Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Beth Lawton
yn Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer 2024/2025. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 11eg o Ebrill, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DoLS) I drafod gallu'r Cyngor i weithredu Cynllun Diogelu rhag colli Rhyddid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau canlynol: a)
Datgan gwir
bryder am y sefyllfa ac amharodrwydd y Pwyllgor Craffu Gofal i dderbyn y risg
sy’n cael ei amlygu yn yr adroddiad. b)
Gofyn i’r Aelod
Cabinet Oedolion drafod ymhellach efo’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a
chreu cynllun gweithredu. c)
Gofyn i’r Adran
ddarparu adroddiad Cynnydd ymhen 6 mis. d)
Nodi dymuniad i
dderbyn gwybodaeth bellach gan arbenigwr. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023/24 I roi cyfle i aelodau graffu gwaith y Panel Strategol Diogelu dros
2023/24. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. |
|
DATBLYGU DARPARIAETH BERSWYL I BLANT MEWN GOFAL MEWN GRŴP BYCHAN Mae datblygiad darpariaeth breswyl i blant mewn gofal drwy gynllunio
cynllun cartrefi grŵp bychan angen ei graffu oherwydd bod y prosiect yn
rhan o Gynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn yr
adroddiad gan ddymuno pob llwyddiant i’r datblygiad. b) Nodi awydd y
Pwyllgor i dderbyn diweddariad pan fydd y cartref preswyl wedi agor ac wedi
cyfnod o setlo. |
|
GRŴP CRAFFU CYD-BWYLLGOR IECHYD A GOFAL CANOLBARTH CYMRU I ethol aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cyd-Bwyllgor Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Linda Morgan i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu ar Grŵp Craffu Cydbwyllgor
Iechyd a Gofal Canolbarth Cymru |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU GOFAL 2024/25 Cyflwyno rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w
mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Mabwysiadu
rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25. b) Cytuno i
ychwanegu eitem ychwanegol Polisi Codi Tâl am Ofal (Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant) i gyfarfod 26 Medi 2024. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD I enwebu cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu’r Cynghorydd Einir Wyn Williams fel cynrychiolydd i
fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. |