Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Media
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol
Cadeirydd ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Evans, Keith Jones, Mair
Rowlands a Cemlyn Williams; Anest Gray Frazer (yr
Eglwys yng Nghymru) a David Healey (Undebau
Athrawon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018, fel rhai cywir. |
|
CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 93 KB Ystyried
adroddiad yr Arweinydd (ynghlwm). *10.10yb
– 10.55yb *amcangyfrif
o’r amser (Dilynir y
cyfarfod gan weithdy aelodau am 11.00yb i flaenoriaethu eitemau ac adnabod
rhaglen waith y pwyllgor am 2018/19.) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor yn
cyflwyno diweddariad ar y Cynllun Twf i Ogledd Cymru, ynghyd â gwybodaeth am y
trefniadau llywodraethu arfaethedig. Gwahoddwyd sylwadau a barn y pwyllgor ar y
Cytundeb Llywodraethu. Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ‘Roedd aelodau’r pwyllgor yn ddiolchgar o dderbyn diweddariad gan yr Arweinydd
i’r trefniadau TwF Economaidd Gogledd Cymru. Mae aelodau’r pwyllgor wedi dangos
cefnogaeth i gyfeiriad y cynllun o’r dechrau, ac yn parhau i
fod yn gefnogol. Mae’r prif negeseuon heddiw fodd bynnag,
yn canolbwyntio fwy ar y risgiau
sydd angen eu hystyried wrth
i’r cynllun ddatblygu. RISGIAU ARIANNOL Yn sgil yr adroddiad
a’r trafodaethau heddiw, bu i’r
aelodau adnabod fod potensial o risgiau a goblygiadau ariannol i’r Cyngor
yn sgil y cynllun. Mae angen sicrwydd:- ·
Fod y buddion o’r cynllun
yn gorbwyso y risgiau ariannol. ·
Fod holl aelodau Gwynedd yn fodlon fod
pob cam posib yn cael ei
gymeryd i leihau’r risgiau ariannol. ·
Fod y cynllun busnes a’r cynlluniau prosiect yn wydn,
ac yn cael eu rheoli yn
gadarn – hynny er mwyn lleihau’r
risgiau fod partneriaid yn tynnu allan o brosiectau
a’r risg ariannol wedyn yn disgyn i’r
awdurdod. ·
Fod
angen i’r aelodau fod yn gallu craffu'r cynlluniau yn aml i sicrhau fod risgiau
busnes (ariannol a chyflawni) yn cael eu rheoli. RISGIAU LLYWODRAETHU Eto, yn deillio o’r
wybodaeth i law a’r trafodaethau heddiw, nodwyd y negeseuon a’r risgiau
isod ynghylch y trefniadau llywodraethu arfaethedig:- ·
Mae
cefnogaeth i graffu'r
cynllun TwF fesul awdurdod. ·
Nodwyd pryder am ddirprwyo hawliau i’r Arweinydd,
gan dderbyn ar yr un pryd
ei fod yn
angenrheidiol. Fodd bynnag, rhaid sicrhau
fod yr Arweinydd
yn bwydo gwybodaeth yn gyson
i Aelodau Gwynedd ac yn atebol i’r aelodau
am gyfeiriad y cynllun, cynnydd ar brosiectau
ac am risgiau’n cael eu rheoli. RISGIAU ERAILL Nodwyd hefyd rhai risgiau
eraill y dylid eu hystyried:- ·
Risgiau gwleidyddol, megis newid cyfeiriad o du Llywodraeth Cymru, a’i bod yn hanfodol
bod yn effro i hyn. ·
Parhau i nodi’r risg
gwleidyddol o gydweithio ar draws awdurdodau Gogledd Cymru. Fodd bynnag, yn allweddol,
nodwyd mai un o’r prif risgiau
fyddai peidio gweithio’n Rhanbarthol. Trwy gyd-weithio’n Rhanbarthol gall Cyngor Gwynedd sicrhau llais cryf i
fynnu fod materion a datblygiadau yn dod yn
sgil y cynllun i Wynedd gyfan. Nodwyd hefyd gais i
roi sylw i ystyried y buddion
a’r goblygiadau o Wynedd yn awdurdod
lletyol ar gyfer y Cynllun. |