skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Evans, Huw Wyn Jones, Keith Jones, Elfed Roberts a Gareth Williams; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a Rita Price (Yr Eglwys Gatholig).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 242 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2018, fel rhai cywir.

 

5.

DEILLIANNAU CYFNOD SYLFAEN GWYNEDD pdf eicon PDF 448 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*10.10yb – 10.55yb

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn cyflwyno canlyniadau’r adroddiad a gomisiynwyd i’r Cyfnod Sylfaen. 

 

Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Er bod canfyddiad bod sgiliau cymdeithasol yn is mewn plant nag yn y gorffennol, bod perfformiad Gwynedd o ran y dangosydd personol a chymdeithasol yn uchel ac yn awgrymu nad yw’n gymaint o broblem â’r ffactor ieithyddol.

·         Bod y ffaith bod perfformiad plant Gwynedd o ran allbwn yn 3ydd drwy Gymru ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, gan gynnwys y maes iaith, yn awgrymu bod y gyfundrefn gynradd yn ei chyfanrwydd yn gwneud ei gwaith a bod plant yn gadael y gyfundrefn gynradd gyda’r sgiliau angenrheidiol i’w galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.

·         Dylid rhoi pwysau ar lywodraethwyr i wneud pob ymdrech i gyflogi siaradwyr Cymraeg ar gyfer pob swydd mewn ysgol, er y cydnabyddir bod hynny’n gallu bod yn her mewn rhai ardaloedd.

·         Bod yr adroddiad yn neidio o un peth i’r llall yn hytrach na chanolbwyntio ar y cyfnod sylfaen yn unig.

·         Bod sawl cyfeiriad yn yr adroddiad at wanychu’r Gymraeg, e.e. y sylw nad yw pob aelod o staff yn cadw at bolisi iaith yr ysgol bob amser a’u bod yn troi i’r Saesneg i siarad â disgyblion di-gymraeg.  Hefyd, mae awgrym yma y caniateir i blant ymateb i brofion drwy’r Saesneg pan mae’r sefyllfa’n codi, yn groes i’r polisi o ymateb i brofion drwy’r Gymraeg.  Rhaid cofio hefyd, wrth sôn am ddisgyblion ‘Saesneg fel iaith ychwanegol’, bod y Saesneg hefyd yn iaith ychwanegol i’r 64% o blant Gwynedd sy’n dod o aelwydydd Cymraeg.

·         Nad oes unrhyw reswm pam na all pob plentyn, ar wahân i newydd-ddyfodiaid, ddilyn eu holl gwrs ysgol drwy’r Gymraeg.

·         Bod y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hysgolion cynradd yn fater o bryder a rhaid mynd i’r afael â hyn ar fyrder neu mae perygl y bydd y niferoedd yn gostwng i’r fath raddau fel na ellir cyfiawnhau’r polisi o gwbl.

·         Mae cydnabyddiaeth bod yr addysg drochi yn y cyfnod sylfaen yn allweddol bwysig a bod y canolfannau iaith yn chwarae rôl hynod bwysig yn trochi disgyblion CA2.

·         Er y deellir nad oes yna lefydd gweigion wedi bod yn y canolfannau iaith hyd yma, pe cyfyd sefyllfa o’r fath yn y dyfodol, gellid ystyried y posibilrwydd o ymestyn y ddarpariaeth yn ehangach na blwyddyn 2 yn unig, ond gan gadw mewn cof mai ieuenga’n byd yw’r plant, lleiaf perthnasol yw’r cwrs ar eu cyfer.

·         Bod lle i gryfhau’r elfen pontio rhwng y cyfnod sylfaen a’r cylchoedd meithrin ym maes llafaredd.  Mae yna bobl arbennig o dda yn y cylchoedd meithrin yn hyrwyddo sgiliau caffael iaith a hefyd arbenigedd amlwg yn y cyfnod sylfaen all gynorthwyo’r cylchoedd meithrin hefyd fel bod gwaelodlin y plant yn gwella pan maent yn cyrraedd yr ysgol.

·         Na chredir bod gwerth mewn sefydlu canolfannau iaith penodol i ddysgu Saesneg i blant, gan nad ydi dysgu’r Saesneg yn broblem i neb oherwydd dylanwadau’r iaith honno ar blant o bob cyfeiriad.  I’r gwrthwyneb,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD pdf eicon PDF 1 MB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*10.55yb – 11.40yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn rhoi amlinelliad o’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad newydd a ddaeth i rym ym Medi 2017, gan fanylu ar brif lwyddiannau’r gwasanaeth a’r meysydd sydd angen eu datblygu ymhellach i sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i bartneriaeth Awdurdodau Addysg Cynghorau Gwynedd a Môn.

 

Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

 

·         Canmolwyd y rhaglen Rhwyd Arall sy’n cefnogi rhieni lle bo ansicrwydd neu ddiffyg dealltwriaeth o oblygiadau addysgu gartref a nodwyd bod unigolion sydd wedi bod allan o’r gyfundrefn addysg am flynyddoedd wedi symud yn ôl i addysg prif lif gyda mewnbwn y rhaglen yma a Comic Relief.  Datganodd y Cynghorydd Cemlyn Williams fuddiant personol gan ei fod yn gyfarwyddwr ar Gwmni Sylfaen oedd wedi bod â chysylltiad â’r rhaglen hon yn y gorffennol.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod.

·         Bod yr ysgolion yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd a’i bod yn bwysig bod yr athrawon / cymorthyddion yn derbyn yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt i symud hyn ymlaen.

·         Bod cefnogaeth y Bwrdd Iechyd yn greiddiol i lwyddiant y gwasanaeth hefyd.

·         Mynegwyd pryder bod gan y Gwasanaeth Cwnsela restr aros o bron i 100 ar hyn o bryd, ond croesawyd y cydweithio hefo CAMHS.  Nodwyd bod y gwaith hwn yn croesi maes sawl pwyllgor craffu a bod athroniaeth ataliol yn amlygu ei hun fwyfwy yn yr ysgolion hefyd.  Nodwyd yr angen i edrych ar y rhesymau dros y cynnydd mewn gorbryder ymhlith pobl ifanc.

·         Nad oes cyfeiriad yn yr adroddiad at blant abl a thalentog, sydd hefyd yn blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

·         Bod y gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi’n fawr yn y prif lif.

·         Bod y cynlluniau datblygu unigol yn ddogfennau maith sy’n creu baich gwaith ychwanegol i ysgolion.

 

Gofynnwyd i’r Swyddog Addysg Ardal roi ei argraffiadau o sut ‘roedd pethau wedi mynd hyd yma ac unrhyw broblemau a ragwelai ar y gorwel.  Nododd:-

 

·         Bod y newidiadau wedi bod yn sylweddol ac yn arwyddocaol, nid yn unig i gynnwys yr hyn a gynigir i ysgolion a’r ffordd o weithio gydag ysgolion, ond hefyd o ran y gweithio ar draws dwy sir.

·         Mai elfen bwysig o lwyddiant Gwedd 1 o’r adolygiad strategol oedd bod y broses drwyddi draw wedi bod yn adweithiol i unrhyw newid wrth i’r broses honno fynd rhagddi.  Gan hynny, ‘roedd yna bethau wedi newid yn barod i ymateb i sylwadau ysgolion ac i wneud y gwasanaeth hyd yn oed yn fwy llyfn. 

·         Gan fod y maes yn eang iawn a chwestiynau’n mynd i godi’n aml, y sefydlwyd y grŵp defnyddwyr fel bod y broses o wella’n mynd rhagddi’n barhaus.

·         Y byddai Gwedd 2 o’r adolygiad yn golygu mwy o newidiadau eto a byddai’r hyn a ddysgwyd o Wedd 1 yn cael ei ymgorffori yng Ngwedd 2 fel bod modd edrych ar hynny fel rhan o briff y camau nesaf.

·         Bod y cynllun o resymoli’r tîm, ayb, wedi cyfarch hanner yr arbedion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGWYDDORION ADDYSG ADDAS I BWRPAS pdf eicon PDF 513 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*11.40yb – 12.25yp

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn ceisio barn y pwyllgor craffu ar yr egwyddorion addysg arfaethedig fydd yn sail ar gyfer gwireddu gweledigaeth yr Adran Addysg a datblygu’r gyfundrefn er sicrhau addysg o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc Gwynedd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

 

Ar sail canlyniadau’r ymgynghoriad gyda’r Llywodraethwyr a’r ysgolion, a gweledigaeth yr Adran Addysg, gofynnwyd yn benodol am farn aelodau’r pwyllgor craffu ar yr egwyddorion canlynol, a ystyrir yn sail i gyfundrefn addysg Gwynedd i’r dyfodol:-

 

·         Cyfundrefn o ysgolion uwchradd hyfyw;

·         Dau ystod oedran o fewn yr un dosbarth yn y cynradd;

·         Oddeutu 80% o amser digyswllt i’r Pennaeth i ganolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth yn y cynradd.

 

Yn seiliedig ar yr wybodaeth oedd i law, amlygwyd y sylwadau a ganlyn yn ystod y drafodaeth:-

 

·         Rhaid bod yn glir ynglŷn â beth fydd effaith mabwysiadu’r egwyddorion hyn.

·         Mae’n debygol y bydd yna dorri athro neu oriau athro mewn rhai ysgolion a bydd hynny’n anodd iawn i bennaeth, yn enwedig os yw’n rheoli dwy neu dair ysgol.

·         Dechrau’r daith yw hyn ac mae tipyn mwy o waith a chraffu i’w wneud.

·         Mae’r diffyg ymgeiswyr ar gyfer swyddi drwy drwch yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn destun pryder. 

·         Mae’r gyfundrefn yn rhy dameidiog i fod yn denu’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion.  Er enghraifft, nid oes cyfle i benaethiaid adrannau yn yr ysgolion uwchradd lleiaf eu maint feithrin sgiliau i fod yn arweinwyr oherwydd, fel adrannau un person, nid oes ganddynt yr amser i arwain yr adran na neb yn yr adran i’w rheoli.  Hefyd, gan fod ysgolion cynradd yn aml yn rhy fach i gael dirprwy bennaeth, nid oes cyfle yno chwaith i bobl ddatblygu sgiliau arwain.

·         Mae’r gofynion sylweddol uwch sy’n cael eu gosod ar bobl o ran addysgu ac arwain yn golygu bod swyddi mewn ysgolion wedi mynd yn llawer llai atyniadol.

·         Gallai’r cwestiynu yn yr holiadur fod wedi bod yn fwy treiddgar, e.e. yn hytrach na gofyn yn unig am farn ar y datganiad “Mae’n bwysig rhoi digon o amser i Benaethiaid reoli ac arwain ...”, dylid hefyd bod wedi gofyn ydi’r ymatebwyr yn cytuno â’r datganiad er gwaethaf goblygiadau hynny.

·         O ran yr awgrym y dylai penaethiaid ysgolion uwchradd fod yng ngofal tua 900 o ddisgyblion, y dymunir gweld tystiolaeth gadarn i gefnogi hynny ar ffurf gwaith ymchwil yn y wlad yma ac ar draws Ewrop i’r maint o ysgol sy’n gweithio orau ac yn rhoi’r canlyniadau gorau i blant.

·         Er y croesawir y bwriad i uno rhai ysgolion bychain i’w gwneud yn fwy hyfyw, nad yw hynny’n ymarferol bosib’ yn y Wynedd sydd ohoni ac y byddai’r pennaeth yn treulio cyfran helaeth o’i amser yn teithio rhwng y naill safle a’r llall.

·         Bod polisi recriwtio’r colegau, sy’n mynnu bod rhaid i’r sawl sy’n dymuno dilyn cwrs ymarfer dysgu feddu ar radd 2:1, yn golygu bod pobl ifanc yn mynd dros y ffin i Loegr i hyfforddi fel athrawon a bod hynny, yn ei dro, yn arwain  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.