Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Arfon, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth: Y Cynghorwyr E. Selwyn Griffiths, Peter Read, Dewi Wyn Roberts a W. Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant) .

 

Hefyd yn ymddiheuro oherwydd eu bod yn datgan buddiant personol:   Y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Dafydd Owen a Rheinallt Puw.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Cofnod:

(i)            Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol gan ei fod yn cynrychioli’r Cyngor ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac yn dilyn arweiniad gan yr Uwch Gyfreithiwr bod ganddo rwydd hynt i drafod y materion dan sylw. 

(ii)          Datganodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones nad oedd yn medru cymryd rhan fel aelod o’r pwyllgor yn dilyn arweiniad gan y Swyddog Monitro a’i bod yn bresennol ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog.     

 

3.

CYFLWYNIADAU - ADDASRWYDD DARPARIAETH IECHYD ARFAETHEDIG AR GYFER TRIGOLION BLAENAU FFESTINIOG pdf eicon PDF 375 KB

Cofnod:

Eglurodd y Cadeirydd bod y cyfarfod arbennig hwn wedi ei alw yn deillio o Rybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Glyn Daniels yng nghyfarfod y Cyngor ar 15 Mehefin 2017 fel a ganlyn:

 

’Rwyf yn cynnig bod Cyngor Gwynedd yn cefnogi Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty a thrigolion Blaenau Ffestiniog i bwyso ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ac awdurdodau perthnasol er sicrhau bod cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yn yr ysbyty newydd sy’n cael ei godi yn y dref. 

I’r perwyl hyn, golygaf fod cyfleusterau sy’n arferol i’w canfod mewn ysbytai lleol, megis uned pelydr x, mân ddamweiniau a nifer ddigonol o welyau i gleifion preswyl.  O ystyried fod Blaenau Ffestiniog y drydedd dref fwyaf yng Ngwynedd, ac hefyd fod ymateb y mwyafrif llethol o’r trigolion mewn refferendwm diweddar yn mynnu fod y dref yn haeddu gwell triniaeth, credaf nad oes unrhyw reswm i’r Cyngor beidio cefnogi’r cynnig hwn. 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r mater yn syth i’r Pwyllgor Craffu Gofal a’i drafod cyn gynted ag y bo’r modd.”

  

Croesawyd a gwahoddwyd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog i gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol ynglyn ag addasrwydd y ddarpariaeth iechyd arfaethedig ar gyfer trigolion Blaenau Ffestiniog a’r cylch.

 

4.

Croesawu a gwahodd cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ynglyn â darpariaeth iechyd ym Mlaenau Ffestiniog. pdf eicon PDF 397 KB

Copi o adroddiad ynghlwm

 

 

Cofnod:

(A)  Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsti Cadwaladr

 

(i) Nododd Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ei fod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y mater hwn ac yn yr un modd bod gan y Bwrdd Iechyd gwestiynau i'w hateb. Tra’n cydnabod bod rhywfaint o hanes i’r mater, hyderir y bydd yr adroddiad a gyflwynir yn gosod rhesymeg y Bwrdd Iechyd o ran adolygu'r gwasanaeth, goblygiadau'r adolygiad hwnnw o ran ceisio cyrraedd pwynt lle ceir ystod well o wasanaethau ar draws Gogledd Cymru a rheiny mor effeithiol a chynaliadwy a phosibl. Hefyd, noda’r adroddiad o safbwynt symud ymlaen lle mae'r Bwrdd Iechyd yn credu y bydd y Ganolfan Iechyd newydd yn eu galluogi i ddatblygu gwasanaethau newydd fel anelir ar draws Gogledd Cymru gyfan. Nid yw'r gwasanaethau newydd hyn yn seiliedig ar welyau, ond byddent yn effeithiol ac yn gynaliadwy o fewn y clinigau arfaethedig yn y Ganolfan Iechyd newydd. Un pwynt sylfaenol y mae'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd ei dderbyn ydoedd eu bod wedi gwneud rhai newidiadau gan roi yr argraff y byddai rhai pethau ar waith cyn gwneud y newidiadau hynny. Roedd hyn yn gamgymeriad ar ran y Bwrdd Iechyd ond wedi dweud hynny, roedd y Prif Weithredwr o'r farn bod y rhesymeg a sefydlwyd gan y  Bwrdd Iechyd yn gadarn ac mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda mewn mannau eraill. Gobeithir y bydd pobl yn gweld y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei ymrwymiadau a’r darlun mwy positif o symud ymlaen pan fydd y gwasanaethau newydd yn weithredol fel rhan o'r Ganolfan Iechyd.

 

          (ii)           Cyfeiriodd Ffion Johnstone, Cyfarwyddwr Ardal y Gorllewin, at y strwythur arfaethedig sef ceisio cael gofal yn agosach at gartrefi unigolion drwy greu hybiau cymunedol o fewn y cymunedau.   O ran cysondeb a diogelwch i’r claf ceisir cael yr un gwasanaethau iechyd o fewn yr un amseroedd agor yn yr hybiau cymunedol ac o fewn taith 40 munud mewn cerbyd i gleifion ar draws Gogledd Cymru.  Nodwyd bod gwasanaethau pelydr-x ynghyd â gwasanaethau mân-anafiadau ar gael o 9.00 a.m. tan 5.00 p.m. ddydd Llun i ddydd Gwener yn yr hybiau cymunedol.  O safbwynt Blaenau Ffestiniog, bwriedir sefydlu canolfan integredig iechyd a gofal a fydd yn cynnwys gwasanaethau iechyd, gofal ynghyd â’r trydydd sector. Nodwyd ymhellach y bwriedir cynnal clinigau newydd yn y Ganolfan megis y galon, ysgyfaint, ehangu gwasanaethau anableddau dysgu a gofal lliniarol.

 

(i)               O ran strategaeth yn y gymuned, adroddodd Dr Sion Jones, Ymgynghorwr yng ngofal yr henoed yn Ysbyty Gwynedd, ar y ffordd ymlaen i gynnig gwasanaeth mwy personol i unigoilion yn eu cartrefi.  Nododd bod eiddilwch a niferoedd pobl hŷn yn cynyddu mewn cymunedau ac yn aml nid oedd mynediad i ysbyty yn ddelfrydol i rai o’r unigolion. Ceisir datblygu gwasanaeth i ymdrin ag unrhyw argyfwng yn y gymuned a medru darganfod eiddilwch yn gynnar.  Cyfeirwyd at esiampl lwyddiannus o drefniadau sef Model MEC (Môn Enhanced Care) gyda thîm o arweinyddion meddygol yn cynnwys un Meddyg Teulu rhan-amser, 2 nyrs ynghyd â chynorthwyddion gofal iechyd a oedd wedi gweld oddeutu 250 o gleifion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu Gofal holi cwestiynau i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd ac i dderbyn ymateb.

Cofnod:

Rhoddwyd cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu holi cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd. 

 

         

(i)               Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â chysondeb y ddarpariaeth ar draws Gwynedd ac a oedd  tystiolaeth i gyfiawnhau hyn, nododd Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd bod hyn yn anodd i’w ateb.  Esboniodd bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio gosod y canolfannau Cymunedol er mwyn i bobl allu cael mynediad i gyfleusterau o fewn 40 munud o amser teithio. Mae'n anodd cymharu, ond ar yr adeg, gwnaed  y penderfyniad o ran lleoliad y canolfannau cymunedol gan y Bwrdd Iechyd yn seiliedig ar ddwysedd poblogaeth a'r dalgylch. Nodwyd ymhellach, o ran cofnod, y dylai'r Bwrdd Iechyd feddu ar y data gweithgaredd.

 

 

(ii)              Cyfeiriwyd at sylw wnaed mai dim ond 2 glaf ar gyfartaledd a fynychwyd Uned Man Anafiadau Ysbyty Alltwen a gofynnwyd faint o gleifion sydd yn mynd i Ysbyty Gwynedd Bangor.  Mewn ymateb, nodwyd ar gyfartaledd bod oddeutu 5% o’r Gorllewin yn cael eu cyfeirio i Ysbyty Gwynedd.  Ychwanegwyd bod Metron Ysbyty Alltwen ar hyn o bryd yn tynnu allan  criteria ar gyfer ymweliadau i’r Uned Man-anafiadau ac yn edrych ar fodd i’r gwasanaeth allan o oriau gydweithio gyda’r Uned Man-anafiadau.

 

 

(iii)             Gofynnwyd faint o hir ar gyfartaledd mae unigolion yn aros mewn ysbytai cymunedol.  Mewn ymateb, ar gyfartaledd nodwyd mai 26.2 diwrnod yw’r arhosiad yn Ysbyty Alltwen a rhestrwyd y ffigyrau isod dros gyfnod o bedair blynedd:

                           2013/14     -      29.5

                           2014/15     -      24.3

2015/16     -      21.3

2016/17     -      31.8

 

 

(iv)             O ystyried poblogrwydd Blaenau Ffestiniog erbyn hyn gydag ymwelwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored sydd ar gael yn yr ardal byddai’n synhwyrol  i gael unedau  pelydr-x ac mân-anafiadau ym Mlaenau. 

 

  

Mewn ymateb, nodwyd ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad ynglŷn â lleoliadau’r canolfannau, ystyriwyd lefel y gweithgaredd sy'n mynd drwy'r adran fân anafiadau bryd hynny. Tra’n cydnabod bod pethau wedi datblygu ac efallai bod mwy o alw ond bod y gwasanaeth man-anafiadau ar gael yn Ysbyty Alltwen. Fodd bynnag, o ran arfer gorau cyfredol wrth ymdrin ag anafiadau pen, anafiadau soced llygaid, mae'r rhain wedi newid dros y blynyddoedd, ac felly fe'u cyfeirir at adran damwain ac argyfwng mwy. Mae model gwasanaeth y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn nodi y byddai cleifion yn mynd i Ysbyty Alltwen ac yna ymlaen i Fangor, os oes angen.

 

 

(v)              Gofynnwyd a yw trigolion ardal Ysbyty Alltwen yn cael eu hamddifadu o welyau yn yr Ysbyty o ystyried bod trigolion ardal Blaenau Ffestiniog yn cael eu cyfeirio yno?  Mewn ymateb, cadarnhawyd bod 6 gwely ychwanegol ar gael yn Ysbyty Alltwen ar gyfer y galw.

 

 

(vi)             Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â dyfodol ysbytai cymunedol, nodwyd mai’r bwriad ydoedd cael hybiau integredig a chydweithio gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac eraill megis y trydydd sector, a chanolbwyntio ar ofal yn y cartref.  

 

(vii)            Gofynnwyd faint o straen sydd ar Ysbyty Gwynedd yn nhermau rhyddhau gwelyau lle gwelir y gall ambell glaf  fod yn mynd yn nes at gartref.  Cadarnhawyd bod cydweithio gyda Ysbyty Gwynedd i dynnu cleifion allan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Croesawu a gwahodd cynrychiolwyr o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog i gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ynglyn â darpariaeth iechyd ym Mlaenau Ffestiniog. pdf eicon PDF 345 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(i)               Cymerodd y Cynghorydd Glyn Daniels y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Craffu Gofal, ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog a thrigolion y Blaenau am gael y cyfle i gyflwyno eu tystiolaeth dros gael cyfleusterau iechyd yn ôl ym Mlaenau Ffestinog.

 

(ii)              Ar ran Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, tywysodd Mr Geraint Vaughan Jones,  ar ffurf sleidiau, yr Aelodau at gefndir a thystiolaeth o sut y penderfynwyd i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog.  Tynnwyd sylw at y cyfrifoldeb ychwanegol sydd ar Gyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd o dan Ddeddf Llesiant a Gofal Cymdeithasol 2014  i roi ystyriaeth difrifol i’r llanast a greuwyd gan y Bwrdd Iechyd dros y 5 mlynedd diwethaf o ganlyniad i’r penderfyniad hwnnw. 

 

Gwnaed penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd yn 2008 i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog ac i adeiladu adeilad newydd a fyddai’n cynnig gwasanaeth llai effeithiol na’r hyn roedd gan drigolion Blaenau Ffestiniog a’r cylch ynghynt, a llai na’r hyn sydd yn cael ei gynnig mewn pentrefi dipyn llai na’r Blaenau a hynny o fewn Meirionnydd ei hun.

 

Pwysleiswyd na all trigolion Blaenau Ffestiniog anghofio’r gorffennol pan benderfynwyd i gau’r Ysbyty Coffa a hynny er mwyn arbed arian.

 

Aethpwyd ymlaen i esbonio cyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddod i rym roedd Ysbyty Coffa Ffestiniog yn un o’r ysbytai gorau ac yn ysbyty coffa i 353 o hogiau ifanc a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr.  Yn 2012 roedd yna 12 o welyau mewn defnydd rheolaidd, staff nyrsio profiadol, practis meddygon sefydlog hefo 4 meddyg, meddygfeydd dwy/dair gwaith yr wythnos yn Llan Ffestiniog a Dolwyddelan; clinig ffisiotherapi, uned pelydr-x a oedd mewn defnydd rheolaidd gan y meddygon a’r cyfan ar gost o £800,000 y flwyddyn.

 

Pan bleidleisiodd y Bwrdd Iechyd yn 2013 i gau’r Ysbyty Coffa diflannodd y gwasanaethau amlinellir uchod i gyd dros nos hyd yn oed y gwasanaeth meddygon dibynadwy oedd ar gael ynghynt a hynny er gwaethaf pob protest a deiseb leol.  Erbyn heddiw, nodwyd bod practis meddygol Blaenau Ffestiniog yn ddibynnol ar “locums” sydd prin yn adnabod eu cleifion, ac ambell ddiwrnod dim ond un “locum” sydd ar gael.  ‘Roedd yn amlwg o benderfyniad y Bwrdd Iechyd nad oedd trigolion Blaenau yn haeddu yr un gwasanaeth a threfi eraill Meirionnydd, a theimlwyd yn gryf bod anffafriaeth yn erbyn ardal Blaenau Ffestiniog. 

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Prif Weinidog wedi datgan yn 2012 na fyddai ‘run ysbyty dan fygythiad i gau ond eto i gyd fe gynhyrchodd y Bwrdd Iechyd y strwythur arfaethedig uwchlaw yr hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog. 

 

Drwy greu yr ardaloedd llesiant yn unol á’r Ddeddf, bwriad y Bwrdd Iechyd ydoedd creu ysbyty canolbwynt yn Nolgellau, cadw a gwella Ysbyty Coffa Tywyn, adeiladu Ysbyty Alltwen i gymryd lle Ysbyty Penrhyndeudraeth, cadw Ysbyty Bryn beryl, cadw Ysbyty Gwynedd Bangor. Ond yng nghyd-destun Ucheldir Cymru, y penderfyniad ydoedd cau Ysbyty Coffa Ffestiniog a gwneud i ffwrdd a gwasanaeth Mán Anafiadau, Uned Pelydr-x, dwy feddygfa, a phwysleisiwyd wrth y Pwyllgor Craffu mai dyma yr unig ardal yng  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu Gofal holi cwestiynau i gynrychiolwyr y Pwyllgor Amddiffyn ac i dderbyn ymateb.

Cofnod:

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal ofyn cwestiynau i gynrychiolwyr y Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

 

(i)               Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â thystiolaethu bod pobl Blaenau angen gwelyau ysbyty cymunedol uwchben yr hyn sydd ar gael yn Ysbyty Alltwen, nododd Dr Walt Evans, Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, bod llawer iawn o unigolion yn Ysbyty Gwynedd yn aros am le yn Ysbyty Alltwen.  Ychwanegodd nad oedd hyn yn digwydd pan oedd Ysbyty Goffa Ffestiniog yn weithredol.  Yn ogystal roedd tystiolaeth bod amryw o unigolion yn cael eu hanfon i ysbytai eraill megis Dolgellau, Eryri, Bryn Beryl sydd yn golygu milltiroedd o deithio i’w teulu i’w gweld.  

 

Yn ychwanegol cyfeiriwyd at niferoedd  o unigolion o gylch Blaenau Ffestiniog a oedd mewn ysbytai / cartrefi yn Llandudno, Pentrefoelas, Llanrwst, Porthmadog, Pentrefelin ac un wedi ei hanfon, oherwydd prinder gwelyau, i Dywyn, a  bod y daith mewn bws i’w theulu yn eu gwneud yn amhosib i fynd i’w gweld. 

 

 

(ii)           Gofynnwyd pa dystiolaeth bod ardaloedd eraill yng Ngwynedd yn derbyn gwasanaeth gwell na Blaenau.

 

Ymatebodd Dr Walt Evans drwy nodi bod pob tref hefo ysbytai cymunedol a bod gwir angen ysbyty yn Blaenau, gwasanaeth pelydr-x ac uned man anafiadau.  Nodwyd bod y sefyllfa yn ddyrys iawn yn Blaenau gyda llawer o gwynion fel y gwelir o’r deisebau.  Cyfeiriwyd at restr o’r clinigau a gynigir gan y Bwrdd Iechyd i’r Ganolfan arfaethedig, ond nad oedd y clinigau hyn yn arbennig oherwydd eu bod  i fod ar gael mewn unrhyw ardal llesiant.  Yn hyn o beth felly, pa fath o ardal llesiant fyddai Blaenau Ffestiniog.

 

Cwestiynwyd sut y gellir cynnal clinig rhiwmatoleg heb gynnal uned pelydr-x. 

 

(iii)             Gofynnwyd a oedd tystiolaeth bod unrhyw unigolyn sydd wedi derbyn gwasanaeth yn Ysbyty Alltwen yn anhapus hefo’r gwasanaeth?

 

Ymatebodd aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn drwy gyfeirio at brofiad personol lleroedd wedi gorfod chwilio am gartref nyrsio i’w mam a phe na fyddai wedi gwneud hynny byddai ei mam wedi gorfod mynd i gartref milltiroedd i ffwrdd neu hyd yn oed yn Lloegr.  Cyfeiriodd ymhellach at brofiad arall personol lle gwnaed camgymeriad yng nghofnodion y claf a phan ffoniwyd Ysbyty Gwynedd Bangor i gwyno dywedwyd mai Adran Pryderon oedd ar gael ac nid Adran Gwynion.

 

(iv)             Mewn ymateb i ymholiad o faint o lythyrau oedd heb dderbyn sylw gan y Bwrdd Iechyd, nodwyd mai cyfran fechan iawn oedd yn y pecyn a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Gofal a bod sawl llythyr heb ei gydnabod na derbyn ymateb.

 

(v)              Gofynnwyd pa bellter sy’n rhesymol i bobl deithio i ysbyty, nododd Mr Geraint Vaughan Jones y byddai’n ofynnol i bobl Dolwyddelan deithio 20 milltir i ysbyty a bod y Bwrdd Iechyd yn crybwyll taith o 40 munud sydd ddim yn berthnasol gan unrhyw Fwrdd Iechyd arall – 30 munud yw’r pellter teithio yn genedlaethol.

 

(vi)             Gofynnwyd a ydych yn ymwybodol o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu ofyn unrhyw gwestiynau ychwanegol i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a'r Pwyllgor Amddiffyn.

9.

TRAFODAETH

Trafodaeth gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal a swyddogion y Cyngor yn deillio o’r cyflwyniadau uchod.

 

 

Cofnod:

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymysg Aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal yn unig, amlygwyd y sylwadau canlynol:

 

(i)            Pryder ynglyn ag anawsterau teithio i Ysbyty Alltwen i gleifion a theuluoedd

 

(ii)           O’r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Amddiffyn bod angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr adolygu’r materion canlynol:    

 

·         Diffyg ymgynghori a chyfathrebu gyda thrigolion lleol a chael ffeithiau cywir oherwydd bod gwersi i’w dysgu o’r adolygiad diwethaf

·         Poblogrwydd gweithgareddau awyr agored a thwristiaeth ym Mlaenau Ffestiniog a’r posiblrwydd felly o gynnydd am wasanaethau pelydr-x a mán anafiadau

·         Cynnal adolygiad arall annibynnol gan bod yr un diwethaf bellach yn hanesyddol ac felly bod cyfle euraidd i newid y penderfyniad i gael gwelyau preswyl i gleifion yn ól / uned peldyr-x a gwasanaeth man-anafiadau sydd ei wir angen ym Mlaenau Ffestiniog

·         Anawsterau o safbwynt gofal cartref i gleifion ym Mlaenau Ffestiniog oherwydd bod llawer o’r tai yn anaddas i fedru cymryd gwelyau ysbyty 

·         Ystyried darpariaeth tai gofal ychwanegol

 

(iii)          Tra’n cydymdeimlo gyda thrigolion Blaenau Ffestiniog o golli adnodd teimlwyd rhaid bod yn realistig a bod y gwasanaeth yn gynaliadwy, diogel ac ‘run fath i weddill y Sir.

 

(iv)          Rhaid cymryd i ystyriaeth o’r 10 canolfannau gwasanaeth a weithredir bod 3 ohonynt yn Wynedd sef 30% ac efallai y byddai dadlau am bedwerydd i’w lleoli ym Mlaenau Ffestiniog yn anodd

          

            Mewn ymateb i’r sylwadau uchod:

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

 

·         tra’n derbyn y sylwadau uchod, y byddai modd gofyn i’r Bwrdd Iechyd monitro a chasglu tystiolaeth yn rheolaidd i weld pa effaith mae’r newidiadau yn gael ar drigolion Blaenau Ffestiniog er ystyriaeth pellach gan y Pwyllgor Craffu Gofal ar ôl i’r Ganolfan Goffa agor ym mis Hydref eleni.  Drwy wneud adolygiad byddai modd cymharu’r gwasanaeth yn ardal Blaenau Ffestiniog o’i gymharu a gweddill y Sir.

·         O safbwynt diffyg recriwtio staff, cydnabuwyd bod anawsterau yn Wynedd ac yn benodol ardaloedd gwledig ac y byddai’n ddefnyddiol comisiynu darn o waith ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd i geisio cyfarch y broblem

 

 

Nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

 

·         bod rhai pryderon wedi eu lleisio yn y gorffennol ynglyn a gwasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus o arfordir Meirionnydd a pha mor hwylus ydoedd cyrraedd Ysbyty Alltwen ac fe wnaed arolwg bryd hynny.  Yn deillio o hyn fe wnaed addasiadau i amserlenni bysiau a sicrhau bod bysiau yn troi fyny i Ysbyty Alltwen ond efallai ei fod yn amserol i ofyn i’r Aelod Cabinet Gofal ac Aelod Cabinet Amgylchedd i gomisiynu gwaith er mwyn ail-edrych ar y ddarpariaeth.   

·         O safbwynt tai gofal ychwanegol bod symposiwm i’w gynnal ar 13 Hydref gyda Adran Tai y Cyngor / Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Cynefin i drafod y mater hwn ac y byddai’n fuddiol rhoi gwahoddiad i gynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod yn rhan o’r trafodaethau yn ogystal

·         Er gwybodaeth, bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn comisiynu gwaith ar safleoedd preswyl / nyrsio a bod Cartref Preswyl Bryn Blodau, Llan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ARGYMHELLION

Llunio argymhellion drafft gyda chefnogaeth y swyddogion i’w gyflwyno, pe byddai angen,  er ystyriaeth y Pwyllgor Craffu Gofal yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2017.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:            (a)  Derbyn, nodi a diolch i’r Bwrdd Iechyd a’r Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog am eu cyflwyniadau.

 

                                       (b)       Cytuno ar yr argymhellion isod, ond bod union eiriad terfynol yr argymhellion yn cael ei gyflwyno ar gyfer  cytundeb terfynol y Pwyllgor Craffu Gofal yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2017:

 

(i)               Bod y Pwyllgor Craffu Gofal yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i rannu’r holl wybodaeth gefndir fu’n rhan o’r penderfyniad gwreiddiol i newid darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

(ii)             Bod y Pwyllgor Craffu yn galw ar  Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fonitro gwybodaeth a data mewn perthynas ag effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd cyfredol yn ardal Blaenau Ffestiniog a llesiant ei thrigolion yn rheolaidd ac i ymrwymo i addasu/newid y ddarpariaeth os oes tystiolaeth i gyfiawnhau hynny. Mae’r Pwyllgor o’r farn y byddai’n fuddiol pe byddai’r gwaith yma’n cael ei wneud gan asiantaeth annibynnol neu o leiaf yn cael ei gadarnhau gan asiantaeth annibynnol a bod yr wybodaeth yn cael ei chyflwyno i sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal ymhen amser rhesymol.

(iii)            Yn deillio o’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Blaenau Ffestiniog am ddiffyg ymateb i ddeisebau a gohebiaeth yn y gorffennol, bod y Bwrdd yn rhoi ystyriaeth fanwl i ddiffygion ymgysylltu ac ymgynghori yn y gorffennol er mwyn gwella’u trefniadau ar gyfer y dyfodol. Anogir y Bwrdd Iechyd i gyfathrebu’n rheolaidd ac effeithiol gyda thrigolion ardal Blaenau Ffestiniog mewn perthynas â darpariaeth cyfleusterau a gwasanaethau iechyd lleol.

(iv)            Gofynnir i’r Aelod Cabinet Amgylchedd a’r Aelod Cabinet Gofal gomisiynu asesiad o hwylustod a hygyrchedd gwasanaethau iechyd trwy gludiant cyhoeddus a chymunedol o fewn dalgylch Ysbyty Alltwen. Tra byddai’r flaenoriaeth i’w roi ar y dalgylch yma, wedi ei gwblhau, gellir ystyried os oes budd i gynnal asesiadau tebyg mewn ardaloedd eraill.

(v)             Bod yr angen am gartrefi addas ar gyfer pobl hŷn yn cynnwys y ddarpariaeth o dai gofal ychwanegol yn ardal Blaenau Ffestiniog yn cael ei wyntyllu’n llawn ar y cyd gan yr Aelod Cabinet Gofal, Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant a’r Bwrdd Iechyd ynghyd â Phartneriaeth Tai Gwynedd.

(vi)            Bod y Pwyllgor Craffu yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd i gydweithio’n agos a chymryd camau ymarferol priodol i recriwtio staff gofal ac iechyd fel bod timau llawn yn eu lle i gynnal gwasanaethau yn ardal Blaenau Ffestiniog ac ar draws y Sir.