Lleoliad: Ystafell Madog, Coleg Llandrillo, Ffordd Llandudno, Llandrillo yn Rhos, Conwy LL28 4HZ
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Hugh Evans (Cyngor Sir Ddinbych), Yr
Athro Iwan Davies(Prifysgol Bangor), Yana Williams (Coleg Cambria) a Dilwyn
Williams (Cyngor Gwynedd). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol ar
gyfer eitem 9 – Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes gan y canlynol: ¾ Dafydd Evans (Grŵp
Llandrillo Menai) ¾ Askar Sheibani
(Bwrdd Cyflawni Busnes) yr oedd yn fuddiant a oedd yn a oedd yn
rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir
eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAERNOROL PDF 87 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 15 Tachwedd 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y
Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2019 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 179 KB Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais. Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson - Cadeirydd Grŵp
Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais. PENDERFYNWYD Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn rhoi diweddariad ar y cynnydd gan y
Grŵp Swyddogion Gweithredol. Derbyniwyd diweddariad ar apwyntio pedwar
aelod o staff i’r Swyddfa Rhaglen, sydd yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen. Hefyd, nodwyd y bydd gweithdy Llywodraethu yn
cael ei gynnal ar gyfer 14 Chwefror 2020, ac fe dderbyniwyd diweddariad ar
waith Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod llawer o waith wedi ei wneud yn
dilyn y cyfarfod blaenorol. Mynegwyd fod ffocws clir wedi ei amlygu yn ystod y
cyfnod pontio ac amlinellwyd rôl y Bwrdd Uchelgais, Swyddfa Raglen a'r
Grŵp Gweithredol. Nodwyd na fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Cadeirio’r
Grŵp Gweithredol am y tro a bydd Jane Richardson yn parhau fel Cadeirydd. Amlygwyd fod Gweithdy Llywodraethu wedi ei drefnu ar 14 Chwefror.
Mynegwyd yn ogystal fod gwaith wedi ei wneud i gryfhau’r berthynas a Thîm
Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a thrafodaethau yn cael eu cynnal ar sut y bydd
modd gweithio ar y cyd ar y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol ac adolygu’r
Weledigaeth Twf. Nodwyd mai un o’r blaenoriaethau nesaf fydd i greu strategaeth
gyfathrebu ac i benderfynu beth mae’r Swyddfa Raglen am ei gyflwyno i Ogledd
Cymru. Pwysleisiwyd fod angen naratif i’r Gogledd a sut y bydd y Weledigaeth
Twf yn gweu i mewn i’r naratif. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd balchder fod cydweithio gwell a Llywodraeth
Cymru. Mynegwyd pwysigrwydd creu fframwaith ar y cyd ac yr un weledigaeth. ·
Trafodwyd y Grŵp Gweithredol gan drafod y
gadeiryddiaeth. Pwysleisiwyd yr angen i’r Cyfarwyddwr Rhaglen fod yn aelod gan
y bydd yn anodd cyflwyno eitemau ac i gadeirio. ·
Pwysleisiwyd yr angen i arwyddo'r Penawdau’r
Telerau erbyn mis Hydref. Ychwanegwyd fod angen trafodaeth mewn gweithdy am ba
mor hyblyg yw’r ddwy Lywodraeth o ran cynlluniau yn y wedd gyntaf a’r ail.
Pwysleisiwyd gan mai prosiectau yw gwraidd yr holl raglen y bydd angen bod yn
hyblyg. Mynegwyd yr angen i’r Llywodraeth fod yn gwbl eglur o bryd mae’r
prosiectau yn symud i fod yn rhaglen. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2019) PDF 523 KB Adroddiad gan Dafydd L.Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd
yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2019/20, a
cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa wrth gefn fel y
bydd ar gael yn y dyfodol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards – Pennaeth Cyllid Statudol. PENDERFYNWYD Derbyniwyd yr adolygiad trydydd chwarter o gyllideb y Bwrdd Uchelgais ar
gyfer 2019/20, a cytunwyd i drosglwyddo unrhyw danwariant yn 2019/20 i’r gronfa
wrth gefn fel y bydd ar gael yn y dyfodol. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Adroddwyd ar y gwahanol benawdau cyllideb roedd yn gorwario / tanwario,
a nodwyd fod amcangyfrif y bydd tanwariant net o £117,424 ar ddiwedd 2019/20, fydd
yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn a sefydlwyd ar ddiwedd
2018/19. Er mwyn gweithredu yn effeithiol, mae angen i’r Cydbwyllgor (y Bwrdd
Uchelgais) fod yn ymwybodol o’i sefyllfa gwariant hyd yma a’r rhagamcanion
gwariant eleni yn erbyn ei gyllideb flynyddol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y bydd y gyllideb ar gyfer 2020/21 yn
cael ei thrafod yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegwyd nad oes newid mawr wedi bod
dros y chwarter diwethaf. Tywyswyd drwy’r daenlen gan bwysleisio fod tanwariant
oherwydd bod oediad wedi bod yn penodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen. Amlygwyd fod
incwm ychwanegol wedi ei ychwanegu ar gyfer grant ESF os fydd y cais yn cael ei
gymeradwyo. Mynegwyd y bydd sefyllfa derfynol yn cael ei drafod ym mis Mehefin, a
derbyniwyd y bydd unrhyw danwariant yn cael ei drosglwyddo i’r gronfa wrth gefn
sydd wedi’i chlustnodi, Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Amlygwyd fod arian wrth gefn ar gyfer unrhyw gostau
pellach ac i leihau’r baich a’r gofyn am arian gan bartneriaid. ·
Holwyd faint o arian sydd yn cael ei drosglwyddo am
eleni a faint o arian sydd wrth gefn, nodwyd fod £117,424 yn cael ei
drosglwyddo ar gyfer eleni a bydd hyn yn dod a’r cyfanswm i £453,000. |
|
Adroddiad
gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen Penderfyniad: Cymeradwyo’r Strwythur
Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen
mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid
Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y gyllideb. Cymeradwyo’r dyddiadau
cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur staffio, a penodi i’r Swyddfa Rhaglen
cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb
graidd a chyllideb ESF (fel y’i rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad). Penderfynwyd, yn amodol ar
y materion sydd wedi ei amlygu yn yr adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen
i greu y swyddi ac ymgymryd â’r broses benodi yn unol â threfniadau a
pholisïau’r Corff Lletya. Penderfynwyd dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad a Prif Weithredwr y Corff
Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig grant gan WEFO yn seiliedig
ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod Gorffennaf 2018 at Mehefin
2023. Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd
Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol, yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu
prosiectau a chyllideb craidd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r Strwythur Staffio ar gyfer y Swyddfa Rhaglen, a dirprwyo’r
hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad gyda Phrif Weithredwr y Corff
Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i addasu’r strwythur fel yr angen o fewn y
gyllideb. Cymeradwyo’r dyddiadau cychwyn ar gyfer staff o fewn y strwythur
staffio, a phenodi i’r Swyddfa Rhaglen cyn y Cytundeb Terfynol, lle mae’r
swyddi yn fforddiadwy o fewn y gyllideb graidd a chyllideb ESF (fel y’i
rhestrwyd yn rhan 4.2.5 o’r adroddiad). Penderfynwyd, yn amodol ar y materion sydd wedi ei amlygu yn yr
adroddiad, awdurdodi’r Cyfarwyddwr Rhaglen i greu'r swyddi ac ymgymryd â’r
broses benodi yn unol â threfniadau a pholisïau’r Corff Lletya. Penderfynwyd dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad
a Prif Weithredwr y Corff Lletya a’r Swyddog Cyllid Statudol i dderbyn cynnig
grant gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect ar gyfer cyfnod
Gorffennaf 2018 at Fehefin 2023.
Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Uchelgais yn cyfrannu 50% o arian cyfatebol,
yn bennaf drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Bydd y grant ESF yn rhoi arian i’r rhanbarth i ddatblygu a gweithredu’r
Weledigaeth Twf drwy sefydlu Swyddfa Rhaglen. Bydd y Swyddfa Rhaglen yn cychwyn
gyda thîm craidd o swyddogion wedi’i ariannu’n rhannol drwy’r grant ESF. O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi
swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr ar gytundebau llawrydd. Pwysleisiwyd
na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r arian wedi ei
dderbyn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ddiweddariad ar y cais grant.
Amlygwyd y swyddi oedd yn rhan o’r cais a'r dyddiadau ar gyfer penodi a chychwyn
y swyddi. O ran y gyllideb, mynegwyd ei bod yn fwy cost effeithiol i benodi
swyddogion yn hytrach na’ penodi ymgynghorwyr staff ar gytundebau llawrydd.
Pwysleisiwyd na fydd penodiadau yn cael ei gwneud hyd nes y bydd cadarnhad o’r
arian wedi ei dderbyn. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Holwyd pryd y bydd cadarnhad oes yn derbyn yr
arian. Mynegwyd fod arwyddion yn ymddangos fel y bydd y cais yn cael ei dderbyn
a diolchwyd i Gyngor Conwy am y gwaith o baratoi’r cais. ·
Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng rheolwr rhaglen a
rheolwr prosiect. Pwysleisiwyd fod y swyddi yma yn parhau i ddatblygu ac i gael
ei addasu er mwyn sicrhau nad oes dyblygu yn benodol wrth edrych ar rôl
swyddogion y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol sydd eisoes yn weithredol yn y
rhanbarth. ·
O ran derbyn yr arian, mynegwyd unwaith yn cael y
cadarnhad fod yr arian ar gael y bydd
modd gwneud cais am ôl-daliad ac yna yn hawlio'r arian yn chwarterol. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol. |
|
CADEIRYDD Y BWRDD CYFLAWNI BUSNES - RHESTR FER Tynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y swydd Cadeirydd y Bwrdd
Cyflawni Busnes (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig). Penderfyniad: Bod pedwar o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer ar gyfer
cyfweliad. Cofnod: PENDERFYNIAD Bod pedwar o’r ymgeiswyr yn
gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Byddai tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig milltir allweddol
yn y broses o recriwtio a phenodi unigolyn i’r swydd allweddol hon. |