Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Selwyn Griffiths a Dewi Owen.

Dylan Davies (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd), Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David Healey (ATL)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 97 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

YMGYNGHORIAD AR Y COD DRAFFT ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A'R RHEOLIADAU ARFAETHEDIG pdf eicon PDF 90 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.30yb – 11.15yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn crynhoi prif egwyddorion y Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol, y gwaith cynllunio ar gyfer y newidiadau a’r risgiau i’r awdurdod.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi’r adroddiad cynhwysfawr a baratowyd gan yr Uwch Reolwr ADY a Chynhwysiad mewn ymateb i’r ymgynghoriad.

·         Er gwaethaf honiad y Llywodraeth y byddai’r newidiadau’n gost-niwtral, bod y pwyllgor yn llwyr dderbyn yr eglurhad a roddwyd gan yr Uwch Reolwr ADY a Chynhwysiad, ac a ategwyd gan y Pennaeth Addysg, nad yw’n gost-niwtral, yn enwedig o ystyried bod yr oedran yn cael ei ymestyn o 0-25, ac yn cynnwys plant cyn ysgol a phobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol.

·         Bod yna bryder ynglŷn â chapasiti, nid yn unig yn nhermau’r costau ychwanegol, ond hefyd o safbwynt nifer y staff â’r arbenigedd ac adnoddau digonol, ac ati.

·         Bod pryder hefyd wedi’i fynegi, yn enwedig o ochr yr undebau, ond gan yr Adran hefyd, ynglŷn â’r pwysau gwaith ar gydlynwyr, o ystyried mai’r pennaeth yw’r cydlynydd sy’n gwneud y gwaith ychwanegol mewn nifer o ysgolion bychain.

·         Bod yr aelodau’n cyd-weld â’r cyfeiriad o safbwynt ymyrraeth gynnar gan fod hynny’n gwella’r sefyllfa i’r plentyn ac yn sicrhau ymdrin â phroblemau’n gynnar.

·         Bod pryder wedi’i fynegi ynglŷn â’r Tribiwnlysoedd Addysg a rhaid sicrhau a pharhau i adolygu’r gefnogaeth i’r cydlynwyr, ac roedd hwyluso materion yn electroneg am fod o gymorth yn hyn o beth.

·         Bod rhaid sicrhau bod cydweithio’n digwydd, yn enwedig gyda’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau eglurder ynglŷn â rolau a chyfrifoldebau.  Mynegwyd pryder nad oedd swyddog arweiniol clinigol addysg dynodedig wedi ei benodi eto gan fod hon yn swydd strategol ac allweddol.

·         Bod angen cyfarch y diffyg seicolegwyr addysg sy’n gallu gwneud y gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mynegwyd pryder nad oedd digon ohonynt yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ac awgrymwyd y dylid cysylltu â Phrifysgol Bangor i geisio annog myfyrwyr Seicoleg Cymraeg i ystyried gyrfa fel seicolegwyr addysg.

·         Nodwyd y gofynion ychwanegol ar yr awdurdod o safbwynt plant mewn ysgolion annibynnol, ac yn enwedig plant sy’n derbyn addysg gartref, gan ei bod yn anodd eu cyrraedd.

·         Bod yr aelodau’n rhannu pryderon y Gwasanaeth ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig ac yn cefnogi’r swyddogion yn eu hymdrech i gyflwyno safbwynt y pwyllgor i’r Cynulliad.

·         Bod yna bryderon y byddai’r newidiadau, o bosib’, yn mynd yn groes i’r hyn oedd yn cael ei wneud yng Ngwynedd, a mawr hyderid bod modd dod o hyd i ryw lwybr yn y canol sy’n dderbyniol gan bawb.

 

6.

SWYDDFEYDD ADDYSG ARDAL - PROSIECTAU LLEIHAU BAICH pdf eicon PDF 112 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.15yb – 12.00yp

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar:-

 

·         Gyfeiriad y Swyddfeydd Addysg Ardal o 2019/19 ymlaen;

·         Y diffiniad o bwrpas addysg yng nghyd-destun Ffordd Gwynedd;

·         Y prosiectau lleihau baich gwaith penaethiaid.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Croesawyd bod cefnogaeth yn parhau i adnabod ffyrdd o leihau’r baich ar y penaethiaid, a heriwyd oes yna lefydd eraill lle gellir gwella neu leihau’r baich ymhellach.

·         Bod her ariannol i sicrhau bod trefniadau’r swyddfeydd ardal yn hunangynhaliol, ond roedd yr Adran yn ffyddiog y gellid sicrhau hynny.

·         Ei bod yn ymddangos bod ychydig o aneglurder ynghylch rôl y Byrddau Craffu Addysg ardal ar hyn o bryd, a bod lle i wella ar hynny a gwella dealltwriaeth yr aelodau o hynny.

·         Bod angen adroddiad cyfansawdd ar y prif negeseuon, ymatebion yr Awdurdod a pha wahaniaeth roedd y Byrddau Craffu Addysg Ardal yn wneud.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2017-18 pdf eicon PDF 184 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*12.00yp – 12.30yp

 

 

TORIAD I GINIO – 12.30yp – 1.30yp

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn amgáu Adroddiad Blynyddol Addysg 2017/18.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·      Bod yr Adroddiad Blynyddol yn galluogi i’r aelodau gael diweddariad ar nifer o eitemau a chael craffu beth sy’n digwydd ym meysydd ADY, TRAC ac iaith, a safonau i raddau, a mynegwyd gobaith y byddai mwy o wybodaeth ar gael ar hynny'r flwyddyn nesaf.

·      Bod craffu cyrhaeddiad yn eithriadol anodd ar hyn o bryd a holwyd oedd lle i alluogi aelodau’r pwyllgor craffu i gael mwy o wybodaeth er mwyn gallu craffu a chraffu fod ymyrraeth briodol yn cael ei roi gan yr Awdurdod trwy GwE?

 

8.

CAIS CYNLLUN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 76 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*1.30yp – 2.30yp

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Arweinydd yn rhoi diweddariad ar y Cynllun Twf i Ogledd Cymru ac yn cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft.

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Gwerthfawrogwyd bod y gwaith yn symud yn ei flaen a chroesawyd y cyfle i herio o safbwynt yr Awdurdod i sicrhau atebolrwydd i Wynedd.

·         Cafwyd dealltwriaeth o’r sefyllfa gyfredol o ran y corff atebol, a bod y rôl hon gan Wynedd ar hyn o bryd.  Gan hynny, roedd modd sicrhau bod egwyddorion Gwynedd e.e. trefniadau caffael a chadw’r budd yn lleol yn derbyn sylw.

·         Y gwelwyd bod y rhaglen yn uchelgeisiol.  Awgrymwyd efallai bod lle i ymgysylltu’n well gyda phrosiectau sydd wedi methu yn ddiweddar a bod lle hefyd i geisio denu arian y tu hwnt i’r Cynllun TWF, e.e. prosiect morlyn ar draws arfordir y Gogledd.

·         Bod angen cysylltu Rhwydwaith Seren gyda’r math o gynlluniau a'r math o ofynion / sgiliau sy’n dod o’r cynlluniau yma er mwyn dod â’r byd busnes a’r byd addysg yn agosach at ei gilydd.

·         Bod angen eglurder ynghylch sut i sicrhau arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin a chronfeydd eraill ar gyfer prosiectau llai / eraill i’r dyfodol.

·         Bod rhaid ymateb i Brexit, waeth beth fydd yn digwydd maes o law.

·         Y mawr obeithid y byddai modd bwrw ymlaen â’r Cynllun Twf yn fuan, heb unrhyw oedi pellach, oherwydd y rhagwelid bod yna gyfleoedd cyffrous yn mynd i godi.

 

 

9.

EFFAITH DIGWYDDIADAU YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 84 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*2.30yp – 3.00yp

 

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi yn dangos effaith y digwyddiadau a gefnogir gan y Cyngor ar Wynedd.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhowyd prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod yr adroddiad yn hynod ddiddorol ac yn dangos bod y £50,000 o adnoddau a ddyrannwyd i gefnogi digwyddiadau yn ystod 2019 yn mynd yn bell iawn.

·         Ei bod yn galonogol iawn gweld bod digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y sir.