Lleoliad: Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan David Jones (Coleg Cambria), Yr Athro Iwan
Davies ( Prifysgol Bangor) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel
y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 79 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 18fed
Hydref 2019 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd
ar 18 Hydref 2019 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR Y CYNLLUN TWF PDF 161 KB Adroddiad
gan Colin Everett (Prif
Weithredwr Arweiniol – Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru) Penderfyniad: Derbyniwyd
yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd
fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg: ¾
Y buasai
llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith ar
dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith ar y
gallu i gyflawni prosiectau yn llwyddiannus o fewn yr amserlen. ¾
Cynllun
Economaidd Llwyodraeth Cyrmu ddim yn cyd fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y
Bwrdd Uchelgais Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Colin Everett, Y Prif Weithredwr Arweiniol. PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd
fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg: ¾
Y
buasai llithriad yn yr amserlen
i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith
ar dderbyn arian y Cynllun
Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith
ar y gallu i gyflawni prosiectau
yn llwyddiannus o fewn yr amserlen. ¾
Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru ddim yn cyd
fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y Bwrdd Uchelgais RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi
diweddariad ar ddatblygiad Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnwyd sylw at
arwyddo’r Penawdau’r Telerau, Penodiadau yn y swyddfa’r rhaglen ynghyd ac
adrodd ar waith o adolygu a diweddaru’r Rhaglen Waith ynghyd a chofrestr risg. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bellach fod
y Penawdau’r Telerau wedi ei llofnodi cyn y cyfnod cyn etholiadol. Ychwanegwyd
drwy eu llofnodi fod £240 miliwn o fuddsoddiad wedi ei sicrhau ac y bydd angen
llofnodi’r fargen derfynol yn ystod trydydd chwarter 2020/21. Mynegwyd fod pum penodiad wedi ei wneud i’r
Swyddfa Rhaglen a bod lleoliad i’r Swyddfa Rhaglen wedi ei gadarnhau. Nodwyd y
bydd trafodaeth bellach ar y rhaglen waith a’r gofrestr risg yn y cyfarfod
nesaf. Pwysleisiwyd y bydd angen ychwanegu risg i’r gofrestr yn nodi pe bai
llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol byddai’n cael effaith ar dderbyn arian y Cynllun Twf
gan y Llywodraeth. Nodwyd dyddiadau’r cyfarfodydd yn 2020 a
diolchwyd i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod dros dro. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ¾
Trafodwyd strwythur y Swyddfa raglen.. ¾
Diolchwyd i’r aelodau am fynd i lofnodi’r Penawdau’r
Telerau. ¾
Nodwyd o ran y gofrestr
risg nad
yw Cynllun Economaidd Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd
a’r Weledigaeth Twf ac y gallai fod yn risg. ¾
Ategwyd fod y cyfarfod nesaf wedi ei amserlennu
i fod ddiwrnod
ar ôl yr
etholiad, o ganlyniad i hyn penderfynwyd
gohirio’r cyfarfod. |
|
Adroddiad gan Nia Medi Williams (Uwch Swyddog
Gweithredol, Cyngor Gwynedd) a Barbara Burchell (Prif Swyddog Datblygu Prosiectau
Ewropeaidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) Penderfyniad: Penderfynwyd i: ¾ Ddirprwyo’r hawl i Gyngor Gwynedd fel Corff Lletya
i baratoi a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar sail cynnwys yr adroddiad. ¾ Ddirprwyo’r
hawl i Brif Weithredwr y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr
Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i dderbyn cynnig grant
gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect (£5.6miliwn) ar gyfer y
cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023. ¾ Gadarnhau y
bydd y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i gyfrannu 50% o arian cyfatebol yn bennaf
drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau
partneriaid). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Jane Richardson, Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy. PENDERFYNWYD Penderfynwyd i: ¾ Ddirprwyo’r hawl i Gyngor
Gwynedd fel Corff Lletya i baratoi
a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar
sail cynnwys yr adroddiad. ¾ Ddirprwyo’r hawl
i Brif Weithredwr
y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i
dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig
ar 50% o gyfanswm cost y prosiect
(£5.6miliwn) ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023. ¾ Gadarnhau y bydd
y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i
gyfrannu 50% o arian cyfatebol
yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau partneriaid). RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd
fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi bod yn gweithio ar gais Cronfa
Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) i ddylunio ac adeiladu’r capasiti
angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r Cynllun Twf Gogledd Cymru. Ychwanegwyd y bydd
y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r weledigaeth
Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen.
Mynegwyd fod y cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau
y gall y Bwrdd Uchelgais fwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes. Ategwyd
fod y Grŵp Swyddogion Gweithredol wedi datblygu’r manylion ar gyfer y
Cynllun Busnes a bydd y Cynllun yn cael ei gyflwyno i WEFO yn dilyn
cymeradwyaeth y Bwrdd Uchelgais. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan dynnu sylw at addasiadau i’r adran gyllidol yn yr adroddiad.
Ychwanegwyd fod cam cyntaf y cais wedi ei gwblhau ac mae WEFO wedi cadarnhau y
bydd modd bwrw ymlaen i’r cam Cynllunio Busnes. Ategwyd fod strwythur staffio wedi ei greu
ac y bydd angen rhai aelodau staff yn eu lle erbyn mis Ebrill er mwyn i WEFO
edrych yn ffafriol ar y cais. Ychwanegwyd os bydd y Bwrdd Uchelgais yn
llwyddiannus ar cais bydd modd
ôl-ddyddio costau staff ac yn galluogi’r rhanbarth i adhawlio costau staffio o
Orffennaf 2018. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd fod y Bwrdd Uchelgais wedi cadw argostau
yn isel a buasai cael adhawlio
costau staffio yn sicrhau y bydd arian wrth gefn i
gymorthdalu amrywiol gostau. ·
Holwyd beth oedd amserlen cael
gwybod os yn llwyddiannus a'r cais, nodwyd
y bydd yn anodd cael dyddiad
pendant ond y bydd yn fwy clir
yn dilyn cyflwyno’r cais i WEFO. ·
Mynegwyd y bydd y swyddi a fydd yn cael
eu penodi o fis Ebrill ymlaen
yn ddibynnol ar gadarnhau y bydd y Bwrdd Uchelgais
yn derbyn yr arian grant ac na fydd y swyddi
yn cael eu
hysbysebu nes y bydd cadarnhad o’r arian grant. |
|
CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH RHANBARTHOL PDF 190 KB Adroddiad gan David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Rhaglen Sgiliau) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cadarnhawyd y Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u
hamlinellu yn y cynllun. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Roberts,
Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a Sian Lloyd Roberts, Rheolwr y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol PENDERFYNIAD Cadarnhawyd y Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u
hamlinellu yn y cynllun. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd fod y Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth
Gogledd Cymru 2019-2022 wedi’i ddatblygu fel Sylfaen i ddull gweithredu
strategol Llywodraeth Cymru i gyflawni darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn y
rhanbarth. Mynegwyd
fod yr adroddiad yn adrodd i’r Bwrdd ar y cynllun Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol
sydd wedi ei gynhyrchu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn
dilyn ymgynghoriadau gyda’r rhan ddeiliaid a darparwr rhanbarthol a’r diwydiant
rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlinellu
rhai o’r cynlluniau yn dilyn ymgynghoriad eang a gynhaliwyd yn ystod yr haf.
Mynegwyd eu bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno a’r cynllun fel
bod modd symud ymlaen a’r cynlluniau. Ategwyf fod Uwchgynhadledd Sgiliau yn
cael ei gynnal ym mis Tachwedd a fydd yn amlygu ‘r prif ffocws. Pwysleisiwyd fod y blaenoriaethau wedi eu
creu yn dilyn casglu tystiolaeth gyda rhan ddeiliaid. Amlinellwyd y
blaenoriaethau gan nodi mai’r camau nesaf fydd i ddatblygu’r blaenoriaethau
ymhellach ar gyfer creu cynllun gweithredu penodol a manwl a fydd y ogystal
yn gynllun cyflawni yn y tair blynedd
nesaf. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn:- ·
Diolchwyd
am y cyflwyniad a chytunwyd ar y 3 blaenoriaeth gan ychwanegu efallai pedwerydd
- swyddi cynaliadwy. Ategwyd fod angen cadw staff yn eu swyddi er mwyn lleihau
staff trosiannol ac i gadw talent yn yr ardal. ·
Mynegwyd
fod angen pwysleisio fod y maes twristiaeth yng Nghymru yn un ble mae modd
datblygu a derbyn cyflogau uchel. ·
Nodwyd
fod y gwaith gan Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau wedi cael effaith positif ar
sut mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn cael ei weld gan y Prifysgolion
a’r Colegau. ·
Tynnwyd
sylw at y Gymraeg gan amlygu mai dim ond un frawddeg sydd yn cyfeirio at y Gymraegyn y Cynllun. Mynegwyd fod angen uchafu’r Gymraeg. ·
Amlygwyd
fod materion gweledig yn codi o ran anawsterau mynediad, nodwyd fod cynllun Leader ar gael ond efallai y bydd yn dod i ben ac o
ganlyniad fod angen ei nodi fel bygythiad. |
|
FFRAMWAITH DATBYLGU CENEDLAETHOL PDF 235 KB Adroddiad gan Andrew Farrow (Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, Cyngor
Sir y Fflint) a Graham Boase (Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a'r Cylch
Cyhoeddus, Cyngor Sir Ddinbych) Penderfyniad: Diwygio’r ymateb i
ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel sydd wedi’i amlinellu yn
Atodiad 2, i gynnwys unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y cyfarfod hwn o’r
Bwrdd Uchelgais a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 18 Tachwedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Andrew Farrow (Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi -
Cyngor Sir y Fflint) PENDERFYNIAD Diwygio’r ymateb i ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel
sydd wedi’i amlinellu yn Atodiad 2, i gynnwys unrhyw faterion sy’n codi yn
ystod y cyfarfod hwn o’r Bwrdd Uchelgais a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn
18 Tachwedd. RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD Nodwyd fod y Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol yn pennu ymhle y bydd datblygiadau’n digwydd o fewn y rhanbarth.
Ychwanegwyd ei bod yn hanfodol fod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn
adlewyrchu yn gywir amcanion y Bwrdd Uchelgais a'r Strategaeth Economaidd
Ranbarthol sydd wedi’i mabwysiadu a’r Cynllun Twf sydd ar ddod. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi ble fydd datblygiadau yn cael ei
gwneud hyd 2040. Mynegwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal ar y fframwaith fod
13 pwynt wedi eu codi gan y Bwrdd Uchelgais. Amlygwyd yr 13 pwynt. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd
fod cyfle i drafod y materion yma a’r Aelodau Cabinet ddydd Iau nesaf ¾
Mynegwyd
fod angen edrych ar drafnidiaeth dros y ffin yn Lloegr ac i beidio canolbwyntio
ar Gymru yn unig. ¾
Mynegwyd
y bydd disgwyliad gan y Llywodraeth i Gynlluniau Datblygu Lleol gael eu haddasu
i gyd fynd a’r fframwaith Datblygu Cenedlaethol. ¾
Pwyslesiwyd fod angen i’r ymateb
fod yn fwy siarp a nodi’r risgiau yn glir drwy addasu’r paragraff cyntaf.
Nodwyd y bydd ymatebion yn mynd o bob awdudrdod lleol
yn ogystal. |