Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a & 1b, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019/20. Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor
Gwynedd) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20. Cofnod: Etholwyd y Cynghorydd Mark Pritchard (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ian Bancroft
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), Iwan Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy), Sasha Davies (Bwrdd Cyflawni Busnes), Dafydd Edwards (Cyngor Gwynedd) a
David Jones (Coleg Cambria). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 96 KB Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17
Mai, 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2019 fel rhai cywir. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.
O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma
fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.
O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. |
|
PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN Penodi
Cyfarwyddwr Rhaglen (ceisiadau a
dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: I gynnig y
swydd i Mr Iwan Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol,
mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i
gadarnhau yr amodau a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd bwyllgor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Geraint Owen,
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y Corff Atebol. PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i Mr Iwan
Trefor Jones, gan awdurdodi Prif Weithredwr y Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â
Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd i gadarnhau yr amodau
a’r telerau yn unol â chyfarwyddyd y Cyd-bwyllgor. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Gweithredu i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar
gyfer y Cynllun Twf. |