skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) a Karen Vaughan Jones (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn eitem 5 – Lefelau Diweithdra a Chefnogaeth yn ôl i Swyddi - oherwydd mai ei fab oedd awdur yr adroddiad i’r pwyllgor.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts fuddiant personol yn eitem 6 - Cinio Ysgol - oherwydd bod aelod o’r teulu yn Llywodraethwr Ysgol Dyffryn Nantlle.  Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 449 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Hydref, 2021 fel rhai cywir.

 

5.

LEFELAU DIWEITHDRA A CHEFNOGAETH YN OL I SWYDDI pdf eicon PDF 249 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu’r newidiadau yn niweithdra a pha gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei gynnig i bobl Gwynedd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd pryder bod cymaint o bobl ifanc y sir yn gadael bob blwyddyn, a phryderid hefyd na ellid dibynnu ar yr ystadegau a gyflwynwyd i’r pwyllgor oherwydd bod yna gymaint o allfudo.  Roedd gan Lywodraeth Cymru nod i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac os oedd y cynlluniau hyn yn ddibynnol ar grant gan y Llywodraeth, roedd cyfle yma i ateb yr allfudo sydd wedi bod, yn enwedig oherwydd demograffi’r sir a phwysigrwydd y Gymraeg yn y sir, drwy ddweud wrth y Llywodraeth beth y gellir ei wneud i gryfhau’r ardaloedd Cymraeg ac i geisio atal yr allfudo.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd edrych ar anghenion cyflogaeth i’r dyfodol er mwyn sicrhau y bydd y bobl ifanc hynny sy’n mynd drwy’r gyfundrefn addysg ar hyn o bryd yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi fydd ar gael ar ddiwedd eu cyfnod mewn addysg.  Mynegwyd pryder bod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig megis Pen Llŷn yn gorfod teithio’n bell i fynychu cyrsiau yn y colegau.  Nodwyd hefyd bod yna bobl â gwahanol arbenigeddau fyddai, o bosib’, mewn sefyllfa i ddarparu hyfforddiant i bobl leol i’w cynorthwyo i gael gwaith, ac awgrymwyd y dylid targedu’r math hynny o bobl.

·         Nodwyd bod y sefyllfa swyddi / tai yn y sir yn gylch dieflig.  Roedd angen swyddi, ond i ddenu cyflogwyr da, roedd angen tai.  Roedd yna brinder tai, ond ni ellid adeiladu tai yn y gobaith o ddenu cyflogwyr.  Nodwyd bod Brighter Foods yn Nhywyn yn awyddus i ymestyn yn sylweddol yn sgil derbyn buddsoddiad o £42m, ond eu bod yn cael anhawster denu staff oherwydd prinder tai yn yr ardal.  Ychwanegwyd bod De Meirionnydd wedi dioddef yn ddifrifol ers i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig a Datblygu Canolbarth Cymru ddod i ben rai blynyddoedd yn ôl.  Cyfeiriwyd hefyd at siop fferm, oedd yn awyddus i ymestyn ac adleoli i uned wag ar Stryd Fawr Tywyn, ond yn methu cael caniatâd cynllunio i wneud hynny, ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor lacio’r cyfyngiadau cynllunio ac annog mwy o adeiladu tai yn yr ardal.

·         Mynegwyd pryder bod ymgyrchoedd recriwtio mewn sawl sector, megis gofal, lletygarwch, cymorthyddion ysgol a rhaglen frechu’r Bwrdd Iechyd, i gyd yn pysgota yn yr un pwll, ac y gallai llwyddiant un sector fod ar draul y gweddill.

·         Nodwyd bod cyfle yma i gael llwybr gyrfa i bobl sy’n dod i weithio i’r Cyngor, yn enwedig yn y sector gofal, ond nad oedd yr adroddiad yn cyfarch hynny. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod gan yr Adran raglen creu gwaith gwerth uchel, gyda’r nod o greu swyddi o safon yng Ngwynedd i gadw ein pobl ifanc  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CINIO YSGOL pdf eicon PDF 265 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, a gofyn i’r Adran Addysg am ddiweddariadau cyson fel mae’r cynlluniau newydd yn symud yn eu blaenau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn darparu gwybodaeth am drefniadau ysgolion i geisio sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn wynebu diwrnod heb ginio yn yr ysgol, ynghyd â sefyllfa dyledion cinio ysgol a’r prosesau sydd yn weithredol er mwyn ymateb i’r sefyllfa hynny.

 

Cyn cychwyn ar y drafodaeth, cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y llythyr diweddar gan Ysgol Dyffryn Nantlle at rieni ynglŷn â thaliadau cinio ysgol, gan nodi y dymunai roi sicrwydd i’r aelodau nad oedd y Cyngor yn gwrthod cinio ysgol i unrhyw blentyn o fewn y sir, waeth beth oedd yr amgylchiadau.  Nododd ymhellach fod Cadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgol wedi gofyn i’r Adran ail-edrych ar eu prosesau, a chadarnhaodd y byddai’r Adran yn sicr yn ymateb i hynny.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mynegwyd cefnogaeth frwd i fwriad y Llywodraeth i ymestyn cinio am ddim i holl ddisgyblion cynradd.  Nodwyd bod yna nifer o fanteision i hyn, e.e. plant yn dysgu’n well yn y pnawn ar ôl cael cinio maethlon, mynd i’r afael â gordewdra, dim gwahaniaethu rhwng y rhai sy’n cael cinio am ddim a’r rhai sy’n talu ynghyd â chael gwared â’r broblem o deuluoedd sy’n gymwys i gael cinio am ddim, ond ddim yn hawlio am wahanol resymau.

·         Gan gyfeirio at y sefyllfa a gododd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, mynegwyd siomedigaeth na adroddwyd ar hyn i’r Cyngor llawn diwethaf.  Roedd pryder eang a chyffredin ymysg y cynghorwyr ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd, a dylai pob un ohonynt fod wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau.  Nodwyd ymhellach bod yr adroddiad yn cyfeirio at ‘aneglurder’, ond nad oedd yn esbonio beth oedd yr aneglurder hwnnw, nac ychwaith yn cynnig ymddiheuriad am yr hyn ddigwyddodd.  Roedd honiadau wedi’u gwneud gan bennaeth mewn gofal bod yr Awdurdod wedi ei ddefnyddio fel bwch dihangol, ac nid oedd yr adroddiad yn cyfarch y cwestiynau difrifol oedd angen eu hateb ynglŷn â hynny.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn ag unrhyw fwriad i allanoli’r gwasanaeth a chreu ceginau rhanbarthol gan y byddai cau ceginau ysgolion yn arwain at ddiweithdra.

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd darparu bwydydd maethlon o ansawdd i blant ysgol ac awgrymwyd bod cyfle yma i ddefnyddio, e.e. llysiau sy’n cael eu tyfu ar dir yr ysgol / yn y gymuned yn y prydau ysgol.

·         Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod yr hyn ddigwyddodd yn Ysgol Dyffryn Nantlle wedi achosi poen ac embaras i’r Awdurdod, bod yr Awdurdod wedi ymateb i’r sefyllfa yn gyflym ac yn briodol, gan gywiro unrhyw gamargraff.  Roedd rhaid bod yn sensitif i dlodi wrth ymateb i’r sefyllfa, ond roedd angen derbyn hefyd bod yna leiafrif bychan sy’n cymryd mantais o unrhyw systemau gwan o ran casglu arian cinio.  Yr egwyddor bwysicaf oedd nad bai'r plentyn yw os nad yw’r rhieni yn talu, hyd yn oed os oes ganddynt y modd i dalu. 

·         Croesawyd y cadarnhad nad oedd Gwynedd yn atal unrhyw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL ADDYSG

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiadau, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

7a

ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2020-21 A BLAENORIAETHAU'R ADRAN ADDYSG pdf eicon PDF 378 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Adran Addysg ar gyfer 2020-21.

 

Cyn cychwyn ar y drafodaeth, diolchodd yr Aelod Cabinet i’r ysgolion a’r penaethiaid, y staff a’r athrawon am gynnal, nid yn unig y ddarpariaeth addysgol, ond hefyd darpariaethau megis arlwyo a glanhau yn ystod blwyddyn hynod o heriol.  Ychwanegodd ei bod yn bwysig hefyd cydnabod gwerthfawrogiad yr ysgolion a’r penaethiaid o’r gefnogaeth a roddwyd gan yr Adran Addysg yn ystod y cyfnod, ac roedd o’r farn bod y berthynas rhwng yr Adran a’r ysgolion wedi cryfhau yn ystod y pandemig.

 

Ategwyd y sylwadau hyn gan y Pennaeth Addysg a nododd y dymunai yntau hefyd dalu teyrnged i swyddogion yr Adran fu’n cefnogi’r holl waith, a hefyd i staff Adran yr Amgylchedd am y cyngor a’r cymorth amhrisiadwy gan y swyddogion iechyd a diogelwch a’r cydweithio prydlon ac effeithiol i gadw’r sefyllfa i fynd.  Nododd fod yr amharu ar addysg a lles plant wedi ei gadw mor isel â phosib’ oherwydd dygnwch a dyfalbarhad nifer fawr o bobl Gwynedd, a gallai’r aelodau etholedig ymfalchïo yn ein hysgolion a’u rôl hwythau fel llywodraethwyr yn cefnogi’r ysgolion ar draws y sir.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Diolchwyd i’r Adran am ddarparu adroddiad cryno, oedd yn cyfleu’r negeseuon yn glir iawn.

·         Gan gyfeirio at baragraff 3.8 o’r blaen adroddiad, croesawyd y ffaith bod y gair ‘dwyieithog’ wedi diflannu o’r naratif, gan y dylai’r pwyslais fod ar ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a mynegwyd gobaith y gellid adeiladu ar hyn dros y blynyddoedd yn ein hysgolion.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O ran y sefyllfa bresennol yn yr ysgolion, bod y data yn newid yn ddyddiol, ond roedd yn ymddangos bellach bod y sefyllfa wedi cyrraedd uchafbwynt mewn rhai sefyllfaoedd, gyda nifer o staff a phlant yn dychwelyd i’r ysgolion.  Roedd y sefyllfa wedi bod yn eithriadol o anodd gyda hyd at 30% o’r staff a’r plant i ffwrdd mewn rhai dosbarthiadau.  Yn yr achosion hynny, symudwyd i addysg rithwir a bu’n rhaid i swyddogion yr Adran, ynghyd â’r swyddogion iechyd a diogelwch, gymryd penderfyniadau cyflym iawn a phellgyrhaeddol ar adegau.  Roedd y sefyllfa bellach yn sefydlogi mewn rhai pocedi, ac roedd yr Adran yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r ysgolion yn agored mor ddiogel â phosib’.  Nodwyd hefyd bod penaethiaid oedd i ffwrdd o’r ysgol oherwydd Cofid wedi parhau i redeg yr ysgolion hynny o gartref.

·         Bod y Llywodraeth wedi gofyn i’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ddarparu ffigwr o’r gwariant ychwanegol a welwyd yn y maes hyd yma, a lle y disgwylir i’r gwariant ychwanegol fod yn y dyfodol.

·         Nad oedd rhai o’r trafodaethau ynglŷn ag addysg ôl-16 wedi digwydd mor rheolaidd ag y dymunid yn ddiweddar oherwydd y pwysau ar yr ysgolion i ddelio gyda chadw’n agored, ond bwriedid ail-afael yn y drafodaeth yn llawn ym mis Ionawr er mwyn symud ymlaen cyn gynted â phosib’ i weld sut y gellir gwella  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7a

7b

ADRODDIAD BLYNYDDOL GWE 2020-21 pdf eicon PDF 516 KB

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2020-21.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE y dymunai gydnabod y gwaith arbennig iawn oedd wedi’i wneud mewn cyfnod heriol iawn yn yr ysgolion. 

 

Yna manylodd yr Arweinyddion Craidd ar ddatblygiadau ar gyfer y cwricwlwm newydd fyddai’n cychwyn yn yr ysgolion cynradd yn 2022.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Croesawyd y ffaith bod y teitl ‘Swyddogion Her’ wedi diflannu ac mai ‘cefnogaeth’, ‘datblygu’, ‘gwella’ a ‘chymorth’, ayb, oedd y geiriau allweddol bellach.

·         Mynegwyd pryder nad yw plant, e.e. Blwyddyn 10, sy’n cael profion ffurfiol yn wythnosol, yn gwybod a fydd canlyniadau’r asesiadau hynny yn cyfrannu at eu graddau terfynol ai peidio.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Er na fyddai data perfformiad ar gael o hyn allan, roedd yr arfer o fynd i mewn i ddosbarthiadau, craffu ar lyfrau a siarad ag athrawon a phlant o fudd i’r Gwasanaeth sicrhau bod ganddynt wybyddiaeth dda iawn o’r ysgolion.  Ni chredid bod canolbwyntio ar set gul o ddangosyddion perfformiad ar ddiwedd cyfnod allweddol yn rhoi darlun llawn o’r ysgol, ac wrth symud ymlaen heb y data hwnnw, roedd yn bwysig cael y darlun llawn holistig o ysgol o gwmpas 4 diben y cwricwlwm newydd.  Roedd y Gwasanaeth yn edrych hefyd ar les y plant, sut mae’r dysgwyr yn datblygu tuag at y 4 diben, a thrwy lunio gwaelodlin, byddai’r Gwasanaeth yn paratoi adroddiad ar gyfer pob ysgol yng Ngwynedd, ynghyd ag adroddiad rhanbarthol gyda naws lleol fel atodiad, yn crynhoi lle mae’r ysgolion arni, a beth yw’r safonau.  Yn amlwg, roedd rhaid bod yn sensitif i sefyllfa’r ysgolion ar hyn o bryd, ond roedd y Gwasanaeth yn gweithio’n agos iawn gyda swyddogion yr Awdurdod, sydd â darlun o sefyllfa’r ysgolion o safbwynt presenoldeb, cynhwysiad, ADY, ayb, er mwyn cael y darlun llawn.  Roedd cysondeb ar draws y rhanbarth yn y dull o weithredu ac o adnabod yr ysgolion, ac roedd angen adnabod unrhyw lithriadau yn gynnar gan ymateb a rhoi cefnogaeth i’r ysgolion.  Drwy gymryd cydberchnogaeth dros y deilliannau a gweithio hefo’r ysgol i roi cynllun cefnogaeth mewn lle, gellid sicrhau cefnogaeth lawn ar gyfer sicrhau’r gwella sydd ei angen.  Nodwyd ymhellach bod Gwynedd wedi bod yn flaenllaw ac wedi gweithredu hyn yn gynnar iawn.  Fel pob cynllun rhanbarthol, roedd angen blas lleol, a gwnaed rhai mân newidiadau i’r cynllun yng Ngwynedd mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Gwella Ysgolion.

·         Na ddylai ymadawiad athro/athrawes, fu’n gyfrifol am ddatblygu elfen o’r cwricwlwm newydd yn lleol, fod yn broblem gan fod y cwricwlwm lleol wedi’i baratoi gan yr ysgol gyfan. 

·         Mai bwriad yr Arolygiaeth yng Nghymru oedd ail-afael mewn arolygiadau ysgolion yn nhymor y Gwanwyn.  Roedd trafodaethau cyson yn digwydd gydag Estyn, ac roedd angen i’r Gwasanaeth fod yn sensitif i sefyllfa ysgolion ar hyn o bryd, gan arolygu’r ysgolion yn y cyd-destun hwnnw.  Nodwyd ymhellach y byddai Estyn yn peilota arolygon mewn tua 30 o ysgolion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7b

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r rhaglen waith ddiwygiedig.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22.

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad y pwyllgor hwn yn eu cyfarfod diwethaf i gyfeirio’r eitem ynglŷn ag Ysgol Abersoch yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried.  Nodwyd na lwyddwyd i ddarbwyllo’r Cabinet i newid eu meddyliau ar y mater, gan iddynt gadarnhau eu penderfyniad eu hunain.  Pwysleisiwyd nad oedd hyn yn deg ar drigolion y sir, ac y dylai materion sy’n cael eu cyfeirio o’r Cabinet i’w craffu gael eu cyfeirio ymlaen i’r Cyngor llawn, yn hytrach na’u cyfeirio’n ôl i’r Cabinet, am benderfyniad terfynol.

 

Gan gyfeirio at yr eitem ‘Cefnogaeth i athrawon gyda materion cam drin ar y we’, nododd y Pennaeth Addysg fod Estyn wedi cyhoeddi adroddiad yr wythnos hon yn seiliedig ar waith thematig oedd ganddynt, ac y byddai ein hargymhellion ni yn cael eu plethu gydag argymhellion Estyn er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn arwain ar hyn, a’n bod yn gwneud ein gorau i ddileu’r broblem hon yn ein hysgolion.  Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd mai prif ffocws yr adroddiad i’r pwyllgor fyddai’r elfen awgrymog o gam-drin rhywiol sydd wedi bod yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mater i’r pwyllgor oedd penderfynu a ddymunent i’r eitem fod yn ehangach na hynny.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen waith ddiwygiedig.