skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Annwen Daniels, Anwen Davies, R.Medwyn Hughes, Linda Ann Jones, Rheinallt Puw a Catrin Wager.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Nodi unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Elin Walker Jones fuddiant personol yn Eitem 4 (Arolygiad o Wasanaethau Plant Cyngor Gwynedd) ac Eitem 5 (Adroddiad Blynyddol ar Ymdrin â Chwynion a Cheisiadau Gwybodaeth yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd 2017/18) oherwydd ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bod pennaeth ei gwasanaeth yn gweithio i Derwen. 

 

Nid oedd o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw faterion sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

AROLYGIAD O WASANAETHAU PLANT CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 24 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Sharon Eastlake, Prif Arolygydd y Tîm Arolygu i’r cyfarfod i gyflwyno’r Arolygiad o Wasanaethau Plant Cyngor Gwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi mai cyflwyno adroddiad yr arolygiad i’r pwyllgor hwn oedd cam olaf y broses o arolygu gwasanaethau plant y Cyngor.  Pwysleisiodd ei fod yn ymfalchïo’n fawr yn y negeseuon cadarnhaol o’r adroddiad a diolchodd i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu mewnbwn i’r arolwg.

 

Rhoddwyd trosolwg o ganfyddiadau’r arolwg a’r meysydd i’w datblygu gan y Prif Arolygydd ac ymhelaethodd y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ar y gwaith oedd eisoes ar droed i ymateb i argymhellion yr adroddiad, gan nodi:-

 

·         Bod yr Adran wedi cymryd sylw manwl o’r materion yn yr adroddiad sy’n cyfeirio at feysydd i’w datblygu, ac yn hytrach na datblygu rhaglen wella, bod gan yr Adran Raglen Uchelgais, gan mai cryfhau materion sydd eisoes angen adeiladu arnynt sydd angen ei wneud.

·         Yn hytrach nag aros nes cyhoeddi’r adroddiad terfynol yn Awst, y cychwynnwyd ar unwaith ar y gwaith o edrych yn fanwl ar y meysydd i’w datblygu yn sgil derbyn adborth llafar gan yr arolygwyr ar ddiwrnod olaf yr arolygiad ym mis Mai.

·         Bod Tîm Rheoli’r Adran yn trafod y trefniadau sicrhau ansawdd a’r trefniadau monitro cynnydd ymhob cyfarfod a bod trafodaethau’n digwydd yn y cyfarfodydd herio perfformiad hefyd.

·         Y byddai’r Arolygiaeth yn cadw llygaid agos hefyd a bod cyfrifoldeb ar yr Adran i adrodd ar gynnydd yn y cyfarfodydd dwywaith y flwyddyn gyda’r Arolygiaeth.

·         Bod datblygiad y Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ers yr adolygiad yn cynnwys:-

Ø  Gwneud gwaith gyda’n partneriaid i dynnu sylw at y gwasanaethau sydd ar gael.

Ø  Ychwanegu at y strwythur o fewn y tîm fel bod un drws ffrynt ar gyfer y gwasanaeth statudol, ond hefyd ar gyfer y gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol.  Hefyd, roedd y gwasanaeth gwybodaeth teuluol yn eistedd o fewn y gwasanaeth hwnnw erbyn hyn.

Ø  Datblygu gwybodaeth ar gyfer y we fel y gellir hysbysebu beth sydd ar gael i deuluoedd ac unigolion fydd angen cymorth.

Ø  Ail-frandio’r gwasanaeth fel ‘Hwb Teulu Gwynedd’, a dyma’r porth cyfeirio i mewn i’r gwasanaeth bellach.

·         Bod y strategaeth cefnogi teuluoedd yn flaenoriaeth o dan Gynllun Strategol y Cyngor.  Adroddwyd i’r Tim Arweinyddiaeth a’r Cabinet o ran y cyfeiriad a chafwyd adnodd ychwanegol ar lefel uwch reolwr i ddatblygu ac i arwain y strategaeth cefnogi teuluoedd fel mater o flaenoriaeth i’r Adran ac ar draws y gorfforaeth.

·         O ran adolygu cynlluniau gofal ar gyfer plant mewn gofal, bod angen edrych ar sut i wella’r canlyniad i’r plentyn a bod y Tîm Swyddogion Adolygu Annibynnol, o dan arweiniad yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd, yn datblygu eu rhaglen waith eu hunain fydd yn plethu i mewn i’r Rhaglen Uchelgais hon.

·         Bod diffyg a phrinder lleoliadau maeth addas yn her genedlaethol, ac nid yn unig ar gyfer y plant hynny sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth.  Gwelwyd pwysau hynny’n gynyddol ar y Tim Maethu a gwelwyd cynnydd yn niferoedd y plant mewn gofal a’r plant sy’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YMDRIN A CHWYNION A CHEISIADAU GWYBODAETH YR ADRAN PLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD 2017-18 pdf eicon PDF 565 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

I dderbyn adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet yn darparu gwybodaeth ar niferoedd y cwynion a dderbyniwyd gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ystod y flwyddyn a’r rhesymau drostynt ynghyd â datrysiadau.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys crynodeb o’r gwersi a ddysgwyd a’r camau a gymerwyd o ran y cwynion a dderbyniwyd ynghyd â manylion am y niferoedd o geisiadau gwybodaeth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi bod yr adroddiad blynyddol statudol hwn yn adroddiad cadarnhaol.  Eglurodd, oherwydd natur gwaith dydd i ddydd y gweithwyr, sy’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, ei bod yn anorfod bod yna densiynau, ond mai lles a diogelwch y person ifanc yw’r ystyriaeth bennaf.  Ychwanegodd nad oedd yr Arolygiaeth wedi codi unrhyw bryderon am drefn gwynion y Cyngor a chyfeiriodd at y sylwadau cadarnhaol a restrwyd ar gefn yr adroddiad gan unigolion ac asiantaethau sy’n bartneriaid i’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd at rai o’r prif faterion yn yr adroddiad ac ymatebodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd i gwestiynau / sylwadau cyffredinol gan yr aelodau ynglŷn â’r drefn.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r gallu i baratoi gwybodaeth byr rybudd ar gyfer achosion llys mewn achos o salwch / gwyliau’r swyddog perthnasol, eglurwyd nad oedd y gwasanaeth wedi wynebu’r sefyllfa honno hyd yma, ond bod gan yr Adran unigolion eraill sy’n gallu gwneud rhai rhannau o’r gwaith.  Pwysleisiwyd ei fod yn waith manwl sy’n rhaid ei wneud yn ofalus iawn ac efallai y byddai’n rhaid dweud wrth y llys mewn rhai sefyllfaoedd nad yw’n ymarferol bosib’ cyflawni’r gwaith o fewn yr amserlen.

·         Holwyd faint o deuluoedd sy’n gleientiaid i’r gwasanaeth fel y gellid amcangyfrif pa ganran sy’n cyflwyno cŵyn am y gwasanaeth.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad yn perthyn yn bennaf o ran yr hanes i’r cyfnod pan roedd yna tua 600 - 700 o achosion, yn cynnwys plant mewn gofal, plant mewn angen a phlant sydd angen eu cefnogi, ond bod yr agenda ataliol wedi ymestyn y nifer hynny’n sylweddol erbyn hyn.  Gan hynny, roedd yn anodd mesur ar hyn o bryd a oedd lefelau cwynion ar gynnydd ai peidio.  Nodwyd hefyd ei bod yn anodd adnabod tueddiadau gan fod y materion sy’n codi yn arbenigol iawn ac yn unigryw i amgylchiadau’r teuluoedd unigol.

·         Holwyd pryd y credid ei bod yn addas i ddod â phryder i sylw’r pwyllgor craffu.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad blynyddol yn gynnyrch pedwar adroddiad chwarterol, sy’n cael eu cynhyrchu fel rhan o drefniadau monitro’r gwasanaeth er mwyn gweld a oes unrhyw dueddiadau yn dod i’r amlwg.  Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw fater o bryder wedi codi yn yr achos hwn.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet fod yr Arolygiaeth yn cadw golwg manwl ar y cwynion a’r rhesymau drostynt a’i fod yntau hefyd yn derbyn adroddiadau cyson.  Ar hyn o bryd, roedd yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.