skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr:- Dewi Owen, Elfed Roberts a Mair Rowlands.

Anest Gray Frazer (Eglwys yng Nghymru), Dilwyn Elis Hughes (UCAC) a David Healey (ATL)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gan gyfeirio at eitem 7 o gofnodion y cyfarfod blaenorol – Cynigion Arbedion yr Adran Addysg ac Ysgolion a’r Adran Economi a Chymuned, nododd aelod na chredai fod brawddeg olaf y cofnod o’r drafodaeth a phenderfyniad (b), er yn gywir, yn gwneud cyfiawnder â naws y drafodaeth, o gofio bod y pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad, ond ddim wedi cymeradwyo’r hyn oedd ynddo.  

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd y Cadeirydd ei fod o’r farn bod y paragraffau uwchben y penderfyniad yn gwneud yn glir nad oedd y pwyllgor yn derbyn bod y toriadau’n dderbyniol.  Roedd barn y pwyllgor wedi’i gyflwyno i’r Cabinet, oedd bellach wedi penderfynu nad oeddent am weithredu’r arbedion.

 

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD DIWEDDARU AIL-FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 36 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

 

 

Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor craffu ar gynnydd blwyddyn gyntaf yr ail-fodelu.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan egluro bod y blaen adroddiad yn adrodd y naratif, sef hanes y daith, tra bo’r atodiad, sef y rhan pwysicaf yn ei dŷb ef, yn manylu ar yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod blwyddyn gyntaf yr ail-fodelu, h.y. beth oedd wedi mynd yn dda a beth oedd ddim wedi mynd cystal.  Eglurodd mai’r prif gasgliad oedd bod y rhaglen waith wedi’i chwblhau, ond bod y gwasanaeth yn parhau ar daith hir sy’n newid yn gyson.  Roedd y daith honno, yn ogystal â chael ei llywio gan ddeddfwriaeth, yn cael ei llywio gan bobl ifanc Gwynedd hefyd, ac roedd hynny’n greiddiol i’r holl daith.  Nododd ymhellach mai un o’r problemau mwyaf oedd yr heriau o ran recriwtio staff, yn arbennig gweithwyr yn y clybiau cymunedol.  O ran yr asesiad effaith o’r newid, roedd yr adroddiad yn amlygu nad oedd effaith negyddol wedi ei adnabod.  Roedd llawer o waith yn mynd ymlaen gyda grwpiau megis yr Urdd a nifer o fudiadau eraill yn y trydydd sector, e.e. Fran Wen, ac roedd y bartneriaeth gyda’r mudiadau hynny yn datblygu o ddydd i ddydd.  Nododd hefyd bod ymgorffori’r Gwasanaeth Ieuenctid o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd wedi agor llawer o ddrysau i’r gwasanaeth, oedd bellach yn cydweithio llawer mwy gydag adrannau eraill o fewn y Cyngor, ynghyd ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â lles bobl ifanc.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at baragraff 3.9 o’r adroddiad, tynnwyd sylw gan aelod at y ffaith bod clwb wedi’i sefydlu ym Mryncrug bellach.

·         Mewn ymateb i gais gan yr aelod lleol am gymorth y gwasanaeth i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer Clwb Ieuenctid Penygroes, nodwyd bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r heriau ac yn barod iawn i gefnogi.  Roedd trafodaethau eisoes wedi’u cynnal gyda’r Adran Addysg, ayb, ac roedd bwriad i geisio cynnal trafodaethau pellach, e.e. gyda’r Ganolfan Byw’n Iach.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y broblem recriwtio staff yn y clybiau cymunedol yn deillio o’r ffaith na allai’r clybiau gynnig digon o oriau i wneud y swyddi’n rhai llawn-amser, na thebyg i hynny.  Hefyd, roedd yn ymddangos nad oedd natur y gwaith yn denu nifer uchel o ymgeiswyr am y swyddi.

·         O ran niferoedd, eglurwyd bod angen dau aelod o staff ymhob clwb, ond yr anelid am dri ymhob lleoliad, rhag gorfod cau’r clwb am noson oherwydd salwch.  Mewn achosion o’r fath, ceisid cael rhywun o Glwb Ieuenctid Gwynedd i lenwi’r bwlch, ond nid oeddent ar gael bob amser gan eu bod wedi trefnu gweithgareddau eraill.

·         O ran y ddarpariaeth ym Mhwllheli, eglurwyd, fel mannau eraill, bod y model newydd yn ymweld â’r dref i gynnal gweithgareddau am gyfnod.  Y bobl ifanc eu hunain oedd yn dewis y gweithgareddau.  Roedd rhai o’r clybiau cymuned wedi gweld yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.