skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Menna Baines, Aled Evans, Judith Humphreys, Huw Wyn Jones, Mair Rowlands a Cemlyn Williams; Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a Rita Price (Yr Eglwys Gatholig).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 79 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2018 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2018, fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHGAREDD CYNGOR GWYNEDD YNG NGHYSWLLT BREXIT pdf eicon PDF 44 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet Datblygu’r Economi (ynghlwm). 

 

*10.35yb – 11.35yb

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Arweinydd (yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod Arweiniol Brexit) a’r Aelod Cabinet dros Ddatblygu’r Economi yn amlinellu gweithgareddau’r Cyngor mewn ymateb i benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit).

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd, y Pennaeth a’r Rheolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y sylwadau a gyflwynwyd yn adlewyrchu ei bod yn gyfnod dyrys o ansicrwydd a bod y sefyllfa’n un anodd iawn, a hynny yn bennaf oherwydd diffyg gwybodaeth.

·         Bod pryder wedi’i fynegi bod yr amserlen yn byrhau, ond bod yna ymdeimlad o fethu paratoi oherwydd y diffyg gwybodaeth.

·         Bod aelodau’r pwyllgor yn ddiolchgar o’r cadarnhad o sefyllfa’r prosiectau arian Ewropeaidd cyfredol.

·         Bod angen sicrhau bod Gwynedd yn parhau yn rhan o’r trafodaethau rhanbarthol er mwyn gallu paratoi ar gyfer derbyn unrhyw arian, os bydd arian yn dod, boed hynny drwy ba ffynhonnell bynnag.

·         Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r pwyllgor unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael, yn arbennig o ran yr arian i fusnesau bychain a sut mae’r Cyngor yn gallu cynorthwyo’r busnesau hynny i gael gafael ar yr arian.

·         Gwahodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi cyflwyniad i’r pwyllgor, neu holl aelodau’r Cyngor, ar natur eu mewnbwn i’r trafodaethau.

 

6.

ADRODDIAD AR GANLYNIADAU'R HAF 2018 pdf eicon PDF 110 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg  (ynghlwm).

 

*11-35yb – 12.35yp

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar ganlyniadau drafft haf 2018.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth a chynrychiolwyr GwE ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod prif bwyslais y drafodaeth wedi bod ar y gostyngiad sylweddol yng nghanlyniadau Saesneg, Cyfnod Allweddol 4 (TGAU), ond bod y pwyllgor yn deall bod y Pennaeth Addysg eisoes wedi cysylltu â Chymwysterau Cymru yn nodi anfodlonrwydd ynglŷn â’r cynnydd sylweddol a dirybudd yn lefel trothwy graddau ‘B’ ac ‘C’.  Yn ddibynnol ar yr ymateb i hynny, ‘roedd yr Aelod Cabinet yn bwriadu cysylltu ymhellach ar lefel wleidyddol.

·         Cydweld y bydd yr Aelod Cabinet yn diweddaru’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd pan ddaw’r ymateb gan Gymwysterau Cymru, gan fod cryn dipyn o sylwadau’r pwyllgor yn ddibynnol ar yr ymateb hwnnw.

·         Bod pryder wedi’i fynegi hefyd ynglŷn â’r posibilrwydd o newid sylweddol a di-rybudd yn ffiniau graddfeydd pynciau eraill i’r dyfodol ac os daw ymateb i hyn hefyd gan Gymwysterau Cymru, bod yr Aelod Cabinet eto’n diweddaru’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd fel bod y pwyllgor yn gwybod beth sy’n digwydd.

·         Bod y pwyllgor wedi nodi pryder yn benodol oherwydd effaith y newid sylweddol a di-rybudd yn y ffiniau graddfeydd Saesneg ar y disgyblion yn unigol a’u rhagolygon gyrfa maes o law, yn arbennig felly'r 7% i 8% na lwyddodd i gyrraedd eu targed disgwyliedig o radd ‘B’ neu radd ‘C’ o ganlyniad i’r newid yn y trothwy.

·         Bod pryder wedi’i fynegi yn ogystal ynglŷn â’r effaith negyddol posib’ ar athrawon ac ar y daith gwella o fewn yr ysgolion a’r gwaith tracio, ayb, sydd wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf.

·         Bod yna rywfaint o nerfusrwydd ymhlith yr aelodau ynglŷn â’r newidiadau i’r drefn o adrodd ar fesurau perfformiad, gyda llai o bwyslais ar ddata cymharol a mwy o bwyslais ar hunan arfarnu, ayb.  Mae lle i’r aelodau fod yn cadw golwg ar hyn trwy waith y pwyllgor, eu gwaith fel llywodraethwyr ysgolion a’r data treigl o flwyddyn i flwyddyn.

·         Cydweld bod adroddiad pellach i’w gyflwyno i’r pwyllgor yn Ionawr 2019 ar ddata terfynol Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 ac gyda’r adroddiad hwnnw i gynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r arholi drwy gyfrwng y Gymraeg / Saesneg.

 

7.

YMCHWILIAD CRAFFU I EFFAITH DATBLYGIADAU ADEILADAU NEWYDD AR GYFER YSGOLION AR ANSAWDD ADDYSG pdf eicon PDF 24 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cefnogi Busnes y Cyngor (Swyddog Arweiniol yr ymchwiliad - ynghlwm).

 

*12.35yp

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

 

Dilynir y cyfarfod gan sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau am 1.30yp.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Cadeirydd yn gwahodd y pwyllgor i fabwysiadu briff a chadarnhau aelodaeth yr ymchwiliad craffu.

 

Nodwyd y dylid cywiro’r rhestr ym mharagraff 5 o’r ysgolion y bwriedir eu hastudio i gynnwys Ysgol Penybryn, Tywyn.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Mabwysiadu’r briff (a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad).

(b)     Cadarnhau mai aelodau’r ymchwiliad fydd y Cadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton, ynghyd â’r Cynghorwyr Steve Collings, Cai Larsen a Paul Rowlinson.