Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Courtney Leigh Jones  E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 210 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 16 Gorffennaf 2026, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

5.

CYDWEITHIO GYDA'R CYMDEITHASAU TAI pdf eicon PDF 113 KB

Cwestiynau i’w gofyn i’r cymdeithasau tai. (Adra, Clwyd Alyn, Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi atebion y Cymdeithasau Tai a diolch iddynt am eu parodrwydd i ateb y cwestiynau.
  2. Penderfynwyd i dderbyn atebion ysgrifenedig o flaen llaw gan y Cymdeithasau Tai yn y dyfodol a gofyn cwestiynau atodol yn ystod y sesiwn craffu.

 

6.

ASESIAD ANGHENION POBLOGAETH pdf eicon PDF 127 KB

I gyflwyno’r adroddiad i graffu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad.
  2. Argymell i’r Aelod Cabinet i ychwanegu ‘gofal a chefnogaeth’ i deitl yr adroddiad i sicrhau gwell eglurder.
  3. Rhoi mwy o sylw yn yr adroddiad i broblemau efo cyffuriau, yr angen am becynnau gofal i ofalwyr ifanc a gofalwyr di-dâl, gan roi sylw penodol i rieni sydd yn gofalu am eu plant, a gofal lliniarol dros y penwythnos, safon gofal mewn cartrefi gofal preifat, ac anawsterau cael apwyntiadau iechyd.
  4. Gofyn a oes modd i flaen graffu'r cynllun gweithredu ardal pan fydd hwnnw yn barod a chael sicrwydd bod bob adran y Cyngor yn cyfrannu at hwnnw yn ogystal â’r partneriaid perthnasol eraill.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y WEITHREDFN CWYNION, YMHOLIADAU A DIOLCHIADAU'R ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD AC ADRAN OEDOLION IECHYD A LLESIANT AR GYFER 2025-26 pdf eicon PDF 601 KB

Paratoi Adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion a’i gyflwyno i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu er mwyn craffu a monitro’r trefniadau ar gyfer delio’n effeithiol â chwynion a dderbyniwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u cynrychiolwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Derbyn a nodi’r adroddiad gan nodi’r awydd i’r Aelod Cabinet perthnasol weithredu ar yr argymhellion a gafwyd yn y Grŵp Tasg a Gorffen Cwynion gan roi diweddariad i’r pwyllgor.
  2. Gofyn i’r Aelodau Cabinet ystyried a oes modd rhoi adnoddau ychwanegol i leihau llwyth gwaith swyddogion gofal cwsmer.

 

8.

CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD pdf eicon PDF 89 KB

I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd enwebu y 2 cynrychiolydd canlynol i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad tai ac eiddo.

 

  1. Y Cynghorydd Geraint Wyn Parry
  2. Y Cynghorydd Jina Gwyrfai