeinameg, rhagweithiol gyda gweledigaeth ddatblygiadol gref.

§ Sicrhau gweledigaeth arloesol i ddatblygu’r gwasanaeth.

§ Ymrwymiad y cwmni i weithio tuag at amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Crynhodd y Cadeirydd y prif gasgliadau’r drafodaeth a nodwyd:-

 

§ Y dylid argymell opsiwn chwech, sef sefydlu cwmni wedi ei reoli gan y Cyngor.

§ Bod angen i Aelodau’r Pwyllgor graffu ymhellach wrth i’r gwaith datblygu manylion y cwmni ddod i law. 

 

PENDERFYNWYD: Argymell opsiwn chwech.

 

6.

CANLYNIADAU'R HAF 2017 pdf eicon PDF 556 KB

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Aelod Cabinet Addysg a Phennaeth Addysg yn cyflwyno gwybodaeth gynnar i aelodau etholedig ar berfformiad diwedd cyfnodau allweddol y flwyddyn addysgol 2016/17. Ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

 

§ Pryder bod asesu’r Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhoi’r Cyngor o dan anfantais.

§ Mesurydd Prydau Ysgol Ddi-dâl yn gamarweiniol ac yn awgrymu bod Gwynedd yn un o’r siroedd cyfoethocaf yn genedlaethol pan mae rhai ardaloedd o fewn y sir wedi derbyn mynediad i gronfeydd strwythurol Ewrop oherwydd eu tlodi.

§ Awgrym i wahaniaethu rhwng perfformiad plant o gartrefi Cymraeg a pherfformiad plant o gartrefi di-gymraeg er mwyn gallu cymharu gyda siroedd eraill.

§ Mynegwyd siom bod llenyddiaeth ddim yn bwnc sy’n cael ei gynnwys fel rhan o’r prif fesurydd CA4.

§ Pontio’r berthynas ‘hyd fraich’ sydd yn bodoli rhwng penaethiaid ysgolion ac ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen i waredu’r ddau ddiwylliant o ddysgu mewn ysgolion.

§ Ymyrraeth GwE yn CA3.

§ Yr effaith mae sefyll arholiadau yn gynharach yn gael ar ganlyniadau CA4.

 

Yn ystod trafodaeth ynglŷn â’r ffactorau sy’n cyfrannu at ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen, nododd Cynrychiolydd Cyfnod Cynradd Gwe'r pwyntiau canlynol:

 

§ Mae problemau ynglŷn ag asesiadau athrawon ac mae GwE wedi gweithio gyda phenaethiaid i osod allan safonau disgyblion, safonau’r ddarpariaeth a’r disgwyliadau o safbwynt y penaethiaid a’r uwch dimau rheoli addysg.

§ Mae cael cysondeb ynglŷn â diffiniad ‘ffit orau’ wrth roi unrhyw fath o asesiad i blentyn yn anodd iawn. Nodwyd bod y chwe Chyfarwyddwr Addysg Ranbarthol wedi cyd-weithio gyda GwE i gyhoeddi datganiad rhanbarthol, sy’n gosod allan bod unrhyw asesiad athro yn seiliedig ar farn broffesiynol athrawon, ac mae canllawiau clir yn esbonio sut i ddod i’r farn hwnnw.

§ Mae her ychwanegol yn y Cyfnod Sylfaen eleni. Bydd plant ar ddiwedd y cyfnod yn cael eu hasesu yn erbyn set o ddeilliannau diwygiedig newydd, ac mae elfennau mwy heriol ynddynt na’r llynedd. O ganlyniad i’r newid yma, mae GwE yn rhedeg rhaglen hyfforddiant i athrawon er mwyn i ysgolion gwrdd â’r anghenion a’r disgwyliadau ychwanegol.

 

Yn ystod trafodaeth ynglŷn â chanlyniadau Cyfnod Allweddol 4 nodwyd y canlynol:-

 

§ Mae cwymp wedi bod yng nghanlyniadau CA4 yng Ngwynedd, ac ar draws Cymru.  Pwysleisir bod y manylebau wedi newid yn sylweddol eleni, yn enwedig yn y prif fesurydd (TL2+), sef Mathemateg, Gwyddoniaeth, a Chymraeg (Iaith) neu Saesneg (Iaith). Y prif newidiadau yw bod Mathemateg wedi’i rannu i ddau, sef rhifedd a mathemateg, ac nid yw llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg yn cyfri i’r TL2+. Oherwydd y newidiadau hyn, does dim modd dwyn cymhariaeth rhwng canlyniadau CA4 eleni a chanlyniadau’r blynyddoedd blaenorol. Mae’n rhaid edrych felly ar safle Gwynedd yn y rhanbarth ac yn genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae Gwynedd yn y safle cyntaf yn rhanbarthol ac yn bumed yn genedlaethol.

 

Penderfynwyd:

§ Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

§ Y Pwyllgor i adolygu’r gwaith sydd ar y gweill yn y Cyfnod Sylfaen i sicrhau eu bod yn dod i wraidd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH IAITH UWCHRADD pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 Cyflwynwyd adroddiad, ynghyd â fersiwn ddrafft o Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd, gan y Swyddog Addysg Ardal a oedd yn cyfarch nifer o gwestiynau a ddarparwyd gan aelodau’r pwyllgor o flaen llaw. Ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:-

 

§ Cyfle i’r Pwyllgor Iaith graffu’r strategaeth.

§ I ba raddau mae’r awdurdod yn gallu ymyrryd mewn ysgolion lle mae’r Gymraeg yn dirywio?

§ Cost canolfannau trochi iaith a phwy sydd yn talu amdanynt, yn gyd-destun Wylfa B.

§ Pwysigrwydd rôl ysgolion i drefnu ‘gigiau’ Cymraeg i hyrwyddo bywyd cymdeithasol yn y Gymraeg.

§ Pwysigrwydd rôl y Cynghorau Ysgol i alluogi disgyblion berchnogi’r strategaeth.

§ Sut mae’r Cyngor yn hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil gwaith?

§ Pwysigrwydd canolbwyntio ac annog pobl ifanc i gyfathrebu’n ddigidol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Penderfynwyd:

§ Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.