Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndwr), Anwen Morgan (Cyngor Sir Ynys Môn), Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd), Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych), Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai) a Ian Bancroft (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan yr Athro Iwan Davies ar gyfer eitem 6 – gan fod y cais yn ymwneud â Prifysgol Bangor, ac felly bu iddo ymatal o’r Cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr achos busnes 

Derbyniwyd datganiad o Fuddiant Personol gan Askar Sheibani ar gyfer eitem 6 gan ei fod yn rhan o’r cais ac felly bu iddo ymatal o’r cyfarfod ar y drafodaeth ar achos busnes  

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.  

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

Cofnod:

Penderfynwyd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

5.

ACHOS AMLINELLOL PROSIECT CANOLBWYNT ECONOMI WLEDIG GLYNLLIFON

Ystyried Achos Busnes Amlinellol Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect Canolbwynt Economi Wledig Glynllifon ac yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, a gofynnwyd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyrid yn dilyn cwblhau’r broses gaffael a’r broses gydsynio.

Dirprwywyd cymeradwyaeth derfynol y fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn trafodaeth cyn i noddwr y prosiect ddechrau caffael.

Cytunwyd ar y cynlluniau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail i’r llythyr Cynnig Grant ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd,  Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft i’w cymeradwyo gan y Bwrdd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan Evans, Rheolwr Gweithrediadau 

PENDERFYNWYD 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD 

Yn  unol  â  chytundeb  y  Cynnig  Terfynol,  bydd  achosion  busnes  yn  cael  eu  datblygu  ar  gyfer  pob prosiect yn y Cynllun Twf yn unol â’r canllawiau ‘Better Business Case’ a luniwyd gan Lywodraeth Cymru  a  Thrysorlys  EM. 

Mae cael   cymeradwyaeth   y   Bwrdd   Uchelgais   i’r   Achos   Busnes   Amlinellol   yn   rhoi’r gymeradwyaeth angenrheidiol a fyddai’n galluogi’r prosiect i symud ymlaen i’r rhan nesaf a fyddai, yn  amodol  ar  gymeradwyaeth  Llywodraeth  Cymru  a  Llywodraeth  y  DU  i’r  broses  sicrwydd,  yn golygu bod Achos Busnes Llawn yn cael ei ddatblygu ar gyfer penderfyniad buddsoddi terfynol gan y Bwrdd Uchelgais.   

TRAFODAETH 

Trafodwyd yr adroddiad

6.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PROSIECT CANOLFAN PROSESU SIGNAL DIGIDOL

Ystyried Achos Busnes Amlinellol Prosiect Canolfan Prosesu Signal Digidol (adroddiad wedi’i gylchredeg i aelodau’r Bwrdd yn unig).

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer prosiect y Ganolfan Prosesu Digidol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a Phrifysgol Bangor yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, a gofynnwyd fod Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi i’r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau’r broses gaffael.

Dirprwywyd cymeradwyaeth derfynol y fanyleb caffael a’r meini prawf gwerth cymdeithasol i’r Cyfarwyddwr Portffolio cyn i noddwr y prosiect ddechrau caffael.

Cytunwyd ar y cynlluniau cyllido terfynol ar gyfer y prosiect a fydd yn sail li’r lythyr Cynnig Grant ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, Swyddog Monitro a Swyddog Adran 151 yr Awdurdod Lletya i gytuno ar delerau drafft i’w cymeradwyo gan y Bwrdd.