Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Freya Bentham, Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Meirionnydd), Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor), Dilwyn Ellis Hughes (UCAC) a Dylan Huw Jones (NASUWT).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Cyflawni Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yng Ngwynedd - oherwydd bod ei ferch-yng-nghyfraith yn gyfrifol am gyflwyno’r adroddiad, a bod ganddo gysylltiad teuluol â chwmni Wavehill oedd wedi llunio’r adroddiad yn gwerthuso TRAC ac ADTRAC.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 347 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

CYFLAWNI FFRAMWAITH YMGYSYLLTU A DATBLYGU IEUENCTID YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 291 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*10-30yb – 11.30yb

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd - yn arbennig ynghylch addasrwydd trefniadau y Fframwaith, yr angen i gynnig cynhaliaeth llawn i bobl ifanc sydd mewn peryg’ o / wedi dadrithio o fyd addysg, hyfforddiant neu waith, gan sicrhau fod yr elfennau hyn yn cael sylw wrth adolygu ein darpariaethau i’r dyfodol.  Dylid hefyd ystyried craffu’r maes ymhellach, gan drafod yr amserlen ar gyfer hynny yng Ngweithdy Blynyddol y pwyllgor hwn ym mis Mai.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a’r Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â swyddogion yr Adran Addysg a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn gwahodd y pwyllgor craffu i ystyried a yw trefniadau a darpariaethau’r Cyngor yn ddigonol i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu dadrithio gan addysg, neu sydd wedi eu dadrithio gan addysg, hyfforddiant neu waith.

 

Gosododd y ddau Aelod Cabinet y cyd-destun, gan nodi:-

·         Bod y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013, yn gyfrifoldeb trawsadrannol.

·         Y ceisid barn y craffwyr ar y trefniadau ar gyfer cyflawni gofynion y Fframwaith wedi i arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer prosiectau TRAC ac ADTRAC ddod i ben.

·         Bod angen i bawb atgoffa eu hunain yn gyson yn ystod y drafodaeth mai adroddiad am fframwaith oedd hwn, sef y fframwaith o ran sut mae’r Cyngor yn cefnogi plant a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (NEET).

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Wrth symud ymlaen, ei bod yn bwysig deall llwyddiannau a methiannau’r ddarpariaeth bresennol.

·         Y teimlid bod y pwyllgor yn craffu’r mater hwn yn rhy fuan, neu’n rhy hwyr.  Roedd y Fframwaith ei hun yn 8 mlwydd oed.  Er bod trefniadau’r fframwaith wedi bod mewn lle ers hynny, roedd newid wedi bod yn rhai o’r darpariaethau oedd ynghlwm â hi.  Roedd gwaith adolygu rhai o’r darpariaethau ar waith.  Hyd yma nododd adolygiad Wavehill o TRAC a ADTRAC fod angen am y math yma o gefnogaeth i bobl ifanc, ac roedd eu llwyddiant yn amlwg yn yr adolygiad i fyny at ryw bwynt, ond roedd pethau wedi newid ers hynny, yn arbennig yn sgil cyd-destun y pandemig.  Gwelid hefyd yr awydd i barhau â’r darpariaethau yma, ond fod eu ariannu yn dod i ben.  Roedd arian ADTRAC yn dod i ben mis nesaf, ac arian TRAC yn dod i ben ymhen y flwyddyn.  Roedd trafodaethau ar ffynonellau ariannu y tu hwnt i’r Cronfeydd Ewropeaidd presennol yn cael eu harwain o Lywodraeth San Steffan, ond sut fyddai’n bosib’ bwrw ymlaen, oni bai bod yna newid meddwl sylweddol iawn ar ran y grymoedd sy’n ariannu’r pethau hyn?

·         Bod cydweithio yn hynod bwysig yn y sefyllfa anodd sydd ohoni o ganlyniad i golli’r arian ESF, a chyfeiriwyd at gydweithio amlasiantaethol yn Nyffryn Nantlle fel enghraifft dda o feddwl y tu allan i’r bocs.

·         Mai un o’r dylanwadau mwyaf ar bobl ifanc yw eu cyfoedion, a chymerid bod yna bobl ifanc, fu’n anodd ac yn fregus ar un adeg, ond sydd bellach wedi troi cornel ac wedi symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu waith, ac sy’n fodlon siarad yn agored gyda phobl ifanc dadrithiedig.

·         Dylid holi oes tystiolaeth bod y penderfyniad i godi tâl am gludiant i Goleg Meirion Dwyfor wedi bod yn rhwystr i bobl ifanc fynychu addysg bellach.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau:-  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADOLYGU'R GWASANAETH TEITHIOL LLYFRGELLOEDD pdf eicon PDF 414 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*11.30yb – 12.30yp

 

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:

 

Cam 1

Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon

2. Dwyfor

3. Meirionnydd

 

Cam 2

Yn dilyn ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon / Dwyfor

2. Meirionnydd

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ynghyd â swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn ceisio arweiniad y pwyllgor craffu ar y Gwasanaeth Teithiol i’r Cartref, yn dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth bresennol a hanesyddol o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell.  Gwahoddwyd yr aelodau i ystyried nifer o opsiynau, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Gwasanaeth o’r galw a’r defnydd presennol o’r gwasanaeth, ac arbedion y gellid eu gwneud o adolygu’r patrwm darpariaeth.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan nodi y gwelwyd bod nifer o fuddion yn codi o’r drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, oedd wedi cychwyn yn ystod yr argyfwng Cofid, a bod pobl yn gwerthfawrogi’r trefniant fwyfwy wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Er derbyn bod pobl yn croesawu cael y gwasanaeth i’r cartref, efallai bod angen hybu ac annog pobl i fentro allan a chymdeithasu yn sgil y pandemig.

·         Y gallai gofalwyr, ac ati, sy’n galw yng nghartrefi pobl, bigo llyfrau i fyny a mynd a hwy i’r person yn ystod eu hamser gwaith.

·         Y gallai’r cerbyd teithiol ymweld ag, e.e. neuaddau pentref, pan fydd grwpiau neu glybiau paned yn cyfarfod yno.

·         Y croesawid y defnydd o’r faniau trydan/hybrid i gyflenwi’r gwasanaeth, yn hytrach na’r lorïau mawr.

·         Y deellid nad cyfle i arbed arian oedd y drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, a phetai’r gwasanaeth yn gweld bod angen cadw’r status quo, bod arian ar gael ar gyfer hynny.

·         Cwestiynwyd y penderfyniad i gyflwyno’r newid yn ystod y pandemig, a holwyd oni fyddai’n well aros i bethau setlo yn gyntaf?

·         Y byddai peidio ag ymweld ag arosfannau teithiol yn golygu gostyngiad o 17% yn nifer yr aelwydydd yng Ngwynedd sydd o fewn cyrraedd llyfrgell sefydlog neu deithiol, a gan fod mwyafrif poblogaeth y sir yn byw yn y trefi beth bynnag, golygai hynny 17% o’r trigolion gwledig.

·         Bod pobl sy’n gaeth i’w cartref, am ba reswm bynnag, yn croesawu’r gwasanaeth i’r cartref yn fawr iawn, a bod angen datblygu’r cynllun ymhellach, gan hefyd roi mwy o gyhoeddusrwydd iddo, e.e. drwy gynnwys eitem yn Newyddion Gwynedd.  Awgrymwyd hefyd y byddai’n syniad gyrru e-bost at bob cynghorydd i’w hysbysu am y Gwasanaeth, gan ofyn iddynt ledaenu’r wybodaeth drwy’r prif gyfryngau cymdeithasol i drigolion eu wardiau.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd i ddilyn hynny i fyny.

·         Bod y dewis o lyfrau ar fan yn reit gyfyng, a bod y gwasanaeth i’r cartref yn ehangu’r dewis o lyfrau, ac yn cyrraedd pawb yn y sir.

·         Cwestiynwyd a fyddai pobl yn awyddus i ymgynnull mewn lle cyfyng fel fan yn sgil Cofid beth bynnag.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau:-

 

·         Nodwyd bod pryderon wedi’u lleisio cyn y pandemig ynglŷn â’r lleihad o flwyddyn i flwyddyn yn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.