Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhonwen Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod:
Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts yn Gadeirydd i’r
Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. Estynnodd y Cadeirydd groeso i Aelod newydd
ar y pwyllgor, Y Cynghorwr Gareth T M Jones. Diolchwyd i’r Cynghorydd Eryl Jones-Willimas am ei gefnogaeth fel Cadeirydd y pwyllgor dros y ddwy flynedd
diwethaf. Rhoddwyd diolchiadau a dymuniadau gorau i Gareth James (Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu) ar ei
ymddeoliad mis Awst 2019. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Councillors Richard Medwyn Hughes, Linda Ann Jones,
Cai Larsen, Peter Read. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant
personol yn eitem saith - Anawsterau
Recriwtio oherwydd bod ei wraig yn
gweithio yn y maes gofal. Gan fod yr eitem
yn fater cyffredinol recriwtio staff newydd, nid oedd
o’r farn ei fod yn
fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni
adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019, fel rhai cywir yn
amodol ar gynnwys cyfeiriad at y trydydd sector yn y frawddeg gyntaf ym mharagraff gwasanaethau
hwb yn eitem
pump. ‘Nodwyd rhai syniadau ac angen ar gyfer
gwasanaethau sydd yn cyfuno gwaith
y Bwrdd Iechyd Gofal a’r trydydd sector gan gynnwys elfen o dai’. |
|
ANAWSTERAU RECRIWTIO PDF 27 KB Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
*10.35 – 11.35 (amcangyfrif amseru) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adroddiad cyffredinol er gwybodaeth gan yr
Aelod Cabinet, Oedolion, Iechyd a Llesiant. Cyflwynwyd yr adroddiad cyntaf yn
Nhachwedd 2018 gan yr Uwch Reolwr Busnes yn amlygu canfyddiadau cychwynnol y
gwaith a wnaethpwyd gan gwmni CELyn yn edrych ar recriwtio a chadw gofalwyr
gofal cartref. Yn ehangach wedyn mae
‘Y Gweithlu a Recriwtio o fewn y maes Gofal’ yn un o flaenoriaethau Strategol y
Cyngor 2018-23 a phwrpas yr adroddiad yw cyflwyno rhaglen waith. Disgwylir derbyn sylwadau gan yr Aelodau i’w
bwydo i’r pedwar ffrwd gwaith sef tâl ac amodau gwaith. Edrych ar eu sgiliau arbenigol, a proffil y
swydd, gan feddwl am y ffordd orau o gyfathrebu a marchnata recriwtio staff yn
y dyfodol. ·
Nododd yr Aelod Cabinet i gwestiwn gan Aelod bod
grŵp wedi ei sefydlu ac wedi dechrau ar y gwaith o fapio’r hyn sy’n
digwydd yn barod er mwyn adnabod unrhyw fylchau sy’n bodoli. Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion
allweddol o’r Uned Datblygu’r Gweithlu, adnoddau Dynol a Darparu Mewnol. Rhagwelid tynnu gwasanaethau eraill i mewn yn
ystod y misoedd nesaf. ·
Nododd y Rheolwr Cefnogi Aelodau a Chraffu, gan fod
y gwaith yma yn mynd ymlaen gan yr uned, daeth y pwyllgor i benderfyniad
flwyddyn ddiwethaf oedi'r ymchwiliad craffu i’r pwnc Anawsterau Recriwtio ar
hyn o bryd. Un elfen o bwysigrwydd sydd
angen ei gydnabod yn y gwaith mapio yw gwaith sylfaenol sydd wedi ei gomisiynu gan Grŵp Iechyd
Canolbarth Cymru. Roedd dau Aelod o’r
pwyllgor hwn wedi bod yn craffu ychydig ar y gwaith o fewn y grŵp, felly
roedd gan y Cynghorwyr profiadol hyn gyfraniad pwysig i’w wneud o fewn gwaith
mapio. Camau
Penodol: Disgwylid cwblhau’r gwaith mapio erbyn mis
Hydref 2019. Tâl
ac Amodau Gwaith Cyflwynwyd y drafodaeth ddilynol gan yr
Aelod Cabinet, gyda’r Uwch Reolwr Busnes, Oedolion Iechyd a Llesiant â
Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Cefnogaeth Gorfforaethol yn cyfrannu mewnbwn
mwy manwl ar y rhaglen waith. ·
Nodwyd bod y gwasanaeth o’r farn bod anghysondeb yn
amodau a thelerau gwaith y sector anibynnol a’r ddarpariaeth fewnol ar draws y maes. Nodwyd fod y gwaith trawsnewid gofal cartref yn anelu
i gysoni’r amrwyaieth sy’n bodoli er lles y sector. ·
Eglurwyd fod y gwaith o drawsnewid gofal cartref yn
rhoi’r ffocws ar dynnu gwastraff allan o’r system
gyfredol. Mae’r gwasanaeth o’r farn fod modd ariannu gwellainau mewn amodau a
thelerau gwaith trwy andabod yr elfennau hynny sydd ddim yn ychwanegu gwerth ac
ail ail ddefnyddio’r arian. Yn ogystal a gwella amodau
a thelerau gwaith dylai newid y ffordd fyddwn yn comisynu i’r dyfodol arwain at
roi sicrwydd gwaith tymor hirach i staff a phatrymau gweithio sy’n rhoi balans
bywyd a gwaith gwell. Nodwyd fod y gwaith ym maes
gofal catref yn fwy aeddfed na meysydd eraill ond fod y ffrwd gwaith yma yn
edrych hefyd ar draws y maes gofal megis Preswyl / Nyrio ac Anableddau Dysgu.
Roedd cynabyddiaeth y ffrwd gwaith yn uchelgeisiol ac yn mynd i fod yn
sialens. Camau
Penodol: Disgwylir cysoni lefelau cyflog y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |