Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Judith Humphreys, Keith Jones a
Dewi Owen Anest Gray Frazer
(yr Eglwys yng Nghymru) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y canlynol fuddiant personol yn
Eitem 7 – Canolfannau Byw’n Iach:- ·
Y
Cadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton oherwydd ei bod yn Gyfarwyddwr y Cwmni
Byw’n Iach. ‘Roedd o’r farn ei fod yn
fuddiant sy’n rhagfarnu ac ymneilltuodd o’r gadair a gadawodd y cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem. ·
Y
Cynghorydd Cemlyn Williams, oherwydd ei fod yn Gyfarwyddwr y Cwmni Byw’n
Iach. Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant
sy’n rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2018 fel rhai cywir. |
|
CANLYNIADAU TERFYNOL HAF 2018 PDF 119 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *10.00yb
– 10.45yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn manylu ar ganlyniadau terfynol haf 2018. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod y brif drafodaeth ar y mater hwn wedi digwydd ym mis Medi'r
llynedd pan gyflwynwyd y data craidd i’r pwyllgor hwn, a dim ond mân sylwadau a
godwyd yn y cyfarfod hwn. ·
O ran y Cyfnod Sylfaen, mae yna ddealltwriaeth bod newid wedi bod
yn sail yr asesu a bod GwE yn cyd-weithio gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau asesu
o safon a sicrhau cefnogaeth i hynny. ·
O ran Cyfnod Allweddol 5, er y derbyniwyd esboniad o’r data a’r
hyn sy’n digwydd yng Ngwynedd a pha gefnogaeth sydd ar gael, mynegir peth siom
a phryder nad yw’r data’n gyhoeddus ac mae angen sicrhau sut y gall aelodau
gynorthwyo ysgolion yn eu rôl fel llywodraethwyr i sicrhau bod cefnogaeth
benodol ar gyfer pynciau penodol, fel bo’r angen. ·
O ran y newid yn lefel trothwy graddau TGAU Saesneg, mae’r
pwyllgor yn parhau i roi cefnogaeth i’r Aelod Cabinet a’r adran i frwydro o ran
y newid sydd wedi bod yn y ffin ac yn datgan eu siomedigaeth na chafwyd
datrysiad i hyn hyd yma, yn arbennig ar gyfer yr unigolion hynny na lwyddodd
efallai i gael y graddau C a B disgwyliedig y llynedd. Hefyd, dymuna’r pwyllgor roi neges glir bod
angen sicrhau na fydd disgyblion eleni yn dioddef yn yr un ffordd mewn unrhyw
bwnc. |
|
AILSTRWYTHURO CANOLFANNAU IAITH PDF 98 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *10.45yb
– 11.30yb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg yn ceisio barn yr aelodau ar yr opsiynau ar gyfer ail-strwythuro’r
Canolfannau Iaith yn sgil diffyg yn y gyllideb o 2019/20 ymlaen, ynghyd â’r
sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhodd
y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod y pwyllgor yn ddiolchgar am y diweddariad o’r hyn sydd wedi
digwydd gyda’r ymgynghoriad mewnol a bod yna werthfawrogiad clir o’r gwaith a
wneir gan y canolfannau iaith a’u llwyddiant.
·
Nad oes yna neges glir o’r pwyllgor hwn ynglŷn â’r datrysiad
i’r diffyg ariannol. Serch hynny, mae
yna negeseuon clir i’w cyflwyno i sylw’r adran mewn pedwar maes, sef:- Ø
Mae pryder wedi’i gyfleu gan y pwyllgor nad oedd yr un o’r
egwyddorion yn cynnwys sicrhau cadw ansawdd y ddarpariaeth i’r dyfodol a bod
pwyslais gan y pwyllgor i gynnal asesiad effaith cydraddoldeb ar yr opsiwn ffafredig, ac efallai bod lle hefyd i fesur yr ansawdd ac
effaith newid ar y ddarpariaeth o hyn ymlaen. Ø
Nodir peth pryder ynglŷn â’r newid posib’ yn llwyth gwaith y
sawl sy’n gweithio yn y canolfannau iaith, ond nodir hefyd, ar yr un pryd, bod
y pryder hwnnw ar draws yr holl ystod o wasanaethau a ddarperir gan yr Adran
Addysg ym mhob ysgol a bod y gymhareb disgybl / athro ym mhob dosbarth yn fater
sydd angen edrych arno hefyd. Ar yr un
pryd, roedd pwyslais ar yr angen i gael 2 athro / athrawes yn yr Uned Uwchradd. Ø
Cefnogir parhad y trafodaethau mewn ymgais i ddwyn perswâd ar
Lywodraeth Cymru i barhau i roi mwy o arian ar gyfer cefnogi’r Gymraeg o hyn
allan. Ø
Derbynnir bod y grant yn cael ei dorri ac er y byddai’n well gan
bawb petai hynny ddim yn bod, mae’r pwyllgor yn annog yr adran i edrych ar
unrhyw ffynonellau eraill posib’, boed hyn yn arian grant ychwanegol neu ba
ffynhonnell bynnag. Er hynny, derbynnir
yn llwyr fod yr ysgolion wedi cymryd toriadau sylweddol a pharhaus dros amser
bellach, ac er yn opsiwn, nid oedd y pwyllgor yn dymuno edrych ar yr ysgolion i
gyllido hyn. Yn ogystal, fe godwyd y
risg ynglŷn â’r posibilrwydd o beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol gan fod GwE yn edrych ar y grant
yma ymhellach. |
|
CANOLFANNAU BYW'N IACH PDF 59 KB Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago Ystyried adroddiad ar yr
uchod (ynghlwm). *11.30yb
– 12.15yp *amcangyfrif o’r amseroedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cadeiriwyd yr eitem hon gan yr Is-gadeirydd
oherwydd buddiant y Cadeirydd yn y mater. Cyflwynwyd - adroddiad yr Aelod Cabinet Tai,
Hamdden a Diwylliant yn diweddaru’r pwyllgor craffu o’r cynnydd sydd wedi ei
wneud yn erbyn yr achos fusnes cymeradwy ar gyfer trosglwyddo’r canolfannau
byw’n iach i gwmni sydd wedi ei reoli gan y Cyngor ac yn cynnig amlinelliad o’r
trefniadau sydd mewn lle i gyfarch y sylwadau a wnaethpwyd gan y pwyllgor hwn
yn ôl yn ei gyfarfod ar 26 Medi, 2017. Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr
aelodau. Crynhodd
yr Is-gadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:- ·
Bod gwell dealltwriaeth o’r datblygiadau yn dilyn yr eitem hon i’r
pwyllgor, yn arbennig o ran y cytundeb, y berthynas gyda’r Cyngor, y trefniadau
llywodraethu a’r ochr ariannol hefyd. ·
Cafwyd atebion i nifer o gwestiynau ar faterion penodol mewn
perthynas â sefyllfa llyfrgelloedd, ysgolion, grantiau, ayb. ·
Ymatebwyd hefyd i’r materion a godwyd ym Medi 2017 ac nid oedd gan
y pwyllgor unrhyw sylwadau penodol pellach i’w gwneud. ·
Bod y pwyllgor o’r farn y dylid llunio cynllun cyfathrebu er mwyn
sicrhau bod trigolion Gwynedd yn ymwybodol o’r camau sydd ar droed. ·
Rhaid cael sicrwydd y bydd y gofynion o ran yr iaith Gymraeg yn
rhan o’r cytundeb ac y bydd hynny’n cael ei graffu gan y pwyllgor hwn. |