skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen Davies ac R.Medwyn Hughes. 

Y Cynghorydd Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai ac Eiddo)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 7 - Prosiect Gofal Cartref - am y rhesymau a nodir isod:-

 

·         Y Cadeirydd, Y Cynghorydd Dewi Roberts, oherwydd bod ei wraig yn gweithio yn y maes gofal cartref yn ardal Dwyfor.

·         Y Cynghorydd Eryl Jones-Williams oherwydd bod ei wraig yn derbyn gofal cartref.

·         Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd bod ei thad yn derbyn gofal cartref.

·         Y Cynghorydd Gareth T.M.Jones oherwydd bod ei fam yn derbyn gofal cartref.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.  Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 68 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

ARBEDION 2020/21 pdf eicon PDF 63 KB

Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Craig ag Iago, Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Aelod Cabinet Tai ac Eiddo yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion arbedion yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Tai ac Eiddo i ddygymod gyda’u cyfran o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21, ac ystyried beth fyddai hynny, neu’r opsiynau amgen, yn ei olygu.

 

Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r penaethiaid ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Arbedion Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd pryder gan nifer o aelodau y byddai’r toriad o £30,000 i Cymorth i Ferched yn arwain at fwy o gostau i’r Cyngor yn y pen draw a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwneud asesiad llawn o’r ardrawiad posib’ ar y Cyngor.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod y cynlluniau hanesyddol yn uchelgeisiol iawn.  Manylodd ar yr elfen a wireddwyd eisoes gan nodi bod tasglu wedi’i sefydlu i edrych oedd modd canfod gweddill yr arbedion yn rhywle arall.  Nid oedd llawer o fanylder ar hynny ar gael eto, ond nododd y gallai ddod ag adroddiad yn ôl i’r pwyllgor maes o law.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr y gellid dod ag adroddiad y tasglu yn ôl i’r aelodau arsylwi arno, ond gan fod y Cabinet angen gwneud penderfyniad yn eithaf sydyn ar y cynigion arbedion, roedd amser yn brin.

 

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

·         Mynegwyd pryder yn gyffredinol ynglŷn ag effaith y cynigion arbedion ar drigolion bregus y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd monitro’r effaith.

·         Mynegodd nifer o aelodau bryder neilltuol ynglŷn â’r cynnig i dorri dwy swydd Gweithiwr Cefnogol Iechyd Meddwl (£42,000) ar sail y galw cynyddol am y gwasanaeth yn sgil y cynnydd mawr mewn problemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.  Awgrymwyd bod angen mwy, nid llai o weithwyr, ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor yn y pen draw.  Nodwyd hefyd bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd, ac y dylai’r gwasanaeth gael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd.  Fodd bynnag, roedd y gwaith yn cael ei basio ymlaen i’r cynghorau, heb adnoddau digonol ar ei gyfer. 

·         Mynegwyd pryder neilltuol gan nifer o aelodau ynglŷn â’r cynnig i leihau’r gyllideb ar gyfer cefnogi gofalwyr, yn cynnwys rhai cynlluniau ysbaid (£19,000).  Pwysleisiwyd y byddai’r straen ar y teuluoedd a effeithid yn ddychrynllyd ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor yn y pen draw.

 

Ar nodyn cyffredinol, holwyd a oedd y Bwrdd Iechyd yn cyfrannu fel y dylent, e.e. roedd y gost o ofalu am bobl fregus sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn disgyn ar y Cyngor.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fod yna berthynas dda rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor, gan gydnabod hefyd bod yna rai heriau, ond roedd o’r farn bod y sylw’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YMDRIN Â CHWYNION GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2018-2019

Dogfennau ychwanegol:

7.

Adroddiad Blynyddol ar ymdrin â chwynion a cheisiadau gwybodaeth gan yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ar gyfer 2018 - 19 pdf eicon PDF 324 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn rhoi trosolwg o’r cwynion a’r ceisiadau gwybodaeth a datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith caled y staff a nodwyd ei bod yn galonogol gweld bod cyn lleied o gwynion wedi’u cyflwyno a chyn lleied o’r cwynion hynny wedi mynd ymlaen i Gam 2.

 

Nodwyd, er bod yr wybodaeth hanesyddol yn gynwysedig yn yr adroddiad, y byddai’n fuddiol gweld y ffigurau ar ffurf tabl, er mwyn gweld yn glir oes patrwm wedi datblygu.

 

Gan gyfeirio at gŵyn GC/3257-15 yn Atodiad 3 i’r adroddiad, ac yn benodol farn gref yr Ombwdsmon y dylai hyfforddiant ar awtistiaeth fod ar gael i bawb o fewn yr Adran, ac nid i staff Derwen yn unig, holwyd a fu unrhyw ddatblygiad pellach ar hynny.  Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu ac Ansawdd:-

 

·         Yn ychwanegol i’r cwestiwn o hyfforddiant, bod cwestiwn ynglŷn â gallu’r gweithwyr cymdeithasol i ymdopi â sefyllfaoedd lle mae yna elfennau hynod o arbenigol o fewn asesiadau.

·         Bod gwasanaeth newydd yn ei le erbyn hyn ar lefel Gogledd Cymru a threfniant yn ei le fel bod timau o fewn gwasanaethau plant yn gallu cael esboniad o’r hyn y gellir ei gynnig yn ychwanegol i’r hyn oedd yn bodoli yn flaenorol.

·         Bod plethiad rhwng hyn â phethau megis canllawiau mynediad i wasanaeth Derwen, ac ydi rhywun sydd ag awtistiaeth ac sydd â gallu ac yn gallu gweithredu’n annibynnol yn cael ei ystyried yn anabl, ayb.

·         Gan hynny, roedd yna lawer o gymhlethdod yn yr achos hwn rhwng y cyngor cyfreithiol a roddwyd, yr hyn mae’r ddeddf yn ddweud a’r hyn mae’r Ombwdsmon wedi dyfarnu ynghylch sut ddylai hynny gael ei ystyried.

·         Yn dilyn her ddiweddaraf yr Ombwdsmon, y comisiynwyd arbenigwr ym maes awtistiaeth i roi cymorth pellach i’r Cyngor i sicrhau bod y trefniadau’n gryfach i’r dyfodol. 

·         Gan fod yna lobi gref ar gyfer y math yma o wasanaethau arbenigedd, bod cryn bwysau ar y Cyngor i fedru asesu yn unol â’i ddyletswyddau, ond y credid bod y plethiad newydd gyda gwasanaeth y Gogledd o gymorth i atgyfnerthu hynny.

·         Y rhoddwyd ymateb i’r Ombwdsmon ar hynny a bod yna drafodaeth bellach rhwng y Cyngor a’r Ombwdsmon ynglŷn ag i ba raddau mae’r Ombwdsmon yn fodlon gyda’r camau mae’r Cyngor wedi rhoi mewn lle erbyn hyn.

 

Nododd yr Aelod Cabinet na ddymunai i’r pwyllgor fynd i ormod o drafodaeth ar y mater hwn gan fod yr achos yn un byw ac yn cyfeirio at unigolyn.  Eglurodd nad oedd gan y Cyngor lawer o brofiad o ddelio gyda’r Ombwdsmon, gan mai un achos yn unig a welwyd mewn sawl blwyddyn, ac awgrymodd y gallai’r Prif Weithredwr ymhelaethu ar lle mae’r Cyngor wedi cyrraedd o ran ymateb a datblygu’r berthynas gyda’r Ombwdsmon.

 

Nododd y Prif Weithredwr:-

 

·         Y bu hwn yn achos anodd dros ben, a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Blynyddol Cwynion ac Ymholiadau Oedolion Iechyd a Llesiant 2018-19 pdf eicon PDF 855 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn rhoi trosolwg o’r cwynion, ymholiadau a datganiadau o werthfawrogiad a dderbyniwyd yn ystod 2018/19.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Llongyfarchwyd yr Adran ar y lleihad yn nifer y cwynion a mynegwyd gwerthfawrogiad y pwyllgor o waith caled y staff.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

PROSIECT GOFAL CARTREF pdf eicon PDF 53 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-gadeirydd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem hon, oherwydd buddiant y Cadeirydd yn y mater dan sylw.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant yn rhoi diweddariad cryno o’r gwaith oedd yn digwydd i sicrhau model newydd ar gyfer darpariaeth gofal cartref yng Ngwynedd.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Nodwyd bod y model newydd hwn ar gyfer darpariaeth gofal cartref yn gosod Gwynedd ar flaen y gad.

·         Croesawyd y pwyslais ar gyfathrebu gyda’r gweithwyr.

·         Croesawyd y cydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i gyflwyno’r achos busnes i’r Pwyllgor Cyllid a Chynllunio, a mynegwyd gobaith y byddai cyd-gomisiynu’n digwydd, gan y byddai hynny’n dod â buddion i’r ddau bartner. 

·         Nodwyd ei bod yn galonogol clywed, petai rhai darparwyr yn tynnu allan / ddim yn cyrraedd y gofynion, bod gan y Cyngor ddarparwyr mewnol o faint sylweddol fyddai’n gallu cyflogi’r staff.

 

Nodwyd y byddai’r pwyllgor yn derbyn gwybodaeth bellach wrth i’r gwaith symud yn ei flaen ac y byddai angen trafod gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd hefyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.