skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr R. Medwyn Hughes, Olaf Cai Larsen, Peter Read.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fuddiant personol yn Eitem 5 - Adroddiad Ymchwil Cefnogi Pobl Anabl yn Gwynedd - oherwydd bod ei wraig yn defnyddio cadair olwyn.

 

‘Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant sydd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 359 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 6ed Fehefin 2019 yn gywir. (atodir).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

 

5.

ADRODDIAD YMCHWIL CEFNOGI POBL ANABL YN GWYNEDD pdf eicon PDF 959 KB

Bydd adroddiad terfynol ar yr ymchwiliad yn cael ei gyflwyno gan Bethan Richardson (Swyddog Cymorth Busnes y Cyngor), ar ran Aelodau'r Gweithgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymneilltuodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts o’r gadair er mwyn cyflwyno’r adroddiad gan ei fod yn gadeirydd yr Ymchwiliad Craffu. Bu i’r is-gadeirydd gadeirio’r eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad terfynol Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn) gan gadeirydd yr ymchwiliad, y Cynghorydd Dewi Roberts. Nododd fod yr ymchwiliad wedi codi’r llen ar wasanaeth darparu cadeiriau olwyn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ar gyfer gogledd Cymru. Ychwanegodd fod y problemau a adnabuwyd wedi eu rhannu gyda’r Gwasanaeth Iechyd a bod ymateb i ganfyddiadau’r ymchwiliad wedi ei dderbyn a’i gynnwys fel atodiad i’r adroddiad. Wrth gloi nododd fod gwelliannau i’r gwasanaeth wedi eu gwneud yn barod, gan gynnwys gwella cydweithio gyda swyddogion iechyd galwedigaethol. Diolchodd i’r Swyddog Cefnogi Busnes am ei gwaith, ac i’r Gwasanaeth Iechyd am eu cydweithrediad. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor.

 

Mynegwyd braw a phryder am y rhestrau aros am gyfarpar a chadeiriau olwyn. Mewn ymateb nododd cadeirydd yr ymchwiliad fod nifer o ffactorau yn cyfrannu at yr amseroedd aros. Ymysg y ffactorau oedd y cyfnod amser aros er mwyn i therapydd galwedigaethol ddod i asesu cartrefi. ‘Roedd yn bosib i’r Cyngor gynnig cymorth i wneud y gwaith, ond byddai angen sicrhau cyfathrebu effeithiol pe bai hynny’n cael ei weithredu.

 

Ffactor arall oedd yn cael effaith ar yr amser oedd yn ei gymryd i ddarparu cadeiriau olwyn oedd y gallai cyflwr y defnyddiwr newid yn y cyfnod rhwng asesiad a chyflenwi’r gadair. Pwysleisiwyd fod y gwasanaeth oedd yn cael ei gynnig i gleifion pediatrig yn cymryd llai o amser, a bod hynny wedi ei adlewyrchu yn ystadegau perfformiad y gwasanaeth. Ychwanegwyd bod posibilrwydd cryf bod ystadegau perfformiad y gwasanaeth yn cuddio nifer fawr o gwynon anffurfiol gan mai dim ond y cwynion swyddogol oedd wedi eu cofnodi.

 

Nodwyd bod y maes darparu cadeiriau olwyn yn un arbenigol, a bod problemau dybryd yn medru codi pe nad oedd cadair olwyn yn ffitio’n iawn. Sut oedd cyrraedd targedau perfformiad heb gyfaddawdu safon y ddarpariaeth?

Mewn ymateb nododd cadeirydd yr ymchwiliad mai cwestiwn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd hwnnw. Ychwanegodd y Swyddog Cefnogi Busnes mai prif fwriad a chanfyddiadau’r ymchwiliad oedd amlygu bod problem yn bodoli, gan drosglwyddo’r awenau i bwyllgorau’r Bwrdd Iechyd er mwyn gwneud gwaith pellach.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn adroddiad Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Cadeiriau Olwyn), gan gyflwyno ei argymhellion i’r Aelodau Cabinet perthnasol .

Monitro cynnydd ar weithredu yr argymhellion wedi 6 mis.