skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Yn Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Angela Russell (Is-gadeirydd), Annwen Daniels ac Anwen J. Davies.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na gollyngiadau perthnasol.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

Hoffai’r Cadeirydd ddiolch i’r Cynghorydd Cai Larsen am ei wasanaeth ar y Pwyllgor hwn ac estyn croeso nôl i’r Cynghorydd Dewi Roberts.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 231 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2022 fel rhai cywir.

 

5.

GWASANAETH IECHYD MEDDWL GWYNEDD pdf eicon PDF 297 KB

I ddarparu trosolwg o waith Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gwynedd a’r datblygiadau ar gyfer 2022-23.

 

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu trosolwg o waith y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r datblygiadau ar gyfer 2022-23.

b)    Gofyn am adroddiad arall ymhen 3-4 mis ar ganfyddiadau'r gwaith ymchwil ‘Prosiect Iechyd Meddwl’ fydd wedi ei gynnal.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad i aelodau o waith y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r datblygiadau ar gyfer 2022-23. Nodwyd fod y Gwasanaeth yn un aml ddisgyblaethol a thraws adrannol. Ychwanegwyd mai’r Bwrdd Iechyd sydd yn arwain y Gwasanaeth a’i bod yn bartneriaeth gadarn a datblygiadol.

 

Ymhelaethwyd fod y gwasanaeth yn gweithio efo unigolion dros ddeunaw oed. Mae’r mwyafrif o’r unigolion hefo capasiti ac yn derbyn y gwasanaeth yn ddewisol. Adroddwyd ar y Prosiect Iechyd Meddwl sydd yn un o’r cynlluniau datblygol ar raglen waith y gwasanaeth. Nodwyd fod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi comisiynu ymgynghorydd i ymgymryd â’r gwaith o graffu’r adnoddau a’r gwasanaeth o fewn y ddarpariaeth gynradd. Gobeithir y bydd cynlluniau a chynigion yn deillio o’r gwaith hwn a gobeithir gallu dod â’r argymhellion hynny ger bron y Pwyllgor Craffu Gofal yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Pryderwyd sut mae unigolion yn cael mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl; adroddwyd ar un achos ble nad oedd cyfeiriad wedi ei wneud ar ran yr unigolyn. Soniwyd hefyd am achosion ble mae unigolion wedi cael tabledi yn unig gan y meddygon teulu a ni chynhigiwyd cymorth pellach.

·         Ychwanegwyd fod diffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb efo meddygon yn creu pryderon yn enwedig i’r sawl sydd ddim yn defnyddio rhaglenni fel Zoom. Mynegwyd balchder fod pethau i’w gweld yn gwella ac apwyntiadau wyneb yn wyneb yn cael eu hadfer.

·         Mynegwyd fod y nifer o gyfeiriadau yn ystod 2021 yn uchel; gofynnwyd sut oedd y ffigyrau hyn yn cymharu â blynyddoedd blaenorol.

·         Holiwyd sut mae’r Adran yn mynd i’r afael â’r anawsterau recriwtio a’r prinder staff oherwydd absenoldebau a swyddi gwag sydd yn cyfrannu at restrau aros.

·         Gwnaethpwyd sylw am y problemau yn y maes Iechyd Meddwl ac oddi fewn y Bwrdd Iechyd a mynegwyd pryder am fod y Cyngor mor ddibynnol ar wasanaethau'r Bwrdd Iechyd. Cwestiynwyd os ydi’r Cyngor yn datgan y problemau sy’n cael eu profi ac yn herio’r Bwrdd Iechyd yn ddigonol. Roedd dymuniad i’r Cyngor gydnabod y problemau hyn a chredwyd y dylai fod wedi ei nodi yn yr adroddiad.

·         Cwestiynwyd os yw’r gefnogaeth ddigonol yn cael ei roi i unigolion sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl.

·         Pryderwyd am les meddyliol plant a pe bai hyn yn arwain at broblemau Iechyd Meddwl hir dymor; holwyd os oedd adnodd ychwanegol wedi ei roi mewn ysgolion er enghraifft i ddelio â hyn.

·         Diolchwyd am yr adroddiad gan nodi y byddai derbyn diweddariad pellach yn cael ei groesawu.

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Bod cyfeiriadau i’r Gwasanaeth fel arfer yn cael eu gwneud gan y meddygon teulu. Adroddwyd bod unigolion yn cael trafferth derbyn apwyntiad efo’u meddygon teulu yn achlysurol, mewn achosion fel hyn gellir gofyn i weithwyr eraill sy’n cefnogi unigolion i wneud y cyfeiriad. Adroddwyd fod croeso i Aelodau gysylltu yn uniongyrchol efo’r Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd ac Iechyd Meddwl os ydynt yn dymuno sgwrs bellach am achosion penodol.

·         Nad oes ffigyrau cyfeiriadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN GWEITHREDU TAI pdf eicon PDF 732 KB

I ddarparu diweddariad ar weithrediad y Cynllun Gweithredu Tai, Adran Tai ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

b)    Gofyn am ddiweddariad pellach i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar y Cynllun Gweithredu Tai flwyddyn nesaf.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Tai ac Eiddo a chynhigiwyd diweddariad ar rai o brif brosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020.

 

Adroddwyd ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni ers mabwysiadu’r Cynllun ym mis Ebrill 2021, oedd yn cynnwys adeiladu 89 tŷ cymdeithasol a dod 41 o dai gwag yn ôl i ddefnydd. Derbyniwyd trosolwg o brosiectau a meysydd unigol gan fanylu ar y cynnydd sydd wedi ei wneud a'r camau sydd ar y gweill.

 

Cyfeiriwyd at yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan yr Adran megis y cynnydd sylweddol yn y nifer o gyflwyniadau digartref a dderbyniwyd ac amlinellwyd ar y datblygiadau sydd ar y gweill i ddelio â’r heriau hyn. Tynnwyd sylw’r Aelodau at y prosiect Siop un Stop a’r cam nesaf o adnabod modelau gwahanol ar gyfer gweithrediad yr uned. Yn dilyn casglu gwybodaeth ac ymgynghori bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar yr opsiynau gwahanol.

 

Ategwyd pwysigrwydd cyfathrebu ac adrodd ar lwyddiannau’r Cynllun Gweithredu Tai gan ychwanegu bod tudalen eisoes wedi ei sefydlu ar y Fewnrwyd Aelodau er mwyn cyhoeddi diweddariadau i Aelodau. Ychwanegwyd y byddai’r Adran yn croesawu’r cyfle i ddychwelyd at y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol i roi diweddariad pellach ar gynnydd y Cynllun. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd am adroddiad manwl a Chynllun uchelgeisiol sy’n adnabod ac ymateb i broblemau Tai'r Sir.

·         Mynegwyd gwerthfawrogiad am waith yr Adran a mynegwyd balchder yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma. Edrychwyd ymlaen at yr hyn gellir ei gyflawni yn y dyfodol.

·         Nodwyd nad oedd nifer o dai yn ardal Blaenau Ffestiniog yn cyrraedd y safon briodol; serch hyn roedd y tai yn cael eu rhentu i drigolion am nad oedd eiddo o safon well ar gael. Holiwyd os yw Swyddogion o fewn yr Uned Dai yn parhau i ymweld ag eiddo rhent preifat er mwyn gwirio eu safon a chost y rhent fel yn y gorffennol. Cwestiynwyd os oedd y Cynllun yn mynd i’r afael a thai anaddas.

·         Gofynnwyd sut mae’r Cyngor yn cydweithio efo Rent Smart Wales. Credwyd bod y sefydliad hwn yn nodi safonau disgwyliedig ond fod pobl yn derbyn tai o safon is oherwydd prinder eiddo yn y Sir.

·         Gofynnwyd beth oedd y rhesymau dros y nifer isel o’r ymatebion a dderbyniwyd pan gafodd dros 300 o lythyrau eu gyrru at berchnogion tai gwag ar draws y Sir. Holwyd ymhellach pryd ddaeth y 41 o dai gwag yn ôl i ddefnydd.

·         Gwnaethpwyd sylw fod llawer mwy o’r grantiau tai gwag i brynwyr tro cyntaf wedi eu rhoi i ymgeiswyr o ardal Arfon o gymharu ag ymgeiswyr o Dde’r Sir. Holwyd os oedd yna restr aros ar gyfer Meirionnydd neu reswm pan nad oedd pobl o Dde’r Sir yn ymgeisio am y grantiau hyn. Tybiwyd y dylid gwneud mwy i hyrwyddo’r grantiau yma yn Ne’r Sir.

·         Arsylwyd bod rhaid i bobol fod yn wynebu digartrefedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

STRATEGAETH FAETHU YNG NGWYNEDD pdf eicon PDF 332 KB

I dderbyn diweddariad ar y Strategaeth Faethu yng Ngwynedd yng nghyd-destun y Fframwaith Maethu Cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth.

b)    Argymell i’r Adran wahodd gofalwyr maeth a phlentyn i’r hyfforddiant Rhiant Corfforaethol fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

Cofnod:

Cafwyd rhagair i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd yn nodi ei bod yn bleser cyflwyno diweddariad ar Strategaeth Faethu Gwynedd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch am y mewnbwn a dderbyniwyd i ddatblygu’r strategaeth yma yn lleol ac yn Genedlaethol; ac i ddiolch i’r teuluoedd sydd yn maethu am eu gwaith arbennig ac ymroddgar. Ychwanegwyd fod Pennaeth Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Gwynedd yn arwain ar y strategaeth ranbarthol ar ran yr awdurdodau ac yn aelod o’r grŵp llywio cenedlaethol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gweithredol - Adnoddau Gofal gan nodi ei fod yn ddilyniant ar adroddiad a gyflwynwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor ar y Strategaeth Faethu Genedlaethol. Nodwyd bellach fod tîm Cenedlaethol wedi ei sefydlu fel estyniad o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol fydd yn parhau i roi ffocws i’r gwaith hwn. Adroddwyd fod y chwe Rheolwr rhanbarthol yn cyfleu’r negeseuon yn lleol ac yn sicrhau fod y rhaglen waith yn mynd yn ei flaen o fewn eu rhanbarthau a Siroedd. 

 

Adroddwyd ar y sefyllfa maethu yng Ngwynedd gan nodi fod yr angen am leoliadau newydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn; oherwydd hyn mae denu gofalwyr maeth newydd yn un o brif nodau'r fframwaith maethu. Pwrpas y gwasanaeth maethu yng Ngwynedd yw darparu cartref diogel a hapus i blant Gwynedd a thanlinellwyd ar flaenoriaethau’r tîm er mwyn cwrdd â’r pwrpas.

 

Adroddwyd bod deg gweithiwr Cymdeithasol o fewn y tîm. Bellach mae pedwar yn canolbwyntio ar y gofalwyr maeth teuluol ac yn rhoi ffocws clir i’r gwaith yno, tra bod y chwe gweithiwr cymdeithasol arall yn cefnogi ac asesu gofalwyr maeth cyffredinol. Nodwyd bod Rheolwr y  Tîm Maethu yn gweithredu fel Rheolwr Datblygu Maethu ar draws rhanbarth y Gogledd am gyfran o’r wythnos, ac o ganlyniad mae dau Arweinydd Ymarfer yn arwain ar y ddau faes gwaith. Ychwanegwyd bod Swyddog Marchnata Rhanbarthol wedi ei phenodi sydd yn gyflogedig gan Wynedd ac yn gwasanaethu’r chwe awdurdod ar draws y Gogledd. Bydd y Swyddog yn gwneud gwaith pellach ar ddatblygu strategaeth recriwtio a marchnata ar draws y rhanbarth.

 

Ategwyd ei bod yn bwysig darganfod faint o ofalwyr fydd ei hangen er mwyn cyflawni anghenion plant yng Ngwynedd. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm Maethu bod Gwynedd angen edrych ar gynnydd o 25% mewn gofalwr maeth er mwyn parhau i fod mewn sefyllfa sefydlog; dangosa hyn pa mor hanfodol yw’r gweithgareddau recriwtio.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd i’r Uned am eu gwaith da a mynegwyd gwerthfawrogiad i’r rhieni maeth.

·         Credwyd fod y brandio Maethu Cymru yn dal llygad ac yn sefyll allan ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

·         Cydnabyddwyd gwaith caled y tîm wrth geisio ymateb i’r her recriwtio a chroesawyd penodiad y swyddog marchnata rhanbarthol. Gwnaethpwyd sylw am y lleihad bychan yn niferoedd y gofalwyr oherwydd ymddeoliadau ond ei bod yn galonogol clywed am y gwaith marchnata a recriwtio sy’n cael ei wneud.

·         Holiwyd os ydyw yn anoddach dod o hyd i rieni maeth i faethu plant hŷn er enghraifft plant yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.